William Evans (Eos Eifion): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cerddor a bardd amlwg oedd Eos Eifion (1843-1903), sef William Evans, oedd yn arwain Seindorf Dulyn (Seindorf Nebo), ac am gyfnod Seindorf Llyfnwy (Llanll...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Cerddor a bardd amlwg oedd Eos Eifion (1843-1903), sef William Evans, oedd yn arwain Seindorf Dulyn (Seindorf Nebo), ac am gyfnod Seindorf Llyfnwy (Llanllyfni). I'w gydnabod, adnabyddid ef fel Wil Ifan y Wig. Dywedid ei fod yn ''chwarelwr, canwr a cherddor medrus''.  
Cerddor a bardd amlwg oedd '''William Evans (Eos Eifion)''' (1843-1903), oedd yn arwain [[Seindorf Dulyn]] (Seindorf Nebo), ac am gyfnod [[Seindorf Llyfnwy]] (Llanllyfni). I'w gydnabod, adnabyddid ef fel Wil Ifan y Wig. Dywedid ei fod yn ''chwarelwr, canwr a cherddor medrus''.  


Yn ôl y bardd a'r casglwr hynod o Langybi yn Eifionydd roedd yr Eos hefyd yn ''fardd lled hysbys''. Pan fu farw'r gantores boblogaidd honno, Mair Alaw, mam y dihafal Frodyr Francis o Ddyffryn Nantlle, ym 1881, cyfansoddodd Eos Eifion ddau englyn er cof amdani :
Yn ôl y bardd a'r casglwr hynod o Langybi yn Eifionydd roedd yr Eos hefyd yn ''fardd lled hysbys''. Pan fu farw'r gantores boblogaidd honno, Mair Alaw, mam y dihafal [[Brodyr Francis|Frodyr Francis]] o [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]], ym 1881, cyfansoddodd Eos Eifion ddau englyn er cof amdani :


''Lle gwelir drylliog wylaw - yw Arfon;''
''Lle gwelir drylliog wylaw - yw Arfon;''
Llinell 18: Llinell 18:
''Cadd ergyd drom, siom a saeth,''
''Cadd ergyd drom, siom a saeth,''


''Mair Alaw mewn marwolaeth.''<ref>Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 tt.81, 183</ref>
''Mair Alaw mewn marwolaeth.''<ref>Geraint JOnes, ''Cyrn y Diafol'', (2004) tt.81, 183</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
[[Categori : Bandiau]]
[[Categori : Bandiau]]
[[Categori : Cerddoriaeth]]
[[Categori : Cerddoriaeth]]
[[Categori : Beirdd]]
[[Categori : Beirdd]]

Fersiwn yn ôl 17:15, 27 Mehefin 2019

Cerddor a bardd amlwg oedd William Evans (Eos Eifion) (1843-1903), oedd yn arwain Seindorf Dulyn (Seindorf Nebo), ac am gyfnod Seindorf Llyfnwy (Llanllyfni). I'w gydnabod, adnabyddid ef fel Wil Ifan y Wig. Dywedid ei fod yn chwarelwr, canwr a cherddor medrus.

Yn ôl y bardd a'r casglwr hynod o Langybi yn Eifionydd roedd yr Eos hefyd yn fardd lled hysbys. Pan fu farw'r gantores boblogaidd honno, Mair Alaw, mam y dihafal Frodyr Francis o Ddyffryn Nantlle, ym 1881, cyfansoddodd Eos Eifion ddau englyn er cof amdani :

Lle gwelir drylliog wylaw - yw Arfon;

Ni dderfydd y cwynaw;

Adwyth i'n bron, daeth ein braw

Ym marwolaeth Mair Alaw.


Cur a ddyry, cerddoriaeth - bob un fu'n

Bennaf oll drwy'r dalaeth!

Cadd ergyd drom, siom a saeth,

Mair Alaw mewn marwolaeth.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Geraint JOnes, Cyrn y Diafol, (2004) tt.81, 183