David Price (Dewi Dinorwig): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Dewi Dinorwig i David Price (Dewi Dinorwig)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Brodor o blwyf Llanddeiniolen yn Arfon oedd Dewi Dinorwig. Ei enw bedydd oedd David Price a blynyddoedd ei oes oedd 1804 hyd 1874. Yn y cylchoedd barddonol y'i hadnabyddid fel Dewi Dinoreig, ond yng nghylchoedd yr Annibynwyr, Mr. Price, Dibych ydoedd. Daeth yn fardd ac yn bregethwr tra chymer adwy yng Nghymru ac yn America.
Brodor o blwyf Llanddeiniolen yn Arfon oedd '''Dewi Dinorwig'''. Ei enw bedydd oedd David Price a blynyddoedd ei oes oedd 1804 hyd 1874. Yn y cylchoedd barddonol y'i hadnabyddid fel Dewi Dinorwig, ond yng nghylchoedd yr Annibynwyr, Mr. Price, Dinbych ydoedd. Daeth yn fardd ac yn bregethwr tra chymeradwy yng Nghymru ac yn America.
Yn Hydref 1829 fe'i urddwyd a'i sefydlu'n weinidog ar eglwys Bethlehem yr Annibynwyr yn Nhrefor (Hendre oedd enw'r ardal bryd hynny). Yn rhan o'r ofalaeth roedd eglwysi Annibynnol Capel Helyg (Llangybi) a Sardis (Pencaenewydd). Nid arhosodd ond ychydig dros flwyddyn yn weinidog yr ofalaeth a gadawodd y fro ddiwedd 1830 am Ben-y-bont Fawr ym Maldwyn. Dyma pryd y cynyddodd ei boblogrwydd a'i enwogrwydd fel pregethwr a bardd.
 
Yn Hydref 1829 fe'i urddwyd a'i sefydlu'n weinidog ar eglwys [[Capel Bethlehem (A), Trefor|Bethlehem yr Annibynwyr yn Nhrefor]] (Hendre oedd enw'r ardal bryd hynny). Yn rhan o'r ofalaeth roedd eglwysi Annibynnol Capel Helyg (Llangybi) a Sardis (Pencaenewydd). Nid arhosodd ond ychydig dros flwyddyn yn weinidog yr ofalaeth a gadawodd y fro ddiwedd 1830 am Ben-y-bont Fawr ym Maldwyn. Dyma pryd y cynyddodd ei boblogrwydd a'i enwogrwydd fel pregethwr a bardd.

Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach symudodd i dref Dinbych, ond ym 1857 derbyniodd alwad i fod yn weinidog yn America - yn Utica, Ohio ac Iowa. Bu farw ym 1874 ac fe'i claddwyd gyda'i wraig, Pamela, ym mynwent Forest Home, Milwaukee, Wisconsin. Bwriadodd gael ei englyn enwocaf ei hun ar ei garreg fedd, ond nis torrwyd arni. Dyma'r englyn :

Llinell 51: Llinell 52:

Yn awr i ni.
Yn awr i ni.
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Gweinidogion]]

Fersiwn yn ôl 20:38, 26 Mehefin 2019

Brodor o blwyf Llanddeiniolen yn Arfon oedd Dewi Dinorwig. Ei enw bedydd oedd David Price a blynyddoedd ei oes oedd 1804 hyd 1874. Yn y cylchoedd barddonol y'i hadnabyddid fel Dewi Dinorwig, ond yng nghylchoedd yr Annibynwyr, Mr. Price, Dinbych ydoedd. Daeth yn fardd ac yn bregethwr tra chymeradwy yng Nghymru ac yn America.

Yn Hydref 1829 fe'i urddwyd a'i sefydlu'n weinidog ar eglwys Bethlehem yr Annibynwyr yn Nhrefor (Hendre oedd enw'r ardal bryd hynny). Yn rhan o'r ofalaeth roedd eglwysi Annibynnol Capel Helyg (Llangybi) a Sardis (Pencaenewydd). Nid arhosodd ond ychydig dros flwyddyn yn weinidog yr ofalaeth a gadawodd y fro ddiwedd 1830 am Ben-y-bont Fawr ym Maldwyn. Dyma pryd y cynyddodd ei boblogrwydd a'i enwogrwydd fel pregethwr a bardd.

Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach symudodd i dref Dinbych, ond ym 1857 derbyniodd alwad i fod yn weinidog yn America - yn Utica, Ohio ac Iowa. Bu farw ym 1874 ac fe'i claddwyd gyda'i wraig, Pamela, ym mynwent Forest Home, Milwaukee, Wisconsin. Bwriadodd gael ei englyn enwocaf ei hun ar ei garreg fedd, ond nis torrwyd arni. Dyma'r englyn :

NEWID BYD

Digonwyd fi ar deganau y byd

Aed ei barch ac yntau

I rhyw ddyn a gâr y ddau -

Mynwent a nef i minnau.

Rh

Mae ganddo emyn angladdol fu'n hynod o boblogaidd oes a fu. Fe'i gwelir yng Nghaniedydd yr Annibynwyr (Rhif 629). Dyma'r emyn :

Nac wyled teulu Duw

Ar ôl y saint ;

Maent gyda'r Iesu'n fyw -

Mawr yw eu braint :

'Does yno neb yn glaf,

Mae yno'n haf o hyd

Yng nghwmni'r addfwyn Oen,

O boen y byd.

Tu draw i'r afon ddu

Mae tŷ fy nhad :

'N ôl croesi at y lan,

Mae'r Ganaan wlad ;

Er garwed ydyw'r glyn,

Mae yn y dyffryn du

Oldeuni disglair mawr

Yn awr i ni.