Gerallt Lloyd Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'Roedd '''Gerallt Lloyd Owen''' (1944-2014) yn brifardd a hanai o Gefnddwysarn ym Meirionnydd. Roedd yn frawd i'r Prifardd a'r cyn-Archdderwydd [[Geraint Lloyd Owen]] (Geraint Llifon). Bu'n byw y rhan fwyaf o'i oes ym mhentref [[Llandwrog]].
'Roedd '''Gerallt Lloyd Owen''' (1944-2014) yn brifardd a hanai o Gefnddwysarn ym Meirionnydd. Roedd yn frawd i'r Prifardd a'r cyn-Archdderwydd [[Geraint Lloyd Owen]] (Geraint Llifon). Bu'n byw y rhan fwyaf o'i oes ym mhentref [[Llandwrog]].


Er i'w gyfrol gyntaf, ''Ugain Oed a'i Ganiadau'' (Argraffty'r M.C., Caernarfon, 1966) gael ei gyhoeddi ym 1966, ni ddaeth yn ffigwr amlwg nes iddo gyhoeddi ''Cerddi'r Cywilydd'' ym 1972.<ref>Gweler y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 13.6.2019.</ref>
Er i'w gyfrol gyntaf, ''Ugain Oed a'i Ganiadau'' (Argraffty'r M.C., Caernarfon, 1966) gael ei chyhoeddi ym 1966, ni ddaeth yn ffigwr amlwg nes iddo gyhoeddi ''Cerddi'r Cywilydd'' ym 1972.<ref>Gweler y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 13.6.2019.</ref>


Nodweddir ei farddoniaeth gan ymdeimlad cryf am Gymreictod] a phwyslais ar etifeddiaeth y Cymry a'r angen i'w hamddiffyn. Gwelir hyn yn arbennig o eglur mewn cerddi fel yr awdl] ''Cilmeri'' , am dranc Llywelyn ap Gruffudd, a'r gerdd ''Fy Ngwlad'' (''Cerddi'r Cywilydd'') am yr arwisgiad yng Nghaernarfon] ymn 1969 sy'n agor efo'r llinellau cofiadwy,
Nodweddir ei farddoniaeth gan ymdeimlad cryf o Gymreictod a phwyslais ar etifeddiaeth y Cymry a'r angen i'w hamddiffyn. Gwelir hyn yn arbennig o eglur mewn cerddi fel yr awdl rymus ''Cilmeri'', am dranc Llywelyn ap Gruffudd (ac a enillodd iddo'r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1982, saith gan mlynedd union wedi cyflafan Cilmeri), a'r gerdd ''Fy Ngwlad'' (''Cerddi'r Cywilydd'') am yr arwisgiad yng Nghaernarfon ym 1969, sy'n agor efo'r llinellau cofiadwy,


:Wylit, wylit, Lywelyn,
:Wylit, wylit, Lywelyn,
Llinell 12: Llinell 12:
:Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr.
:Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr.


Ond mae gan ei awen agwedd bersonol hefyd, yn ei gerddi am gyfeillion a pherthnasau, a'i gariad amlwg at ei fro. Mae'n medru bod yn ffraeth yn ogystal, er enghraifft yn ei gerdd ''Trafferth mewn siop'' (yn y gyfrol ''Cilmeri'') am gael gwrthod talu â siec yn y Gymraeg yn siop Marks and Spencers, Llandudno, sy'n adleisio cerdd adnabyddus Dafydd ap Gwilym ''Trafferth mewn Tafarn''.
Ond mae agwedd bersonol i'w awen hefyd, yn ei gerddi am gyfeillion a pherthnasau, a'i gariad amlwg at ei fro. Mae'n medru bod yn ffraeth yn ogystal, er enghraifft yn ei gerdd ''Trafferth mewn siop'' (yn y gyfrol ''Cilmeri'') pan wrthodwyd iddo gael talu â siec yn y Gymraeg yn siop Marks and Spencers, Llandudno. Mae'r gerdd hon yn adleisio cywydd adnabyddus Dafydd ap Gwilym ''Trafferth mewn Tafarn''.


Cyhoeddodd hunangofiant ym 1999 dan y teitl ''Fy Nghawl Fy Hun''.  Golygodd gylchgrawn y Coleg Normal (Y Normalydd), sawl cyfrol yn y gyfres ''Talwrn y Beirdd'', a bu'n gyd-olygydd y cylchgrawn ''Barddas'' am gyfnod.
Cyhoeddodd hunangofiant ym 1999 dan y teitl ''Fy Nghawl Fy Hun''.  Golygodd gylchgrawn y Coleg Normal (Y Normalydd), sawl cyfrol yn y gyfres ''Talwrn y Beirdd'', a bu'n gyd-olygydd y cylchgrawn ''Barddas'' am gyfnod.
Llinell 18: Llinell 18:
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor 1975 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1982.<ref>Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Gerallt_Lloyd_Owen], adalwyd 13.6.2019</ref>
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor 1975 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1982.<ref>Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Gerallt_Lloyd_Owen], adalwyd 13.6.2019</ref>


Ymysg ei ddiddordebau oedd saethu colomennod clai, a bu'n serenni ar raglen am y gamp ar S4C. Yr oedd yn fwy enwog am ei rôl am flynyddoedd lawer fel y meuryn ar ''Talwrn y Beirdd'' ar Radio Cymru ac yn y Babell Lên.
Ymysg ei ddiddordebau roedd saethu colomennod clai, a bu'n serennu ar raglen am y gamp ar S4C. Yr oedd yn fwy enwog am ei swyddogaeth am flynyddoedd lawer fel y meuryn ar ''Talwrn y Beirdd'' ar Radio Cymru ac yn y Babell Lên.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Beirdd]]

Fersiwn yn ôl 16:52, 12 Mai 2022

'Roedd Gerallt Lloyd Owen (1944-2014) yn brifardd a hanai o Gefnddwysarn ym Meirionnydd. Roedd yn frawd i'r Prifardd a'r cyn-Archdderwydd Geraint Lloyd Owen (Geraint Llifon). Bu'n byw y rhan fwyaf o'i oes ym mhentref Llandwrog.

Er i'w gyfrol gyntaf, Ugain Oed a'i Ganiadau (Argraffty'r M.C., Caernarfon, 1966) gael ei chyhoeddi ym 1966, ni ddaeth yn ffigwr amlwg nes iddo gyhoeddi Cerddi'r Cywilydd ym 1972.[1]

Nodweddir ei farddoniaeth gan ymdeimlad cryf o Gymreictod a phwyslais ar etifeddiaeth y Cymry a'r angen i'w hamddiffyn. Gwelir hyn yn arbennig o eglur mewn cerddi fel yr awdl rymus Cilmeri, am dranc Llywelyn ap Gruffudd (ac a enillodd iddo'r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1982, saith gan mlynedd union wedi cyflafan Cilmeri), a'r gerdd Fy Ngwlad (Cerddi'r Cywilydd) am yr arwisgiad yng Nghaernarfon ym 1969, sy'n agor efo'r llinellau cofiadwy,

Wylit, wylit, Lywelyn,
Wylit waed pe gwelit hyn.
Ein calon gan estron ŵr,
Ein coron gan goncwerwr,
A gwerin o ffafrgarwyr
Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr.

Ond mae agwedd bersonol i'w awen hefyd, yn ei gerddi am gyfeillion a pherthnasau, a'i gariad amlwg at ei fro. Mae'n medru bod yn ffraeth yn ogystal, er enghraifft yn ei gerdd Trafferth mewn siop (yn y gyfrol Cilmeri) pan wrthodwyd iddo gael talu â siec yn y Gymraeg yn siop Marks and Spencers, Llandudno. Mae'r gerdd hon yn adleisio cywydd adnabyddus Dafydd ap Gwilym Trafferth mewn Tafarn.

Cyhoeddodd hunangofiant ym 1999 dan y teitl Fy Nghawl Fy Hun. Golygodd gylchgrawn y Coleg Normal (Y Normalydd), sawl cyfrol yn y gyfres Talwrn y Beirdd, a bu'n gyd-olygydd y cylchgrawn Barddas am gyfnod.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor 1975 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1982.[2]

Ymysg ei ddiddordebau roedd saethu colomennod clai, a bu'n serennu ar raglen am y gamp ar S4C. Yr oedd yn fwy enwog am ei swyddogaeth am flynyddoedd lawer fel y meuryn ar Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru ac yn y Babell Lên.

Cyfeiriadau

  1. Gweler y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 13.6.2019.
  2. Wicipedia [1], adalwyd 13.6.2019