Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Etifeddodd '''Spencer Bulkeley Wynn''' deitl Arglwydd Newborough yn annisgwyl oddi wrth ei frawd [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough|Thomas John]] ar farwolaeth hwnnw o'r diciáu ym 1832. Cyn hynny, y disgwyliad oedd y byddai'n chwarae rôl fel rheolwr [[Ystad Glynllifon]] tra byddai ei frawd yn ymwneud â'r disgwyliadau cyhoeddus a ddeuai i ran aristocrat yn y 19g. Ar ôl ymafael yn y gwaith hwnnw cyn i'w frawd farw, fodd bynnag, mi gadwodd Spencer Bulkeley ati pan ddaeth i'w etifeddiaeth lawn, gan gadw ei fys ar faterion yr ystad. Er enghraifft, ffeiliodd o bob anfoneb a bil a ddeuai i'r ystad a'r tŷ am dros hanner canrif.
Etifeddodd '''Spencer Bulkeley Wynn''' (1803-1888)  deitl Arglwydd Newborough yn annisgwyl oddi wrth ei frawd [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough|Thomas John]] ar farwolaeth hwnnw o'r diciáu ym 1832. Cyn hynny, y disgwyliad oedd y byddai'n chwarae rôl fel rheolwr [[Ystad Glynllifon]] tra byddai ei frawd yn ymwneud â'r disgwyliadau cyhoeddus a ddeuai i ran aristocrat yn y 19g. Ar ôl ymafael yn y gwaith hwnnw cyn i'w frawd farw, fodd bynnag, mi gadwodd Spencer Bulkeley ati pan ddaeth i'w etifeddiaeth lawn, gan gadw ei fys ar faterion yr ystad. Er enghraifft, ffeiliodd o bob anfoneb a bil a ddeuai i'r ystad a'r tŷ am dros hanner canrif.<ref>Archifdy Caernarfon. XD2/''passim''.</ref>


Ail fab [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]] ac ail wraig hwnnw, [[Maria Stella Petronella Chiappini]] oedd Spencer Bulkeley, a chafodd ei enwau oddi wrth berthynas trwy briodas ei dad â Spencer Perceval, Prif Weinidog Prydain, 1809-1812<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Spencer_Perceval]</ref>
Ail fab [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]] ac ail wraig hwnnw, [[Maria Stella]] oedd Spencer Bulkeley, a chafodd ei enwau oddi wrth berthynas ei dad â Spencer Perceval, Prif Weinidog Prydain, 1809-1812 trwy briodas<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Spencer_Perceval]; gwraig gyntaf Syr Thomas Wynn oedd chwaer Spencer Perceval, mab 2il Iarll Egmont. Spencer Perceval oedd yr unig brif weinidog ym Mhrydain i gael ei asasineiddio, hynny ym 1812.</ref>
 
Edrychodd ar ei hun fel tirfeddiannwr o Gymru, gan wfftio honiadau ei fam a'i chefnogwyr fod ganddo hawl ar goron Ffrainc, ac er iddo fod yn brysur iawn ym materion sirol, ni cheisiodd swyddi megis aelodaeth o San Steffan neu un o'r seddau a neilltuwyd i Arglwyddi o'r Bendefigaeth Wyddelig yn Nhŷ'r Arglwyddi.
 
Priododd ei gyfnither, Fanny (Frances Maria) de Winton, o'r Gelli Gandryll, Sir Faesyfed ym 1834. Yr oedd hi'n ferch i Maria Jacoba, chwaer Maria Stella a'i gŵr y Parch. Walter Wilkins. Cafwyd 10 o blant i'r uniad, sef Frances Maria (1835-1886); Emily Anina (g.1837); Ellen Glynn (g.1839); Thomas John (1840-78); Catherine (1842-1885); Isabella Elizabeth (1842-1885); William Perceval (1845-1851); Charles Henry (1847-1911) a etifeddodd Ystad y Rug; Mary Georgiana (1851); a [[Frederick George Wynn|Frederick George]], (g. 1853).<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), tt.173.</ref>
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]

Fersiwn yn ôl 10:41, 10 Mai 2019

Etifeddodd Spencer Bulkeley Wynn (1803-1888) deitl Arglwydd Newborough yn annisgwyl oddi wrth ei frawd Thomas John ar farwolaeth hwnnw o'r diciáu ym 1832. Cyn hynny, y disgwyliad oedd y byddai'n chwarae rôl fel rheolwr Ystad Glynllifon tra byddai ei frawd yn ymwneud â'r disgwyliadau cyhoeddus a ddeuai i ran aristocrat yn y 19g. Ar ôl ymafael yn y gwaith hwnnw cyn i'w frawd farw, fodd bynnag, mi gadwodd Spencer Bulkeley ati pan ddaeth i'w etifeddiaeth lawn, gan gadw ei fys ar faterion yr ystad. Er enghraifft, ffeiliodd o bob anfoneb a bil a ddeuai i'r ystad a'r tŷ am dros hanner canrif.[1]

Ail fab Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough ac ail wraig hwnnw, Maria Stella oedd Spencer Bulkeley, a chafodd ei enwau oddi wrth berthynas ei dad â Spencer Perceval, Prif Weinidog Prydain, 1809-1812 trwy briodas[2]

Edrychodd ar ei hun fel tirfeddiannwr o Gymru, gan wfftio honiadau ei fam a'i chefnogwyr fod ganddo hawl ar goron Ffrainc, ac er iddo fod yn brysur iawn ym materion sirol, ni cheisiodd swyddi megis aelodaeth o San Steffan neu un o'r seddau a neilltuwyd i Arglwyddi o'r Bendefigaeth Wyddelig yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Priododd ei gyfnither, Fanny (Frances Maria) de Winton, o'r Gelli Gandryll, Sir Faesyfed ym 1834. Yr oedd hi'n ferch i Maria Jacoba, chwaer Maria Stella a'i gŵr y Parch. Walter Wilkins. Cafwyd 10 o blant i'r uniad, sef Frances Maria (1835-1886); Emily Anina (g.1837); Ellen Glynn (g.1839); Thomas John (1840-78); Catherine (1842-1885); Isabella Elizabeth (1842-1885); William Perceval (1845-1851); Charles Henry (1847-1911) a etifeddodd Ystad y Rug; Mary Georgiana (1851); a Frederick George, (g. 1853).[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon. XD2/passim.
  2. Wicipedia, [1]; gwraig gyntaf Syr Thomas Wynn oedd chwaer Spencer Perceval, mab 2il Iarll Egmont. Spencer Perceval oedd yr unig brif weinidog ym Mhrydain i gael ei asasineiddio, hynny ym 1812.
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.173.