George Bowness: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Hanai '''George Bowness''' (1815-) o Orton yn Westmorland (ardal lle ceir chwareli llechi). Fe'i nodir mewn Cyfarwyddiaduron Masnach lleol fel asiant i [[Chwarel Tal-y-sarn]] ym 1850 a 1853.<ref>Gwefan ''Carnarvon Traders, (cyrchwyd 9.4.2019), [http://www.carnarvontraders.com/agents.shtml]</ref> Erbyn adeg Cyfrifriad 1851, roedd wedi mudo i [[Dyffryn Nantlle|Dyffryn Nantlle]] lle weithiai fel arolygwr chwarel lechi, gan fyw ym [[Plas Tal-y-sarn|Mhlas Tal-y-sarn]]. Roedd wedi priodi dynes o Sir Gaernarfon, Catherine, a hanai o Lanllechid, Dyffryn Ogwen. Roedd ei ddau blentyn, Barbara (3 oed) a George A. (2 oed), a hefyd y forwyn, Mary Hughes, i gyd wedi eu geni yn Llanllechid.<ref>Cyfrifiad Llandwrog 1851</ref>
Roedd '''George Bowness''' (1815-1896) yn fab i Thomas Bowness ffarmwr o Orton yn Westmorland (ardal lle ceir chwareli llechi). Roedd wedi mudo i [[Dyffryn Nantlle|Dyffryn Nantlle]] erbyn 1846, gan fyw yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]], pan briododd Catherine (ganed 1815), a hanai o Lanllechid, Dyffryn Ogwen yn eglwys y plwyf hwnnw; merch ydoedd i Owen Ellis, gŵr bonheddig o Hen Gefnfaes.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Priodasau Llanllechid</ref>  


Ym 1857, roedd yn dal yn asiant i Chwarel Tal-y-sarn pan ddarllenwyd y Ddeddf derfysg gan ynad heddwch ar y Cei yng Nghaernarfon oherwydd anhrefn a achoswyd gan ffrwgwd dros berchnogaeth llechi o'r chwarel. Fe'i gwyswyd i ymddangos yn y llys ond cafwyd nad oedd wedi torri unrhyw ddeddf.<ref>''North Wales Chronicle'', 17.1.1857</ref>
Fe'i nodir mewn Cyfarwyddiaduron Masnach lleol fel asiant i [[Chwarel Tal-y-sarn]] ym 1850 a 1853.<ref>Gwefan ''Carnarvon Traders, (cyrchwyd 9.4.2019), [http://www.carnarvontraders.com/agents.shtml]</ref> Adeg Cyfrifriad 1851, nodir ei fod yn arolygwr chwarel lechi, gan fyw ym [[Plas Tal-y-sarn|Mhlas Tal-y-sarn]]. Roedd ei ddau blentyn, Barbara (3 oed) a George A. (2 oed), a hefyd y forwyn, Mary Hughes, i gyd wedi eu geni yn Llanllechid.<ref>Cyfrifiad Llandwrog 1851</ref>
 
Ym 1857, roedd yn dal yn asiant i Chwarel Tal-y-sarn pan ddarllenwyd y Ddeddf Derfysg gan ynad heddwch ar y Cei yng Nghaernarfon oherwydd anhrefn a achoswyd gan ffrwgwd dros berchnogaeth llechi o'r chwarel. Fe'i gwysiwyd i ymddangos yn y llys ond cafwyd nad oedd wedi torri unrhyw ddeddf.<ref>''North Wales Chronicle'', 17.1.1857</ref>
 
Erbyn Cyfrifiad 1861 roedd wedi gadael gwaith y chwareli, gan ffermio Tanybryn, plwyf [[Llanllyfni]]. Roedd yn fferm fawr 146 o aceri o faint, a chyflogwyd 3 o weision, sef morwyn llaethdy, cowmon a chertmon. Nid oes sôn a, ei fab George (dichon ei fod wedi marw) ond yn ychwanegol roedd Thomas Owen (9 oed) a Leonard Henry (7 oed).<ref>Cyfrifiad Llanllyfni 1861</ref> Roedd yn dal i ffermio Tanybryn ym 1891; roedd ei wraig yn dal yn fyw, a Barbara a Leonard yn dal i helpu ar y fferm.<ref>Cyfrifiad Llanllyfni 1891</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 11:34, 9 Ebrill 2019

Roedd George Bowness (1815-1896) yn fab i Thomas Bowness ffarmwr o Orton yn Westmorland (ardal lle ceir chwareli llechi). Roedd wedi mudo i Dyffryn Nantlle erbyn 1846, gan fyw yn Nhal-y-sarn, pan briododd Catherine (ganed 1815), a hanai o Lanllechid, Dyffryn Ogwen yn eglwys y plwyf hwnnw; merch ydoedd i Owen Ellis, gŵr bonheddig o Hen Gefnfaes.[1]

Fe'i nodir mewn Cyfarwyddiaduron Masnach lleol fel asiant i Chwarel Tal-y-sarn ym 1850 a 1853.[2] Adeg Cyfrifriad 1851, nodir ei fod yn arolygwr chwarel lechi, gan fyw ym Mhlas Tal-y-sarn. Roedd ei ddau blentyn, Barbara (3 oed) a George A. (2 oed), a hefyd y forwyn, Mary Hughes, i gyd wedi eu geni yn Llanllechid.[3]

Ym 1857, roedd yn dal yn asiant i Chwarel Tal-y-sarn pan ddarllenwyd y Ddeddf Derfysg gan ynad heddwch ar y Cei yng Nghaernarfon oherwydd anhrefn a achoswyd gan ffrwgwd dros berchnogaeth llechi o'r chwarel. Fe'i gwysiwyd i ymddangos yn y llys ond cafwyd nad oedd wedi torri unrhyw ddeddf.[4]

Erbyn Cyfrifiad 1861 roedd wedi gadael gwaith y chwareli, gan ffermio Tanybryn, plwyf Llanllyfni. Roedd yn fferm fawr 146 o aceri o faint, a chyflogwyd 3 o weision, sef morwyn llaethdy, cowmon a chertmon. Nid oes sôn a, ei fab George (dichon ei fod wedi marw) ond yn ychwanegol roedd Thomas Owen (9 oed) a Leonard Henry (7 oed).[5] Roedd yn dal i ffermio Tanybryn ym 1891; roedd ei wraig yn dal yn fyw, a Barbara a Leonard yn dal i helpu ar y fferm.[6]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Priodasau Llanllechid
  2. Gwefan Carnarvon Traders, (cyrchwyd 9.4.2019), [1]
  3. Cyfrifiad Llandwrog 1851
  4. North Wales Chronicle, 17.1.1857
  5. Cyfrifiad Llanllyfni 1861
  6. Cyfrifiad Llanllyfni 1891