Plas Tal-y-sarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Plas Tal-y-sarn''', sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] i [[Nantlle]] i'r dwyrain o bentref presennol [[Tal-y-sarn]], yng nghanol gweithfeydd a thomenni llechi'r oes o'r blaen. Dichon iddo gymryd ei enw oddi wrth [[Sarn Wyth Dŵr]] ar hyd yr hwnnw y redai ffordd o [[Tan'rallt|Dan'rallt]] a [[Dol Bebin]] ar draws corsydd gwaelod y dyffryn gan gwrdd â'r ffordd o Ben-y-groes i Nantlle. Rhedai [[Rheilffordd Nantlle]] yn syth y tu ôl i'r Plas. Mae map Ordnans 1916 yn dangos gerddi addurniedig gyda ffynnon (''fountain'') o flaen ac i ochr y Plas, a dywedir bod honno wedi codi i ddynodi penbwlydd 21 oed un o ferched y teulu.
Mae '''Plas Tal-y-sarn''', sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] i [[Nantlle]] i'r dwyrain o bentref presennol [[Tal-y-sarn]], yng nghanol gweithfeydd a thomenni llechi'r oes o'r blaen. Dichon iddo gymryd ei enw oddi wrth [[Sarn Wyth Dŵr]] ar hyd yr hwnnw y redai ffordd o [[Tan'rallt|Dan'rallt]] a [[Dol Bebin]] ar draws corsydd gwaelod y dyffryn gan gwrdd â'r ffordd o Ben-y-groes i Nantlle. Rhedai [[Rheilffordd Nantlle]] yn syth y tu ôl i'r Plas. Mae map Ordnans 1916 yn dangos gerddi addurniedig gyda ffynnon (''fountain'') o flaen ac i ochr y Plas, a dywedir bod honno wedi codi i ddynodi penbwlydd 21 oed un o ferched y teulu.


Adeilad ydoedd a helaethwyd yn y 19g, ar gyrion [[Chwarel Tal-y-sarn]] fel cartref i berchennog y chwarel honno, sef [[John Robinson]] a symudodd yno yn ystod y 1860au. Roedd yno gerddi, stablau a holl adeiladau atodol eraill y byddai rhywun yn eu gweld ger tŷ mawr o'r fath. Ar ôl marwolaeth ei fab, Thomas Robinson, ym 1905, fe werthwyd y Plas i gwmni [[Chwarel Dorothea]]. Efallai mai dyma pam y gelweyd y Plas yn "Blas Dorothea" weithiau. Oherwydd tŵf y chwareli, fodd bynnag, a'r ffaith fod cwymp o graig yn Chwarel Dorothea i'r de wedi dod yn agos at dir y Plas, fe'i gadawyd ac yn raddol mae wedi dadfeilio, er bod digon o'r waliau ar ôl i rywun gael syniad o faint ac edrychiad y lle pan oedd yn ei anterth.
Adeilad ydoedd a helaethwyd yn y 19g, ar gyrion [[Chwarel Tal-y-sarn]] fel cartref i berchennog y chwarel honno, sef [[John Robinson]] a symudodd yno yn ystod y 1860au. Roedd yno gerddi, stablau a holl adeiladau atodol eraill y byddai rhywun yn eu gweld ger tŷ mawr o'r fath. Ar ôl marwolaeth ei fab, Thomas Robinson, ym 1905, fe werthwyd y Plas i gwmni [[Chwarel Dorothea]]. Defnyddid rhai o'r adeiladau fel swyddfeydd a baddondy i'r gweithwyr yn y chwarel. Efallai mai dyma pam y gelwyd y Plas yn "Blas Dorothea" weithiau. Oherwydd tŵf y chwareli, fodd bynnag, a'r ffaith fod cwymp o graig yn Chwarel Dorothea i'r de wedi dod yn agos at dir y Plas, fe'i gadawyd ac yn raddol mae wedi dadfeilio, er bod digon o'r waliau ar ôl i rywun gael syniad o faint ac edrychiad y lle pan oedd yn ei anterth.<ref>Gwefan ''Grand Designs - Welsh Ruins and Welsh Ruined Mansions'' (cyrchwyd 9.4.2109 [https://www.welshruins.co.uk/photo3624315.html]</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 10:26, 9 Ebrill 2019

Mae Plas Tal-y-sarn, sydd yn furddun erbyn hyn, yn sefyll ar ochr yr hen lôn o Ben-y-groes i Nantlle i'r dwyrain o bentref presennol Tal-y-sarn, yng nghanol gweithfeydd a thomenni llechi'r oes o'r blaen. Dichon iddo gymryd ei enw oddi wrth Sarn Wyth Dŵr ar hyd yr hwnnw y redai ffordd o Dan'rallt a Dol Bebin ar draws corsydd gwaelod y dyffryn gan gwrdd â'r ffordd o Ben-y-groes i Nantlle. Rhedai Rheilffordd Nantlle yn syth y tu ôl i'r Plas. Mae map Ordnans 1916 yn dangos gerddi addurniedig gyda ffynnon (fountain) o flaen ac i ochr y Plas, a dywedir bod honno wedi codi i ddynodi penbwlydd 21 oed un o ferched y teulu.

Adeilad ydoedd a helaethwyd yn y 19g, ar gyrion Chwarel Tal-y-sarn fel cartref i berchennog y chwarel honno, sef John Robinson a symudodd yno yn ystod y 1860au. Roedd yno gerddi, stablau a holl adeiladau atodol eraill y byddai rhywun yn eu gweld ger tŷ mawr o'r fath. Ar ôl marwolaeth ei fab, Thomas Robinson, ym 1905, fe werthwyd y Plas i gwmni Chwarel Dorothea. Defnyddid rhai o'r adeiladau fel swyddfeydd a baddondy i'r gweithwyr yn y chwarel. Efallai mai dyma pam y gelwyd y Plas yn "Blas Dorothea" weithiau. Oherwydd tŵf y chwareli, fodd bynnag, a'r ffaith fod cwymp o graig yn Chwarel Dorothea i'r de wedi dod yn agos at dir y Plas, fe'i gadawyd ac yn raddol mae wedi dadfeilio, er bod digon o'r waliau ar ôl i rywun gael syniad o faint ac edrychiad y lle pan oedd yn ei anterth.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Grand Designs - Welsh Ruins and Welsh Ruined Mansions (cyrchwyd 9.4.2109 [1]