George Bettiss: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''George Bettiss''' yn ffigwr amlwg ym mywyd Caernarfon a [[Dyffryn Nantlle]] ar ddechrau'r 19g. Bu'n tenant ar un adeg ar Westy'r Sportsman yn Stryd y Castell, Caernarfon, un o brif westai neu dafarnau'r dref lle cychwynnodd coetsis. Yn y Sportsman arhosodd Dr Samuel Johnson a Mrs Thrale wrth ymweld â'r ardal.  
Roedd '''George Bettiss''' yn ffigwr amlwg ym mywyd Caernarfon a [[Dyffryn Nantlle]] ar ddechrau'r 19g. Bu'n tenant ar un adeg ar Westy'r Sportsman yn Stryd y Castell, Caernarfon, un o brif westai neu dafarnau'r dref lle cychwynnodd coetsis. Yn y Sportsman arhosodd Dr Samuel Johnson a Mrs Thrale wrth ymweld â'r ardal.  


Mae cyfeiriad at un "George Bettiss" fel tafarnwr ym 1787, pan gafodd ei ymrwymo i gadw'r gyfraith fel tafarnwr (neu ''victualler'').<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1787/125 </ref> Fodd bynnag, ceir cyfeiriadau at "George Bettiss the younger, gent." mor gynnar â 1804<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6924</ref> a dichon felly mae ei dad oedd y tafarnwr cyffredin yn y 1780au. Mae cyfeiriadau ato fel "gŵr bonheddig" (''gent.''), sef rhywun oedd tipyn yn well na thafarnwr cyffredin yn parhau o'r amser honno.<ref>e.e.Archifdy Caernarfon XD2/5516</ref> Erbyn 1815, roedd wedi cymryd tenantiaeth qwesty o eiddo Ardalydd Môn, sef (mae'n bur debyg) Gwesty'r Sportsman, lle arhosodd tan efallai 1827.<ref>Archifdy Caernarfon X/POOLE/2543</ref>
Mae cyfeiriad at ryw "George Bettiss" yng Nghaernarfon fel tafarnwr ym 1787, pan gafodd ei ymrwymo i gadw'r gyfraith fel tafarnwr (neu ''victualler'').<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1787/125</ref> Fodd bynnag, ceir cyfeiriadau at "George Bettiss the younger, gent." mor gynnar â 1804<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6924</ref> a dichon felly mae ei dad oedd y tafarnwr cyffredin yn y 1780au. Mae cyfeiriadau ato fel "gŵr bonheddig" (''gent.''), sef rhywun oedd tipyn yn well na thafarnwr cyffredin yn parhau o 1804 ymlaen.<ref>e.e.Archifdy Caernarfon XD2/5516</ref> Erbyn 1815, roedd wedi cymryd tenantiaeth qwesty o eiddo Ardalydd Môn, sef (mae'n bur debyg) Gwesty'r Sportsman, lle arhosodd tan efallai 1827.<ref>Archifdy Caernarfon X/POOLE/2543</ref> Erbyn Medi 1823, fodd bynnag, roedd wedi symud i dŷ nobl yng ngwaelod Stryd y Farchnad, sef Tower House,<ref>Archifdy Caernarfon XD2/15459</ref> sy'n sefyll hyd heddiw.


Roedd George Bettiss hefyd yn asiant i [[Ystad Glynllifon]] a'r [[Arglwyddi Newborough]],yn prynu nwyddau, ac edrych at faterion ynglŷn â thenantiaeth eiddo'r ystad yn y dref. Mae'n amlwg iddo gychwyn ar ei ddyletswyddau fel asiant gweithredol lleol i ymddiriedolwyr yr ystad tra oedd yr 2il Arglwydd o dan 21 oed, o 1813 ymlaen o leiaf.<ref> Archifdy Caernarfon, XD2/15158</ref>Mae dwsinau o'i lythyrau at y 3ydd Arglwydd Newborough ymysg archifau [[Glynllifon]] yn Archifdy Gwynedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/''passim''.</ref>
Roedd George Bettiss hefyd yn asiant i [[Ystad Glynllifon]] a'r [[Arglwyddi Newborough]],yn prynu nwyddau, ac edrych at faterion ynglŷn â thenantiaeth eiddo'r ystad yn y dref. Mae'n amlwg iddo gychwyn ar ei ddyletswyddau fel asiant gweithredol lleol i ymddiriedolwyr yr ystad tra oedd yr 2il Arglwydd o dan 21 oed, o 1813 ymlaen o leiaf.<ref> Archifdy Caernarfon, XD2/15158</ref>Mae dwsinau o'i lythyrau at y 3ydd Arglwydd Newborough ymysg archifau [[Glynllifon]] yn Archifdy Gwynedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/''passim''.</ref>


Yn ogystal â hyn oll, bu'n bartner yn un o chwareli Dyffryn Nantlle, [[Chwarel Hafodlas]] o tua 1810 ymlaen. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu [[Rheilffordd Nantlle]], ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan iddi agor ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.<ref>G.H. Williams, ''Swn y Trên sy'n Taranu'', (Caernarfon, 2018).</ref> Dichon mai oherwydd y ffaith nad oedd Ystad Glynllifon â diddordebau ym maes llechi'r dyffryn ac yntau'n asiant iddi y bu'n hwyrfrydig i groesawu'r rheilffordd i'r lle er iddo fod yn aelod o fwrdd y cwmni o'r dechrau, ac yn berthen ar 5% o'r cyfranddaliadau.<ref>Archifdy Caernarfon, XM/9309/4</ref>
Yn ogystal â hyn oll, bu'n bartner yn un o chwareli Dyffryn Nantlle, [[Chwarel Hafodlas]] o tua 1810 ymlaen. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu [[Rheilffordd Nantlle]], ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan iddi agor ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.<ref>G.H. Williams, ''Swn y Trên sy'n Taranu'', (Caernarfon, 2018)t.9.</ref> Dichon mai oherwydd y ffaith nad oedd Ystad Glynllifon â diddordebau ym maes llechi'r dyffryn ac yntau'n asiant iddi y bu'n hwyrfrydig i groesawu'r rheilffordd i'r lle er iddo fod yn aelod o fwrdd y cwmni o'r dechrau, ac yn berthen ar 5% o'r cyfranddaliadau.<ref>Archifdy Caernarfon, XM/9309/4</ref>


Bu farw cyn 1839, pan y cyfeiriwyd ato fel 'y diuweddar Mr Bettiss'.<ref>Archifdy Caernarfon XD2/9932</ref>
Bu farw cyn 1839, pan y cyfeiriwyd ato fel 'y diuweddar Mr Bettiss'.<ref>Archifdy Caernarfon XD2/9932</ref>

Fersiwn yn ôl 10:37, 7 Ebrill 2019

Roedd George Bettiss yn ffigwr amlwg ym mywyd Caernarfon a Dyffryn Nantlle ar ddechrau'r 19g. Bu'n tenant ar un adeg ar Westy'r Sportsman yn Stryd y Castell, Caernarfon, un o brif westai neu dafarnau'r dref lle cychwynnodd coetsis. Yn y Sportsman arhosodd Dr Samuel Johnson a Mrs Thrale wrth ymweld â'r ardal.

Mae cyfeiriad at ryw "George Bettiss" yng Nghaernarfon fel tafarnwr ym 1787, pan gafodd ei ymrwymo i gadw'r gyfraith fel tafarnwr (neu victualler).[1] Fodd bynnag, ceir cyfeiriadau at "George Bettiss the younger, gent." mor gynnar â 1804[2] a dichon felly mae ei dad oedd y tafarnwr cyffredin yn y 1780au. Mae cyfeiriadau ato fel "gŵr bonheddig" (gent.), sef rhywun oedd tipyn yn well na thafarnwr cyffredin yn parhau o 1804 ymlaen.[3] Erbyn 1815, roedd wedi cymryd tenantiaeth qwesty o eiddo Ardalydd Môn, sef (mae'n bur debyg) Gwesty'r Sportsman, lle arhosodd tan efallai 1827.[4] Erbyn Medi 1823, fodd bynnag, roedd wedi symud i dŷ nobl yng ngwaelod Stryd y Farchnad, sef Tower House,[5] sy'n sefyll hyd heddiw.

Roedd George Bettiss hefyd yn asiant i Ystad Glynllifon a'r Arglwyddi Newborough,yn prynu nwyddau, ac edrych at faterion ynglŷn â thenantiaeth eiddo'r ystad yn y dref. Mae'n amlwg iddo gychwyn ar ei ddyletswyddau fel asiant gweithredol lleol i ymddiriedolwyr yr ystad tra oedd yr 2il Arglwydd o dan 21 oed, o 1813 ymlaen o leiaf.[6]Mae dwsinau o'i lythyrau at y 3ydd Arglwydd Newborough ymysg archifau Glynllifon yn Archifdy Gwynedd.[7]

Yn ogystal â hyn oll, bu'n bartner yn un o chwareli Dyffryn Nantlle, Chwarel Hafodlas o tua 1810 ymlaen. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu Rheilffordd Nantlle, ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan iddi agor ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.[8] Dichon mai oherwydd y ffaith nad oedd Ystad Glynllifon â diddordebau ym maes llechi'r dyffryn ac yntau'n asiant iddi y bu'n hwyrfrydig i groesawu'r rheilffordd i'r lle er iddo fod yn aelod o fwrdd y cwmni o'r dechrau, ac yn berthen ar 5% o'r cyfranddaliadau.[9]

Bu farw cyn 1839, pan y cyfeiriwyd ato fel 'y diuweddar Mr Bettiss'.[10]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/1787/125
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/6924
  3. e.e.Archifdy Caernarfon XD2/5516
  4. Archifdy Caernarfon X/POOLE/2543
  5. Archifdy Caernarfon XD2/15459
  6. Archifdy Caernarfon, XD2/15158
  7. Archifdy Caernarfon, XD2/passim.
  8. G.H. Williams, Swn y Trên sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018)t.9.
  9. Archifdy Caernarfon, XM/9309/4
  10. Archifdy Caernarfon XD2/9932