Capel Gosen (A), Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Capel Gosen, Y Groeslon (A) i Capel Gosen (A), Y Groeslon heb adael dolen ailgyfeirio
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Capel Annibynnol ym mhentref [[Y Groeslon]] yw’r Capel yma.
Capel Annibynnol ym mhentref [[Y Groeslon]] yw’r '''Capel Gosen.'''


Adeiladwyd y Capel tua 1850, a cafodd ei ail-adeiladu tua 1899.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/6908/details/gosen-welsh-independent-chapel-groeslon Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol]</ref>.
Cychwynnwyd yr achos gan David Griffith, Foel, ym 1843, a rhentodd dŷ yn [[Rhosnennan]] fel man addoli, ond ymfudodd i America ym 1845. Roedd [[George Rhydero]] wedyn yn gefnogol iawn. Cafwyd rhodd o dir gan un Catherine Hughes, a chodwyd capel a enwyd Gosen ym 1849. Nid y capel presennol oedd hwnnw, fodd bynnag, ond yr adeilad a alwyd wedyn yn ''Gosen Bach'' neu ''Church Room'' (gan i'r Eglwys ei ddefnyddio fel man cyfarfod ger y Ficerdy. Nid oedd erioed yn achos cryf yn ôl pob sôn, ond trwy ei gysylltu achapel arall, [[Capel Pisgah (A), Carmel]], sicrhawyd gwasanaeth gweinidog.<ref>T. Rees a J. Thomas, ''Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru'', (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4</ref>
 
Adeiladwyd Capel newydd yn nes i ganol y pentref tua 1899.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/6908/details/gosen-welsh-independent-chapel-groeslon Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol]</ref>.
 
Gwerthwyd y capel yn 2018, gan nad oedd yn ddiogel i'w ddefnyddio ar gyfer oedfaon. Roedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli yn [[Neuadd Goffa'r Groeslon]] ers rhai blynyddoedd erbyn hynny, ond mae'r achos yn parhau, yr unig achos crefyddol sydd ar ôl yn y Groeslon.
 
{{eginyn}}


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Crefydd]]
[[Categori:Capeli]]
[[Categori:Capeli]]
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 17:33, 25 Mawrth 2019

Capel Annibynnol ym mhentref Y Groeslon yw’r Capel Gosen.

Cychwynnwyd yr achos gan David Griffith, Foel, ym 1843, a rhentodd dŷ yn Rhosnennan fel man addoli, ond ymfudodd i America ym 1845. Roedd George Rhydero wedyn yn gefnogol iawn. Cafwyd rhodd o dir gan un Catherine Hughes, a chodwyd capel a enwyd Gosen ym 1849. Nid y capel presennol oedd hwnnw, fodd bynnag, ond yr adeilad a alwyd wedyn yn Gosen Bach neu Church Room (gan i'r Eglwys ei ddefnyddio fel man cyfarfod ger y Ficerdy. Nid oedd erioed yn achos cryf yn ôl pob sôn, ond trwy ei gysylltu achapel arall, Capel Pisgah (A), Carmel, sicrhawyd gwasanaeth gweinidog.[1]

Adeiladwyd Capel newydd yn nes i ganol y pentref tua 1899.[2].

Gwerthwyd y capel yn 2018, gan nad oedd yn ddiogel i'w ddefnyddio ar gyfer oedfaon. Roedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli yn Neuadd Goffa'r Groeslon ers rhai blynyddoedd erbyn hynny, ond mae'r achos yn parhau, yr unig achos crefyddol sydd ar ôl yn y Groeslon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4
  2. Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol