Robert Price, Melin Faesog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 19: Llinell 19:
Ac yntau’n Athro Prifysgol yn Utah ymddiddorodd Yr Athro Ron Dennis yn hanes y Mormoniaid Cymreig a ddaeth i’r dalaith. Treuliodd flwyddyn yng Nghymru yn dysgu Cymraeg i’w alluogi i ddarllen y cylchgrawn a’r cyfnodion cynnar,  a sefydlodd wefan i wahodd y Cymry yn Utah i gyfrannu hanesion eu teuluoedd arni.   

Yn 2016 cyhoeddwyd ''Poeri i lygad yr eliffant'', Gwasg y Lolfa,400 tud. gan Wil Aaron.  Treuliodd yr awdur amser yn dilyn [[Delwedd:poeriilygadyreliffant.[[Delwedd:Enghraifft.jpg|bawd|200px]]
Yn 2016 cyhoeddwyd ''Poeri i lygad yr eliffant'', Gwasg y Lolfa,400 tud. gan Wil Aaron.  Treuliodd yr awdur amser yn dilyn llwybr y Mormoniaid i Ddinas y Llyn Halen gan elwa o faes ymchwil anferth Ron Dennis.                 [[Delwedd:Enghraifft.jpg|bawd|200px]]
llwybr y Mormoniaid i Ddinas y Llyn Halen gan elwa yn helaeth o faes ymchwil anferth Ron Dennis a’r storfa o wybodaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae hwn yn glasur o lyfr yn amlygu gallu arbennig a dawn ysgrifennu.
 
A’r llyfr newydd ei gyhoeddi, daeth  Yr Athro Ron Dennis  â llond bws o Formoniaid (cyfanswm o 53) gydag ef i Gymru, ac ar Fedi 20 2016 yr oedd yng Nghaernarfon yn gweld y dref a’i gyfaill Wil Aaron,  a threfnodd i ddod, yng nghwmni un arall, i Glynnog a Melin Faesog. Yr un arall oedd  Emma Fichera, disgynnydd uniongyrchol i Robert Price, Melin Faesog a gladdwyd ym mynwent Eglwys Beuno Sant.  [llun i ddilyn] Athrawes wedi ymddeol ydoedd ac roedd wedi dyheu am y daith hon a chael dychwelyd i ddweud yr hanes wrth ei brodyr a’i chwiorydd a ymddiddorai yn fawr, fel hithau, yn eu hachau.     

Dyma ail ymweliad Yr Athro Ron Dennis â Chlynnog, a siaradai Gymraeg heb arlliw o acen America.  Daeth yma i weld yr un bedd yn Hydref 2007 ac i weld yr arddangosfa yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai a luniodd Sophia Pari-Jones ar Felin Faesog, yn cynnwys manylion llawn am ddisgynyddion Robert Price a aeth oddi yno i Lanfrothen a Blaenau Ffestiniog a Dinas y Llyn Halen.

Fersiwn yn ôl 22:06, 17 Mawrth 2019

Melinydd a saer coed oedd Robert Price, (1720-1806). Mab i Thomas Price a Jane Roberts, Clynnog. Ym Mai 1741 priododd â Catherine, unig ferch Meyrick Barnaby a Jane Samuel, Melin Faesog, ac yno y cartrefodd y ddau.[1]

Bu Robert Price yn un o ddau a ofalai am gofrestr eglwys Clynnog.[2]

Yr oedd cryn erlid ar Fethodistiaid ar y pryd a phan ddaeth Lewis Evan, Llanllugan, (1720-92) i bregethu i Glynnog, tarawodd un o’r plwyfolion y pregethwr â choes ei chwip, nes oedd ei waed yn llifo. Pwy ataliodd yr helynt ond Robert Prys, Melin Faesog.[3]

Roedd Robert Price ymysg y rhai a lafuriodd i godi’r capel yng Nghapel Uchaf.[4]Cyn codi’r capel,[5] cynhelid llawer o gyfarfodydd y Methodistiaid ym Merth-ddu Bach ger Brynaerau ac yn Nhy’n Lôn – tua chanllath o’r safle a ddewiswyd ar gyfer y capel yn ddiweddarach. Byddai plant yn mynd i’r cyfarfodydd yno a thorrodd diwygiad yn eu plith nes byddent yn moliannu ac yn gorfoleddu ar hyd y ffordd. Ar un o’r adegau hyn daeth Richard Ellis, ficer Clynnog, heibio ar ei ffordd adref i Blas y Gwynfryn. Roedd ar gefn ei geffyl a chwip yn ei law. Pan glywodd orfoledd y plant dechreuodd eu chwipio a pheri iddynt dewi. Ond daeth Robert Price, Melin Faesog, i’w hamddiffyn. Llwyddodd i afael ym mhen y ceffyl a dweud wrth y ficer: “Dyma’r ffordd i’r Gwynfryn, Syr. Pe tawai y rhai hyn fe lefarai y cerrig yn y fan.” [6]

Ganwyd deg o blant i Robert Price a’i wraig Catherine. Rhoddwyd y cyfenw Price, fel eu tad, i rai ohonynt. Gyda rhai eraill, dilynwyd arferiad y cyfnod a rhoi Roberts yn gyfenw iddynt ar ôl enw bedydd eu tad. Bu amryw ohonynt yn byw ar hyd a lled yr ardal – e.e. Tyddyn Madyn, Coch-y-big, Cae Glas. Un disgynydd adnabyddus iawn i Robert Price oedd y crwydryn John Price. [Croes-gyfeiriad i ddilyn]

Gor-ŵyr i Robert Price oedd David Roberts, [croes-gyfeiriad i ddilyn]a sefydlodd Eglwys y Mormoniaid yn Ffestiniog. Ymaelododd ei frawd, Daniel Roberts (ganwyd ym Mron Wen, Nantmor) a’i wraig Gwen (gynt o Gae’rllwynog, Croesor) â’r gangen honno. [croes gyfeiriad i ddilyn]

Diystyriwyd bodolaeth y Mormoniaid bron yn gyfan gwbl yn ein llyfrau hanes er bod rhwng 6,000 a 10,000 ohonynt wedi ymfudo o Gymru i Ddinas y Llyn Halen a’r cyffiniau yn nhalaith Utah rhwng 1840 a 1870. Y rheswm am hyn, mewn gwirionedd, oedd fod y Mormoniaid yn wrthodedig gan y capeli anghydffurfiol Cymreig. Mae eu hanesion yn ddirdynnol gan i rai ohonynt orfod wynebu trychinebau erchyll ar y daith: collwyd bywydau dirifedi, rhai wedi rhynnu i farwolaeth mewn stormydd eira wrth groesi mynyddoedd y Rockies, rhai wedi marw o newyn, eraill wedi boddi wrth groesi’r afonydd; mae yma hanes pobl yn gwarchod ei gilydd a chyfeillachu efo brodorion y Gorllewin Gwyllt cyn y brwydro anffodus dilynol.

Byddai’n arferiad gan y Mormoniaid gadw dyddiaduron a chofnodi eu hanesion. Ymddangosodd nifer o’r ysgrifau yn y cylchgrawn Udgorn Seion. [croes-gyfeiriad i ddilyn]

Ac yntau’n Athro Prifysgol yn Utah ymddiddorodd Yr Athro Ron Dennis yn hanes y Mormoniaid Cymreig a ddaeth i’r dalaith. Treuliodd flwyddyn yng Nghymru yn dysgu Cymraeg i’w alluogi i ddarllen y cylchgrawn a’r cyfnodion cynnar, a sefydlodd wefan i wahodd y Cymry yn Utah i gyfrannu hanesion eu teuluoedd arni.

Yn 2016 cyhoeddwyd Poeri i lygad yr eliffant, Gwasg y Lolfa,400 tud. gan Wil Aaron. Treuliodd yr awdur amser yn dilyn llwybr y Mormoniaid i Ddinas y Llyn Halen gan elwa o faes ymchwil anferth Ron Dennis.

A’r llyfr newydd ei gyhoeddi, daeth Yr Athro Ron Dennis â llond bws o Formoniaid (cyfanswm o 53) gydag ef i Gymru, ac ar Fedi 20 2016 yr oedd yng Nghaernarfon yn gweld y dref a’i gyfaill Wil Aaron, a threfnodd i ddod, yng nghwmni un arall, i Glynnog a Melin Faesog. Yr un arall oedd Emma Fichera, disgynnydd uniongyrchol i Robert Price, Melin Faesog a gladdwyd ym mynwent Eglwys Beuno Sant. [llun i ddilyn] Athrawes wedi ymddeol ydoedd ac roedd wedi dyheu am y daith hon a chael dychwelyd i ddweud yr hanes wrth ei brodyr a’i chwiorydd a ymddiddorai yn fawr, fel hithau, yn eu hachau.

Dyma ail ymweliad Yr Athro Ron Dennis â Chlynnog, a siaradai Gymraeg heb arlliw o acen America. Daeth yma i weld yr un bedd yn Hydref 2007 ac i weld yr arddangosfa yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai a luniodd Sophia Pari-Jones ar Felin Faesog, yn cynnwys manylion llawn am ddisgynyddion Robert Price a aeth oddi yno i Lanfrothen a Blaenau Ffestiniog a Dinas y Llyn Halen.

  1. Melin Faesog, Sophia Pari-Jones, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007.
  2. Ibid. tud.24.
  3. Methodistiaeth Cymru,Cyfrol II,John Hughes, Liverpool, tud. 159.
  4. Ibid. tud. 161.
  5. Ibid. troednodyn. "Dywed Robert Jones mai hwn oedd y capel cyntaf yn sir Gaernarfon, ond mae o flaen fy llygaid, yn awr, lyfr o gofnodau y gymdeithasfa yn dadgan fod un capel, sef capel Tŷ mawr, Bryncroes,wedi ei godi tuag 8 ml. o flaen yr amser y dywedir i gapel Clynog gael ei godi. Hwnw yn y fl. 1752, hwn yn y fl. 1760."
  6. Ibid.tud. 160.