Cilfechydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llifon (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llifon (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:
Yn gyntaf, ffurf luosog anarferol yw ‘cilfechydd’. Digwydd y ffurf ym Meibl William Morgan (1588, Doeth Sol xvii. 13). Yn rhyfedd ddigon ceir y lluosog arferol ‘cilfachau’ yn Job (xxxix. 8). Hyd y gwn i dyma’r unig waith y cawn y lluosog hwn - tybed ai mympwy (neu gamgymeriad) William Morgan ei hun sy’n gyfrifol. Byddai’n ddiddorol gwybod rhagor.

Gellir cael argraff glir o leoliad y fferm yma[http://maps.google.com/]. Cliciwch ar ‘satellite’ am lun eglurach. Ar ‘getamap’ yr Arolwg Ordnans gellir ei weld hefyd (SH525586)[http://www.getamap.ordnancesurveyleisure.co.uk/]. Wn i ddim a yw’r lleoliad yn cyfateb i’r syniad o gilfachau. Ni welaf ond llethrau a dolydd ac mae’r fferm ger lôn weddol brysur ac ar un o’r prif ffyrdd trwy Eryri. Fyddwn i wrth gwrs ddim yn cynnig ei bod yn briffordd yn yr oesoedd canol. Onid llecynnau mwy diarffordd a gynrychiolir gan ‘Gilfach’?”

I dorri llith hir a chynhwysfawr yn fyr mae Guto Rhys yn cynnig "mai cil+ Mechydd sydd yma, enw personol. Yn wir digwydd cil + enw personol lawer gwaith, Cil Ddewi (Fawr), Cil Dyfnog, Cil Gwgan (=Gwgon??), Cil Gwrgan, Cil Hernin, Cil Ifor, Cil Owen, Cil Seiriol, Cil Wnwg (< Gwynnog ??) - oll yn AMR. Awn i ddim i daeru mai enwau personol yw pob un ond digwyddant oll yn WCD<ref>A Welsh Classical Dictionary, Bartrum,1993</ref>. Mae’n ddigon i ddangos bod y cynnig yn ddichonadwy. Tybed faint ohonynt sy’n seintiau. Mae encilio i fan anghysbell yn nodwedd (ddealledig) o seintiau cynnar. Tybed a oes yma gapeli".<ref>Guto Rhys 263839124470@groups.facebook.com</ref><ref>Bwletin Llên Natur rhifyn 50 (tudalen 4[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn50.pdf]</ref>
I dorri llith hir a chynhwysfawr yn fyr mae Guto Rhys yn cynnig "mai cil+ Mechydd sydd yma, enw personol. Yn wir digwydd cil + enw personol lawer gwaith, Cil Ddewi (Fawr), Cil Dyfnog, Cil Gwgan (=Gwgon??), Cil Gwrgan, Cil Hernin, Cil Ifor, Cil Owen, Cil Seiriol, Cil Wnwg (< Gwynnog ??) - oll yn AMR. Awn i ddim i daeru mai enwau personol yw pob un ond digwyddant oll yn WCD<ref>A Welsh Classical Dictionary, Bartrum,1993</ref>. Mae’n ddigon i ddangos bod y cynnig yn ddichonadwy. Tybed faint ohonynt sy’n seintiau. Mae encilio i fan anghysbell yn nodwedd (ddealledig) o seintiau cynnar. Tybed a oes yma gapeli".<ref>Guto Rhys 263839124470@groups.facebook.com</ref><ref>Bwletin Llên Natur rhifyn 50 (tudalen 4[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn50.pdf]</ref>{{Mae yna lecyn canol oesol o’r enw Capel Garmon ar yr un llethrau heb fod nepell i ffwrdd}}

Fersiwn yn ôl 10:48, 21 Chwefror 2019

Tyddyn o’r enw Cilfechydd, Y Waunfawr

Cyfeiria Glenda Carr yn ei hastudiaeth ddarllênadwy, ddeallus a dibynadwy Hen Enwau at annedd o’r enw Cilfechydd rhwng y Waunfawr a Betws Garmon. Nodir bod ‘cilfechydd’ yn cynrychioli lluosog ‘cilfach’. Cynnig arall sydd gennyf am yr ystyr. Yn gyntaf, ffurf luosog anarferol yw ‘cilfechydd’. Digwydd y ffurf ym Meibl William Morgan (1588, Doeth Sol xvii. 13). Yn rhyfedd ddigon ceir y lluosog arferol ‘cilfachau’ yn Job (xxxix. 8). Hyd y gwn i dyma’r unig waith y cawn y lluosog hwn - tybed ai mympwy (neu gamgymeriad) William Morgan ei hun sy’n gyfrifol. Byddai’n ddiddorol gwybod rhagor. Gellir cael argraff glir o leoliad y fferm yma[1]. Cliciwch ar ‘satellite’ am lun eglurach. Ar ‘getamap’ yr Arolwg Ordnans gellir ei weld hefyd (SH525586)[2]. Wn i ddim a yw’r lleoliad yn cyfateb i’r syniad o gilfachau. Ni welaf ond llethrau a dolydd ac mae’r fferm ger lôn weddol brysur ac ar un o’r prif ffyrdd trwy Eryri. Fyddwn i wrth gwrs ddim yn cynnig ei bod yn briffordd yn yr oesoedd canol. Onid llecynnau mwy diarffordd a gynrychiolir gan ‘Gilfach’?” I dorri llith hir a chynhwysfawr yn fyr mae Guto Rhys yn cynnig "mai cil+ Mechydd sydd yma, enw personol. Yn wir digwydd cil + enw personol lawer gwaith, Cil Ddewi (Fawr), Cil Dyfnog, Cil Gwgan (=Gwgon??), Cil Gwrgan, Cil Hernin, Cil Ifor, Cil Owen, Cil Seiriol, Cil Wnwg (< Gwynnog ??) - oll yn AMR. Awn i ddim i daeru mai enwau personol yw pob un ond digwyddant oll yn WCD[1]. Mae’n ddigon i ddangos bod y cynnig yn ddichonadwy. Tybed faint ohonynt sy’n seintiau. Mae encilio i fan anghysbell yn nodwedd (ddealledig) o seintiau cynnar. Tybed a oes yma gapeli".[2][3]Nodyn:Mae yna lecyn canol oesol o’r enw Capel Garmon ar yr un llethrau heb fod nepell i ffwrdd

  1. A Welsh Classical Dictionary, Bartrum,1993
  2. Guto Rhys 263839124470@groups.facebook.com
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 50 (tudalen 4[3]