Ysgol Ynys-yr-arch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a  berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd '''Ysgol Ynys-yr-arch''', a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol [[Pant-glas]], er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]]..
Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a  berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd '''Ysgol Ynys-yr-arch''', a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol [[Pant-glas]], er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf [[Clynnog Fawr]].
 
Mae llythyr ymysg papurau [[Arglwydd Newborough]] yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26163.</ref> fe godwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch.Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant  ardal Pant-glas a [[Bwlch Derwin]] yn gallu cyrraedd [[Ysgol Clynnog Fawr]], sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yn yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm Ynys-yr-arch ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim.
 
Roedd gan y ficer broblem efo'r coed oedd ei angen ar gyfer yr ysgol gan fod angen ei lifio, a'i gais i Arglwydd Newborough - a gytunodd iddo<ref>Archifdy Gwynedd, XD2/26170.</ref> - oedd cael lifio'r coed ym melin llifio Glynllifon. Byddai hyn yn arbed tua £10-12 ar y costau, ond byddai hyn yn cael ei gyfrif tuag at y grant yr oeddwn am ei sicrhau oddi wrth y llywodraeth. Roedd yn disgwyl grantiau gan y Cyngor Cyfrin (sef y llywodraeth) a'r Gymdeithas Genedlaethol ond roedd angen tua £600 ar ben hynny i gwblhau'r gwaith.
 
Rhaid oedd holi pam nad oedd Newborough wedi talu am beth o'r costau eisoes, fel y gwnaeth mewn achosion eraill, ond esboniodd y ficer fod Newborough wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o geisiadau eraill am nawdd ganddo, ac y byddai cyfraniad at y costau cynnal yr ysgol wedyn yn fwy addas.
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Ysgolion]]

Fersiwn yn ôl 11:13, 12 Chwefror 2019

Ysgol 'Genedlaethol', sef ysgol a berthynai i'r Eglwys Sefydledig oedd Ysgol Ynys-yr-arch, a elwid yn ddiweddarach weithiau'n Ysgol Pant-glas, er iddi sefyll tua milltir o'r pentref hwnnw, ac ynghanol y wlad, ym mhen uchaf plwyf Clynnog Fawr.

Mae llythyr ymysg papurau Arglwydd Newborough yn rhoi peth o hanes cychwyniad yr ysgol.[1] fe godwyd ym 1858, gyda ficer Clynnog Fawr, y Parch.Robert Williams MA yn brif symbylydd. Roedd wedi mynd ati dair blynedd ynghynt (tua Gorffennaf 1855) i godi arian i adeiladu ysgol ym mhen uchaf ei blwyf gan nad oedd plant ardal Pant-glas a Bwlch Derwin yn gallu cyrraedd Ysgol Clynnog Fawr, sef yr ysgol a oedd gan yr Eglwys eisoes yn y plwyf. Yn yr un modd, nid oedd modd i drigolion rhan ucha'r plwyf gyrraedd gwasanaethau yn eglwys y plwyf yn hawdd, a'i fwriad oedd cynnal gwasanaethau ar y Sul yn yr adeilad newydd hefyd. Cafwyd safle ar gyfer yr ysgol newydd gan Bucknall Lloyd ar ran o dir fferm Ynys-yr-arch ar y ffin â fferm Gyfelog. Y ficer ei hun dalodd am y defnyddiau i godi'r ysgol, tra oedd y bobl leol yn helpu trwy gario'r defynyddiau adeiladu i'r safle yn rhad ac am ddim.

Roedd gan y ficer broblem efo'r coed oedd ei angen ar gyfer yr ysgol gan fod angen ei lifio, a'i gais i Arglwydd Newborough - a gytunodd iddo[2] - oedd cael lifio'r coed ym melin llifio Glynllifon. Byddai hyn yn arbed tua £10-12 ar y costau, ond byddai hyn yn cael ei gyfrif tuag at y grant yr oeddwn am ei sicrhau oddi wrth y llywodraeth. Roedd yn disgwyl grantiau gan y Cyngor Cyfrin (sef y llywodraeth) a'r Gymdeithas Genedlaethol ond roedd angen tua £600 ar ben hynny i gwblhau'r gwaith.

Rhaid oedd holi pam nad oedd Newborough wedi talu am beth o'r costau eisoes, fel y gwnaeth mewn achosion eraill, ond esboniodd y ficer fod Newborough wedi ymateb yn gadarnhaol i nifer o geisiadau eraill am nawdd ganddo, ac y byddai cyfraniad at y costau cynnal yr ysgol wedyn yn fwy addas.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/26163.
  2. Archifdy Gwynedd, XD2/26170.