Pont y Gelynnen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif '''Pont Gelynan''' ar yr B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y Gelli rhwng Nantlle a Drws-y-coed. Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bon...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saif '''Pont | Saif '''Pont Gelenau''' ar yr B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y Gelli rhwng [[Nantlle]] a [[Drws-y-coed]]. Mae'r bont yn sefyll hanner ffordd rhwng [[Ysgol Baladeulyn]] a fferm Gelli-ffrydiau. Pont weddol ddi-nôd yw, dros nant sy'n rhedeg i mewn i [[Llyn Nantlle Uchaf|Llyn Nantlle Uchaf]]. Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 9 troedfedd uwchben dŵr yr afon. Fe adeiladwyd yn newydd ym 1855, ac yr oedd rhaid i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. Fe adeiladwyd gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £52.10s. | ||
Mewn dogfennau cyn cyfnod y mapiau Ordnans, fe elwir y bont yn ''Bont Gelynan''. Nid yw'n glir pa enw yw'r un cywir erbyn hyn. <ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/28</ref> | |||
Fersiwn yn ôl 16:37, 26 Ionawr 2019
Saif Pont Gelenau ar yr B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y Gelli rhwng Nantlle a Drws-y-coed. Mae'r bont yn sefyll hanner ffordd rhwng Ysgol Baladeulyn a fferm Gelli-ffrydiau. Pont weddol ddi-nôd yw, dros nant sy'n rhedeg i mewn i Llyn Nantlle Uchaf. Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 9 troedfedd uwchben dŵr yr afon. Fe adeiladwyd yn newydd ym 1855, ac yr oedd rhaid i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. Fe adeiladwyd gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £52.10s.
Mewn dogfennau cyn cyfnod y mapiau Ordnans, fe elwir y bont yn Bont Gelynan. Nid yw'n glir pa enw yw'r un cywir erbyn hyn. [1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Caernarfon, XPlansB/28