Richard Garnons: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Richard Garnons''' (29 Rhagfyr 1773 - 8 Awst 1841), mab y Capten Richard Garnons, Plas Llanwnda, Caernarfon a farwodd 1803; ei fab oedd yr olaf o linach [[Teulu Garnons]] i fod â chysylltiad â Dyffryn Nantlle, er efallai iddo wneud mwy o farc llythrennol ar y dyffryn na'i ragflaenwyr a oedd eu cartref ym [[Pant Du|Mhant Du]]. Priododd â Dorothy Foulkes (marw 1853), trydedd ferch y Parch John Foulkes, ficer Chwitffordd, Sir y Fflint, fis Ebrill 1797. Ni chawsant unrhyw blant. Gan iddo gael ei eni yn Sir y Fflint a marw yno, dichon iddo dreulio llawer o'i amser yno, er iddo barhau'n ffigwr o bwys ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. <ref>J.E. Griffiths, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.157</ref>  
'''Richard Garnons''' (29 Rhagfyr 1773 - 8 Awst 1841), mab y Capten Richard Garnons, Plas Llanwnda, Caernarfon a farwodd 1803; ei fab oedd yr olaf o linach [[Teulu Garnons]] i fod â chysylltiad â Dyffryn Nantlle, er efallai iddo wneud mwy o farc llythrennol ar y dyffryn na'i ragflaenwyr a oedd eu cartref ym [[Pant Du|Mhant Du]]. Priododd â Dorothy Foulkes (marw 1853), trydedd ferch y Parch John Foulkes, ficer Chwitffordd, Sir y Fflint, fis Ebrill 1797. Ni chawsant unrhyw blant. Gan iddo gael ei eni yn Sir y Fflint a marw yno, dichon iddo dreulio llawer o'i amser yno, er iddo barhau'n ffigwr o bwys ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. <ref>J.E. Griffiths, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.157</ref> Yn sicr, roedd o'n byw yng Ngholomendy, Sir y Fflint, yn ystod y 1820au.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/11283; 15431</ref>  


Datblygodd Garnons [[Chwarel Pen-y-bryn]] neu [[Cloddfa'r Lôn|Gloddfa'r Lôn]] oedd yn rhan o'i ystad yn y dyddiau cyn iddi ddod yn rhan o [[Chwarel Dorothea]], trwy roi prydles yn y lle cyntaf o'r chwarel i Hugh Jones, William Turner a William Wynne ym mis Medi 1801. Erbyn 1808 os nad cynt roedd Garnons yn un o'r partneriaid yn y busnes. Yn y man, cymerodd Garnons y chwarel ymlaen ar ei liwt ei hun nes ei phasio i gwmni newydd ym 1834. <ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'', tt.77-8; 97-8; 121.</ref> Maes o law, a'r chwarel wedi dod yn rhan o chwarel [[Cloddfa Turner]], fe enwyd y chwarel gyfan yn "[[Chwarel Dorothea]]", oherwydd (mae'n debyg) enw gwraig Garnons y tirfeddiannwr.<ref>Jean Lindsay, ''op.cit.'', t.121</ref>
Datblygodd Garnons [[Chwarel Pen-y-bryn]] neu [[Cloddfa'r Lôn|Gloddfa'r Lôn]] oedd yn rhan o'i ystad yn y dyddiau cyn iddi ddod yn rhan o [[Chwarel Dorothea]], trwy roi prydles yn y lle cyntaf o'r chwarel i Hugh Jones, William Turner a William Wynne ym mis Medi 1801. Erbyn 1808 os nad cynt roedd Garnons yn un o'r partneriaid yn y busnes. Yn y man, cymerodd Garnons y chwarel ymlaen ar ei liwt ei hun nes ei phasio i gwmni newydd ym 1834. <ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'', tt.77-8; 97-8; 121.</ref> Maes o law, a'r chwarel wedi dod yn rhan o chwarel [[Cloddfa Turner]], fe enwyd y chwarel gyfan yn "[[Chwarel Dorothea]]", oherwydd (mae'n debyg) enw gwraig Garnons y tirfeddiannwr.<ref>Jean Lindsay, ''op.cit.'', t.121</ref>

Fersiwn yn ôl 17:56, 15 Ionawr 2019

Richard Garnons (29 Rhagfyr 1773 - 8 Awst 1841), mab y Capten Richard Garnons, Plas Llanwnda, Caernarfon a farwodd 1803; ei fab oedd yr olaf o linach Teulu Garnons i fod â chysylltiad â Dyffryn Nantlle, er efallai iddo wneud mwy o farc llythrennol ar y dyffryn na'i ragflaenwyr a oedd eu cartref ym Mhant Du. Priododd â Dorothy Foulkes (marw 1853), trydedd ferch y Parch John Foulkes, ficer Chwitffordd, Sir y Fflint, fis Ebrill 1797. Ni chawsant unrhyw blant. Gan iddo gael ei eni yn Sir y Fflint a marw yno, dichon iddo dreulio llawer o'i amser yno, er iddo barhau'n ffigwr o bwys ym mhlwyf Llanllyfni. [1] Yn sicr, roedd o'n byw yng Ngholomendy, Sir y Fflint, yn ystod y 1820au.[2]

Datblygodd Garnons Chwarel Pen-y-bryn neu Gloddfa'r Lôn oedd yn rhan o'i ystad yn y dyddiau cyn iddi ddod yn rhan o Chwarel Dorothea, trwy roi prydles yn y lle cyntaf o'r chwarel i Hugh Jones, William Turner a William Wynne ym mis Medi 1801. Erbyn 1808 os nad cynt roedd Garnons yn un o'r partneriaid yn y busnes. Yn y man, cymerodd Garnons y chwarel ymlaen ar ei liwt ei hun nes ei phasio i gwmni newydd ym 1834. [3] Maes o law, a'r chwarel wedi dod yn rhan o chwarel Cloddfa Turner, fe enwyd y chwarel gyfan yn "Chwarel Dorothea", oherwydd (mae'n debyg) enw gwraig Garnons y tirfeddiannwr.[4]

Ymgyrchodd yn galed i sefydlu Ysgol Fasnachol i Gaernarfon ym 1815, ac roedd hyn yn amlwg yn achos oedd yn agos at ei galon. Honnai nad oedd yr ysgolion gramadeg Cymreig traddodiadol yn ateb yr anghenion ar gyfer rhai oedd am fyd i fyd busnes.[5]

Pan trafodwyd creu rheilffordd i gludo'r llechi o'r dyffryn, cymerodd Garnons gyfranddaliadau yn y cwmni, sef Cwmni Rheilffordd Nantlle. Cafwyd trafferth i lywio'r mesur i ganiatáu'r lein trwy'r Senedd, ond fe'i basiwyd yn y diwedd oherwdd dylanwad Garnons fel twrnai yr Ardalydd Môn ar ei gleient, a ddefnyddiodd hwnnw ei rwydwaith o gysylltiadau yn San Steffan wedyn i sicrhau llwyddiant y mesur.[6] 10 tunnell o lechi o chwarel Garnons oedd y llwyth cyntaf i deithio i lawr y lein, a hynny ar 17 Gorffennaf 1828[7] Cymerodd ddiddordeb rhagweithiol yn y rheiulffordd newydd trwy wasanaethu fel aelod ar y pwyllgor rheoli o'r cychwyn.[8]

Erbyn etholiadau 1830 ac 1832, fodd bynnag, roedd Garnons, fel tori, yn ffyrnig yn erbyn pasio Deddf Ddiwygio'r Senedd, ac er yn dawel gefnogol i Syr Charles Paget, whig a brawd iau Ardalydd Môn ym 1830, erbyn 1832, fe trôdd i fod yn gefnogol iawn i William Ormsby Gore, yr ymgeisydd a wrthwynebodd Paget.[9]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.157
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/11283; 15431
  3. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, tt.77-8; 97-8; 121.
  4. Jean Lindsay, op.cit., t.121
  5. Archifdy Caernarfon, XPoole/5645-55
  6. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, (Oakwood, 1981) Cyf. 1, tt.11-13; Gareth Haulfryn Williams, Sŵn y Trên sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018), t.9
  7. Boyd, op.cit., t.25
  8. Boyd, op.cit., t.13
  9. Llewelyn Jones, Sir Charles Paget and the Caernarvonshire Boroughs, 1830-1832, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.21, (1960), tt. 81, 89-90