Richard Garnons: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Richard Garnons''' (29 Rhagfyr 1773 - 8 Awst 1841) oedd yr olaf o linach [[Teulu Garnons]] i fod â chysylltiad â Dyffryn Nantlle. Priododd â Dorothy Foulkes (marw 1853), trydedd ferch y Parch John Foulkes, ficer Chwitffordd, Sir y Fflint, fis Ebrill 1797. Ni chawsant unrhyw blant.  
'''Richard Garnons''' (29 Rhagfyr 1773 - 8 Awst 1841) oedd yr olaf o linach [[Teulu Garnons]] i fod â chysylltiad â Dyffryn Nantlle, er efallai iddo wneud mwy o farc llythrennol ar y dyffryn na'i ragflaenwyr a oedd eu cartref ym [[Pant Du|Mhant Du]]. Priododd â Dorothy Foulkes (marw 1853), trydedd ferch y Parch John Foulkes, ficer Chwitffordd, Sir y Fflint, fis Ebrill 1797. Ni chawsant unrhyw blant.<ref>J.E. Griffiths, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.157</ref>


Datblygodd Garnons [[Chwarel Pen-y-bryn]] yn y dyddiau cyn iddi ddod yn rhan o [[Chwarel Dorothea]].
Datblygodd Garnons [[Chwarel Pen-y-bryn]] neu [[Cloddfa'r Lôn|Gloddfa'r Lôn]] oedd yn rhan o'i ystad yn y dyddiau cyn iddi ddod yn rhan o [[Chwarel Dorothea]], trwy roi prydles yn y lle cyntaf o'r chwarel i Hugh Jones, William Turner a William Wynne ym mis Medi 1801. Erbyn 1808 os nad cynt roedd Garnons yn un o'r partneriaid yn y busnes. Yn y man, cymerodd Garnons y chwarel ymlaen ar ei liwt ei hun nes ei phasio i gwmni newydd ym 1834. <ref>Jean Lindsay, ''A History of the North Wales Slate Industry'', tt.77-8; 97-8; 121.</ref>
 
Pan trafodwyd creu rheilffordd i gludo'r llechi o'r dyffryn, cymerodd Garnons gyfranddaliadau yn y cwmni, sef [[Cwmni Rheilffordd Nantlle]]. Maes o law, a'r chwarel wedi dod yn rhan o chwarel [[Cloddfa Turner]], fe enwyd y chwarel gyfan yn "[[Chwarel Dorothea]]", oferwydd (mae'n debyg) enw gwraig Garnons y tirfeddiannwr.<ref>Jean Lindsay, ''op.cit.'', t.121</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 18:10, 15 Ionawr 2019

Richard Garnons (29 Rhagfyr 1773 - 8 Awst 1841) oedd yr olaf o linach Teulu Garnons i fod â chysylltiad â Dyffryn Nantlle, er efallai iddo wneud mwy o farc llythrennol ar y dyffryn na'i ragflaenwyr a oedd eu cartref ym Mhant Du. Priododd â Dorothy Foulkes (marw 1853), trydedd ferch y Parch John Foulkes, ficer Chwitffordd, Sir y Fflint, fis Ebrill 1797. Ni chawsant unrhyw blant.[1]

Datblygodd Garnons Chwarel Pen-y-bryn neu Gloddfa'r Lôn oedd yn rhan o'i ystad yn y dyddiau cyn iddi ddod yn rhan o Chwarel Dorothea, trwy roi prydles yn y lle cyntaf o'r chwarel i Hugh Jones, William Turner a William Wynne ym mis Medi 1801. Erbyn 1808 os nad cynt roedd Garnons yn un o'r partneriaid yn y busnes. Yn y man, cymerodd Garnons y chwarel ymlaen ar ei liwt ei hun nes ei phasio i gwmni newydd ym 1834. [2]

Pan trafodwyd creu rheilffordd i gludo'r llechi o'r dyffryn, cymerodd Garnons gyfranddaliadau yn y cwmni, sef Cwmni Rheilffordd Nantlle. Maes o law, a'r chwarel wedi dod yn rhan o chwarel Cloddfa Turner, fe enwyd y chwarel gyfan yn "Chwarel Dorothea", oferwydd (mae'n debyg) enw gwraig Garnons y tirfeddiannwr.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.157
  2. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, tt.77-8; 97-8; 121.
  3. Jean Lindsay, op.cit., t.121