J.J. Thomas, FGS: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 19: Llinell 19:
Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007 ac arni yr englyn hwn:  
Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007 ac arni yr englyn hwn:  


"''Ei galon lawn haelioni - ei ofal''
    '' Ei gyfoeth o'r llechi''
    ''A rannodd â bro ei eni'',
    ''Arllwys aur er ei lles hi''."'' 
                        Geraint Lloyd Owen
[[Delwedd:JJThomas,Kendal.JPG|bawd|chwith|100px|Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007]]


[[Delwedd:JJThomas,Kendal.JPG|bawd|100px|Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007]]






Ei galon lawn haelioni - ei ofal
    Ei gyfoeth o'r llechi
  A rannodd â bro ei eni,
  Arllwys aur er ei lles hi. 
                        Geraint Lloyd Owen





Fersiwn yn ôl 21:05, 4 Ionawr 2019

J.J. Thomas, F.G.S., Kendal. 1860-1942

Chwarelwr galluog y bu galw mawr am ei gyngor ar faterion daeareg chwareli a mwynfeydd cyn belled â Mecsico a’r Unol Daleithiau. Urddwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas y Daearegwyr (F.G.S.).

Fe'i ganed yn Nhŷ Ucha, ardal Rhostryfan yn 1860 a bu'n gweithio yn y chwareli lleol yn hogyn ifanc, ond gadawodd i fynd i fyw at ei ewyrth, Thomas Williams, yn Broughton-in-Furness a mynychodd ddosbarth nos i ddysgu Saesneg.

Un o'r Fron Oleu, Rhostryfan oedd Thomas Williams ac roedd yntau wedi gadael yr ardal yn llanc ifanc gan ddod yn berchennog chwarel Ulpha yn nyffryn Duddon yn Ardal y Llynnoedd. Yn drychinebus, bu foddi yn ei chwarel ei hun yn 1880.

Symudodd J.J. Thomas i Kendal yn 1886 ac yno y bu weddill ei oes.

Yn y man daeth yn brif reolwr ar chwarel Tilberthwaite a gwnaeth ei ffortiwn yno. Bu'n faer Kendal deirgwaith, bu ar Gyngor Sir Westmorland am 46 mlynedd ac yn 1936 fe'i hurddwyd yn Rhyddfreiniwr Bwrdeistref Kendal.

Hen lanc ydoedd, nodedig am ei haelioni, ac wedi ei farwolaeth yn 1942 gadawodd symiau o arian i Brifysgol Cymru ac i bentref Rhostryfan.

Roedd yr arian i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r tlawd a'r anghenus, i weddwon chwarelwyr, i godi elusendai, i Gapel Horeb a'r Eisteddfod leol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth J. J. Thomas i weithredu yn ôl ei ddymuniad, ac mae'r pwyllgor wedi rhannu llogau byth ers hynny.

Does dim angen elusendai bellach, gwerthwyd y tai i chwyddo'r coffrau, a phrin yw gweddwon chwarelwyr erbyn heddiw, ond mae'r gymuned yn elwa yn flynyddol o'i haelioni. Mae Ysgol Rhostryfan, myfyrwyr a'r henoed yn parhau i dderbyn rhoddion o’r elusen a sefydlodd. <ref.Allan o Lleu tua Chwerfor 2008 gan Dewi Tomos.</ref>

Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007 ac arni yr englyn hwn:

"Ei galon lawn haelioni - ei ofal

     Ei gyfoeth o'r llechi
   A rannodd â bro ei eni, 
   Arllwys aur er ei lles hi."   
                        Geraint Lloyd Owen
Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007




Cyfeiriadau

Nodyn:O ysgrif yn ''Lleu'' gan Dewi Tomos tua Chwefror 2008