Rheilffordd Sir Gaernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Categori:Cwmnïau Rheilffyrdd'
 
Cychwyn erthygl newydd
Llinell 1: Llinell 1:
Dyma enw'r cwmni a adeiladodd y rheilffordd o Gaernarfon i Afon-wen. Yn y dechrau nid oedd cysylltiad gyda changen Rheilffordd Caer a Chaergybi a derfynnai (o 1852 ymlaen) yng Nghaernarfon (ar safle archfarchnad Morrison's heddiw). Rhedai'r cledrau o Afon-wen hyd at Pant (rhwng Frongoch a Chartref Seiont Newydd) am rai blynyddoedd nes i Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin uno'r rheilffordd hon a'r gangen o Fangor i Gaernarfon.
Prynodd cwmni Rh. Sir Gaernarfon gwmni Rheilffordd Nantlle, gan ddefnyddio rhannau helaeth o drac a thir y cwmni hwnnw er mwyn adeiladu eu lein led safonol (4'8 1/2").
[[Categori:Cwmnïau Rheilffyrdd]]
[[Categori:Cwmnïau Rheilffyrdd]]

Fersiwn yn ôl 18:16, 17 Hydref 2017