Gorsaf reilffordd Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Eginyn newydd
Dim crynodeb golygu
Llinell 11: Llinell 11:


[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Rheilffordd Sir Gaernarfon]]

Fersiwn yn ôl 19:08, 23 Tachwedd 2017

Enw gwreiddiol Gorsaf Llanwnda oedd Clynnog Road. Roedd cyn lleied o dai yn yr ardal fel mai prif bwrpas yr orsaf oedd gwasanaethu'r tir isel ger y môr sy'n ymestyn o Lanwnda i Glynnog-fawr a Threfor, gan nad oedd gorsaf agosach i'r mannau hynny. Mae'r safle bellach yn faes parcio ar gyfer Lon Eifion, gyferbyn â thafarn (gaeëdig) y Goat. Roedd yn 900 llath o orsaf Dinas ar y naill ochr, ac ychydig dros filltir o orsaf Y Groeslon ar y llall.

Nid oedd yno ond un platfform ac un seidin a ddefnyddid ar gyfer wagenni glo fel arfer. Am gyfnod yn y 19eg ganrif, roedd gwaith trwsio wagenni y tu ôl i resdai Gwêl-y-môr.

Fe agorwyd yr orsaf gan Reilffordd Sir Gaernarfon ym 1867 ar safle hen orsaf Rheilffordd Nantlle, ac fe'i chaewyd gan Reilffyrdd Prtydeinig ym 1964.

Ffynonellau

LMS Branch Lines in North Wales, W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986)