Gwaith copr Drws-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Mae dwy res fer o fythynnod unllawr a godwyd fel tai ar gyfer y mwynwyr gerllaw. Maent yn dyddio o 1830 neu ychydig ynghynt. Roedd capel hefyd wedi'i godi ym 1836 at iws y gymuned, er nad hwn yw'r capel presennol, [[Capel Drws-y-coed (A)]], gan i'r llall gael ei ddinistrio gan garreg anferth a syrthiodd trwy ei do ym 1892.
Mae dwy res fer o fythynnod unllawr a godwyd fel tai ar gyfer y mwynwyr gerllaw. Maent yn dyddio o 1830 neu ychydig ynghynt. Roedd capel hefyd wedi'i godi ym 1836 at iws y gymuned, er nad hwn yw'r capel presennol, [[Capel Drws-y-coed (A)]], gan i'r llall gael ei ddinistrio gan garreg anferth a syrthiodd trwy ei do ym 1892.


Er mai 13000 tunnell yw cyfanswm y cynnyrch o fwynau a gofnodwyd, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y galli ddwywaith cymaint  â hynny fod wedi dod o'r gloddfa. <ref>David Bick, ''The Old Copper Mines of Snowdonia'', 3ydd argraffiad, (2003), ''3rd Edition 2003.''passim;</ref>
Er mai 13000 tunnell yw cyfanswm y cynnyrch o fwynau a gofnodwyd, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y gallai ddwywaith cymaint  â hynny fod wedi dod o'r gloddfa. <ref>David Bick, ''The Old Copper Mines of Snowdonia'', 3ydd argraffiad, (2003), ''3rd Edition 2003.''passim;</ref>





Fersiwn yn ôl 17:33, 7 Hydref 2018

Roedd gwaith copr Drws-y-coed yn cynhyrchu mwynau copr am ddwy ganrif cyn iddo gau'n derfynnol ym 1920. Mae'n sefyll ar dir fferm Drws-y-coed Isaf ym mhen draw Dyffryn Nantlle, ar gyrion y dreflan fach a dyfodd oherwydd y gwaith, sef Drws-y-coed.

Er bod awgrym bod y gwaith wedi bod yn cynhyrchu adeg y Rhufeiniaid ac wedyn ar ôl 1284 pan gymerodd y Saeson feddiant ar ogledd Cymru, mae'r cyfeiriadau pendant cynharaf yn dyddio'n ôl i'r 18g. Mae cofnod fod mwynwyr o Gernyw yn gweithio'r wythïen gopr ym 1761 yma, wedi i'r gwaith ailagor ym 1760. Fe'i caewyd wedyn ym 1777, cyn ailagor yn 1792. Cynyddodd y galw ac yn y 1830au, symudodd fwynwyr a merched sgrinio copr (y copar ladis) o Fynydd Parys pan aeth y gwaith yno'n brin. Dyna oedd prif gyfnod cynhyrchu gwaith Drws-y-coed, ac erbyn y 1880au, roedd y cynnyrch wedi disgyn i oddeutu 200 tunnell y flwyddyn.[1] Parhaodd i weithio i mewn i'r 20g, a gludwyd y cynnyrch i'r orsaf yn Nhal-y-sarn yn y diwedd mewn treilar y tu ôl i injan dynnu stêm.[2]

Mae ochr y mynydd uwchben gwaelod y dyffryn yn llawn olion, yn dyllau arbrofi, cytiau a thipiau rwbel, sydd (yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) yn nodweddiadol o waith mwyngloddio y 18g hwyr a'r 19g gynnar. Mae olion melin stampio ar y safle, lle malwyd y graig i dynnu'r mwynau ohoni. Fe'i c0dwyd ym 1769-70[3], a dyma olion cynharaf unrhyw felin stampio i oroesi yng Nghymru. Mae olion melin arall a godwyd ar ddechrau'r 20g, ychydig i'r dwyrain.

Mae dwy res fer o fythynnod unllawr a godwyd fel tai ar gyfer y mwynwyr gerllaw. Maent yn dyddio o 1830 neu ychydig ynghynt. Roedd capel hefyd wedi'i godi ym 1836 at iws y gymuned, er nad hwn yw'r capel presennol, Capel Drws-y-coed (A), gan i'r llall gael ei ddinistrio gan garreg anferth a syrthiodd trwy ei do ym 1892.

Er mai 13000 tunnell yw cyfanswm y cynnyrch o fwynau a gofnodwyd, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y gallai ddwywaith cymaint â hynny fod wedi dod o'r gloddfa. [4]


I'W BARHAU

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol, ar wefan Aditnow [1], cyrchwyd 8.10.2018
  2. Llun yn Archifdy Gwynedd.
  3. Archifdy Caernarfon, X/Vaynol/5047.
  4. David Bick, The Old Copper Mines of Snowdonia, 3ydd argraffiad, (2003), 3rd Edition 2003.passim;