Gwaith copr Drws-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''gwaith copr Drws-y-coed''' yn cynhyrchu mwynau copr am ddwy ganrif cyn iddo gau'n derfynnol ym 1920. Mae'n sefyll ar dir fferm Drws-y-coed Isaf ym mhen draw [[Dyffryn Nantlle]], ar gyrion y dreflan fach a dyfodd oherwydd y gwaith, sef [[Drws-y-coed]]. | Roedd '''gwaith copr Drws-y-coed''' yn cynhyrchu mwynau copr am ddwy ganrif cyn iddo gau'n derfynnol ym 1920. Mae'n sefyll ar dir fferm Drws-y-coed Isaf ym mhen draw [[Dyffryn Nantlle]], ar gyrion y dreflan fach a dyfodd oherwydd y gwaith, sef [[Drws-y-coed]]. | ||
Er bod awgrym bod y gwaith wedi bod yn cynhyrchu adeg y Rhufeiniaid ac wedyn ar ôl 1284 pan gymerodd y Saeson feddiant ar ogledd Cymru, mae'r cyfeiriadau pendant cynharaf yn dyddio'n ôl i'r 18g. Mae cofnod fod mwynwyr o Gernyw yn gweithio'r wythïen gopr ym 1761 yma, wedi i'r gwaith ailagor ym 1760. Fe'i caewyd wedyn ym 1777, cyn ailagor yn 1792. Cynyddodd y galw ac yn y 1830au, symudodd fwynwyr a merched sgrinio copr (y ''copr ladis'') o Fynydd Parys pan aeth y gwaith yno'n brin. Dyna oedd prif gyfnod cynhyrchu gwaith Drws-y-coed, ac erbyn y 1880au, roedd y cynnyrch wedi disgyn i oddeutu 200 tunnell y flwyddyn. Parhaodd i weithio i mewn i | Er bod awgrym bod y gwaith wedi bod yn cynhyrchu adeg y Rhufeiniaid ac wedyn ar ôl 1284 pan gymerodd y Saeson feddiant ar ogledd Cymru, mae'r cyfeiriadau pendant cynharaf yn dyddio'n ôl i'r 18g. Mae cofnod fod mwynwyr o Gernyw yn gweithio'r wythïen gopr ym 1761 yma, wedi i'r gwaith ailagor ym 1760. Fe'i caewyd wedyn ym 1777, cyn ailagor yn 1792. Cynyddodd y galw ac yn y 1830au, symudodd fwynwyr a merched sgrinio copr (y ''copr ladis'') o Fynydd Parys pan aeth y gwaith yno'n brin. Dyna oedd prif gyfnod cynhyrchu gwaith Drws-y-coed, ac erbyn y 1880au, roedd y cynnyrch wedi disgyn i oddeutu 200 tunnell y flwyddyn.<ref>Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, ''Cofnod Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol'', ar wefan Aditnow [https://www.aditnow.co.uk/documents/Drws-y-Coed-Copper-Mine/GAT-Drws-y-Coed-Summary.pdf], cyrchwyd 8.10.2018</ref> Parhaodd i weithio i mewn i'r 20g, a gludwyd y cynnyrch i'r orsaf yn Nhal-y-sarn yn y diwedd mewn treilar y tu ôl i injan dynnu stêm. | ||
Mae ochr y mynydd uwchben gwaelod y dyffryn yn llawn olion, yn dyllau arbrofi, cytiau a thipiau rwbel, sydd (yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) yn nodweddiadol o waith mwyngloddio y 18g hwyr a'r 19g gynnar. Mae olion melin stampio ar y safle, lle malwyd y graig i dynnu'r mwynau ohoni. Fe'i cdwyd ym 1769, a dyma olion cynharaf unrhyw felin stampio i oroesi yng Nghymru. Mae olion melin arall a godwyd ar ddechrau'r 20g, ychydig i'r dwyrain. | Mae ochr y mynydd uwchben gwaelod y dyffryn yn llawn olion, yn dyllau arbrofi, cytiau a thipiau rwbel, sydd (yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) yn nodweddiadol o waith mwyngloddio y 18g hwyr a'r 19g gynnar. Mae olion melin stampio ar y safle, lle malwyd y graig i dynnu'r mwynau ohoni. Fe'i cdwyd ym 1769, a dyma olion cynharaf unrhyw felin stampio i oroesi yng Nghymru. Mae olion melin arall a godwyd ar ddechrau'r 20g, ychydig i'r dwyrain. | ||
Mae dwy res fer o fythynnod unllawr a godwyd fel tai ar gyfer y mwynwyr gerllaw. Maent yn dyddio o 1830 neu ychydig ynghynt. Roedd capel hefyd wedi'i godi ym 1836 at iws y gymuned, er nad hwn yw'r capel presennol, [[Capel Drws-y-coed (A) | Mae dwy res fer o fythynnod unllawr a godwyd fel tai ar gyfer y mwynwyr gerllaw. Maent yn dyddio o 1830 neu ychydig ynghynt. Roedd capel hefyd wedi'i godi ym 1836 at iws y gymuned, er nad hwn yw'r capel presennol, [[Capel Drws-y-coed (A)]], gan i'r llall gael ei ddinistrio gan garreg anferth a syrthiodd trwy ei do ym 1892. | ||
Er mai 13000 tunnell yw cyfanswm y cynnyrch o fwynau a gofnodwyd, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y galli ddwywaith cymaint â hynny fod wedi dod o'r gloddfa. <ref>David Bick, ''The Old Copper Mines of Snowdonia'', 3ydd argraffiad, (2003), ''3rd Edition 2003.''passim;</ref> | Er mai 13000 tunnell yw cyfanswm y cynnyrch o fwynau a gofnodwyd, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y galli ddwywaith cymaint â hynny fod wedi dod o'r gloddfa. <ref>David Bick, ''The Old Copper Mines of Snowdonia'', 3ydd argraffiad, (2003), ''3rd Edition 2003.''passim;</ref> |
Fersiwn yn ôl 16:23, 7 Hydref 2018
Roedd gwaith copr Drws-y-coed yn cynhyrchu mwynau copr am ddwy ganrif cyn iddo gau'n derfynnol ym 1920. Mae'n sefyll ar dir fferm Drws-y-coed Isaf ym mhen draw Dyffryn Nantlle, ar gyrion y dreflan fach a dyfodd oherwydd y gwaith, sef Drws-y-coed.
Er bod awgrym bod y gwaith wedi bod yn cynhyrchu adeg y Rhufeiniaid ac wedyn ar ôl 1284 pan gymerodd y Saeson feddiant ar ogledd Cymru, mae'r cyfeiriadau pendant cynharaf yn dyddio'n ôl i'r 18g. Mae cofnod fod mwynwyr o Gernyw yn gweithio'r wythïen gopr ym 1761 yma, wedi i'r gwaith ailagor ym 1760. Fe'i caewyd wedyn ym 1777, cyn ailagor yn 1792. Cynyddodd y galw ac yn y 1830au, symudodd fwynwyr a merched sgrinio copr (y copr ladis) o Fynydd Parys pan aeth y gwaith yno'n brin. Dyna oedd prif gyfnod cynhyrchu gwaith Drws-y-coed, ac erbyn y 1880au, roedd y cynnyrch wedi disgyn i oddeutu 200 tunnell y flwyddyn.[1] Parhaodd i weithio i mewn i'r 20g, a gludwyd y cynnyrch i'r orsaf yn Nhal-y-sarn yn y diwedd mewn treilar y tu ôl i injan dynnu stêm.
Mae ochr y mynydd uwchben gwaelod y dyffryn yn llawn olion, yn dyllau arbrofi, cytiau a thipiau rwbel, sydd (yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) yn nodweddiadol o waith mwyngloddio y 18g hwyr a'r 19g gynnar. Mae olion melin stampio ar y safle, lle malwyd y graig i dynnu'r mwynau ohoni. Fe'i cdwyd ym 1769, a dyma olion cynharaf unrhyw felin stampio i oroesi yng Nghymru. Mae olion melin arall a godwyd ar ddechrau'r 20g, ychydig i'r dwyrain.
Mae dwy res fer o fythynnod unllawr a godwyd fel tai ar gyfer y mwynwyr gerllaw. Maent yn dyddio o 1830 neu ychydig ynghynt. Roedd capel hefyd wedi'i godi ym 1836 at iws y gymuned, er nad hwn yw'r capel presennol, Capel Drws-y-coed (A), gan i'r llall gael ei ddinistrio gan garreg anferth a syrthiodd trwy ei do ym 1892.
Er mai 13000 tunnell yw cyfanswm y cynnyrch o fwynau a gofnodwyd, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y galli ddwywaith cymaint â hynny fod wedi dod o'r gloddfa. [2]
I'W BARHAU
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma