Rhedynog Felen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gorllwyn (sgwrs | cyfraniadau) B cywiro sillafu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
==Y Drefgordd== | ==Y Drefgordd== | ||
Roedd '''Rhedynog Felen''' yn un o dair trefgordd (neu raniad) yng nghylch eglwys [[Llanwnda]]. Roedd [[Bodellog]] a [[Llanwnda]] ei hun yn drefi cyfrif (lle roedd y trigolion â gorfodaeth i wneud gwaith i ddeiliad y drefgordd. Roedd Rhedynog Felen yn dref rhydd, lle nad oedd gan y trigolion yr un dyletswyddau | Roedd '''Rhedynog Felen''' yn un o dair trefgordd (neu raniad) yng nghylch eglwys [[Llanwnda]]. Roedd [[Bodellog]] a [[Llanwnda]] ei hun yn drefi cyfrif (lle roedd y trigolion â gorfodaeth i wneud gwaith i ddeiliad y drefgordd). Roedd Rhedynog Felen yn dref rhydd, lle nad oedd gan y trigolion yr un dyletswyddau. | ||
==Perchenogaeth== | ==Perchenogaeth== | ||
Mae Rhedynog Felen hefyd yn enw ar hen annedd a fferm yn rhan isaf plwyf [[Llanwnda]], a cheir cyfeiriad cynnar i’r lleoliad yma o gwmpas 1673. Heddiw mae ffermdy yn ogystal a thŷ swmpus ar y safle. Ceir yr ysgrif ‘1673 I L A’ ar lechen yn y tŷ, a chredir i hyn fod yn gyfeiriad at ei pherchnogion - roedd Lewis Jones yn berchennog ar y lle ym 1673, a byddai "A" yn cyfeirio at enw ei wraig (sydd yn anhysbys er y credai Gilbert Williams mai merch Tŷ Hen, Llanwnda oedd hi. Roedd y sefydliad hwn hefyd yn drefgordd ac yn le o statws a pwysigrwydd sylweddol yn yr ardal. | Mae Rhedynog Felen hefyd yn enw ar hen annedd a fferm yn rhan isaf plwyf [[Llanwnda]], a cheir cyfeiriad cynnar i’r lleoliad yma o gwmpas 1673. Heddiw mae ffermdy yn ogystal a thŷ swmpus ar y safle. Ceir yr ysgrif ‘1673 I L A’ ar lechen yn y tŷ, a chredir i hyn fod yn gyfeiriad at ei pherchnogion - roedd Lewis Jones yn berchennog ar y lle ym 1673, a byddai "A" yn cyfeirio at enw ei wraig (sydd yn anhysbys er y credai [[W. Gilbert Williams]] mai merch Tŷ Hen, Llanwnda oedd hi. Roedd y sefydliad hwn hefyd yn drefgordd ac yn le o statws a pwysigrwydd sylweddol yn yr ardal. | ||
==Tir eglwysig== | ==Tir eglwysig== | ||
Mae | Mae siartrau Abaty Aberconwy yn dangos hanes Rhedynog, sef boid hen fynachdy Cymreig wedi bodoli ar y safle am ychydig flynyddoedd cyn symud i Aberconwy ar ddiwedd y 12g.. Mae cyfeiriad i’r lle yma hefyd yn dyddio i 1180, ym ''Mrut y Tywysogion'', fel lle diogel dan nawdd Tywysogion Gwynedd, sydd yn awgrymu bod rhai o leiaf o fynaich Ystrad Fflur wedi symud yna. Mae'r siartr hefyd yn awgyrumu i’r lleoliad gael ei roi yn rodd i fynachod Aberconwy ym 1198 gan Llywelyn ab Iorwerth, gan ei fod yn cael ei chysylltu â’r Abaty yn aml. Os yw hyn yn gywir, mae’n cryfhau’r ddadl fod y lle yma wedi bod yn fynachdy ei hun ar un cyfnod. Fel y traddodiad, fyddai’r sefydliad yma mewn angen i gael ei fferm ei hun, neu ‘cwirt’/’cwrt’ fel y gelwir. Mae’r ffaith fod [[Cefn Hengwrt]] a Beudy Gwyn (yn cyfeirio., mae'n debyg, at y Brodyr Gwynion fel y gelwid y mynaich) yn agos i Redynog Felen felly yn dangos fod yr angen yma wedi bodoli ar un cyfnod, a bod y lle'n fferm a fyddai'n cyflenwi bwyd a/neu incwm i fynaich Aberconwy, a hynny hyd at ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536. | ||
Pan gymerodd y brenin Harri VIII berchnogaeth ar y lle ym 1536, fe roddodd Redynog Felen ar brydles i Huw Puleston o Gaernarfon, er i ddyn o'r enw William ap Dafydd ap Siencyn honni fod ganddo brydles gan y mynaich eisoes am gyfnod o 34 mlnedd, er na lwyddodd i brofi ei honaid. Gwerthodd y Goron y lle i Griffith Davies, (gŵr a fu'n aelod seneddol dros fwrdeisdrefi'r sir ym 1553), a hynny ym 1557, a bu yn ei deulu am flynyddoedd lawer. Nid oedd trigolion trefgordd Rhedynog yn hapus gyda hyn a fe gawsant eu cyhuddo (a hynny heb sail mae'n debyg) o ysbeilio'r tiroedd o goed ac ati a fyddai wedi bod o fudd i'r perchennog newydd. | Pan gymerodd y brenin Harri VIII berchnogaeth ar y lle ym 1536, fe roddodd Redynog Felen ar brydles i Huw Puleston o Gaernarfon, er i ddyn o'r enw William ap Dafydd ap Siencyn honni fod ganddo brydles gan y mynaich eisoes am gyfnod o 34 mlnedd, er na lwyddodd i brofi ei honaid. Gwerthodd y Goron y lle i [[Griffith Davies]], (gŵr a fu'n aelod seneddol dros fwrdeisdrefi'r sir ym 1553), a hynny ym 1557, a bu yn ei deulu am flynyddoedd lawer. Nid oedd trigolion trefgordd Rhedynog yn hapus gyda hyn a fe gawsant eu cyhuddo (a hynny heb sail mae'n debyg) o ysbeilio'r tiroedd o goed ac ati a fyddai wedi bod o fudd i'r perchennog newydd. | ||
Mae tir Rhedynogfelen wedi bod yn nwylo rhai o deuluoedd nodedig y Sir ar adegau, cyn cael ei werthu ymlaen a’i hollti mewn maint pob tro. Tybir mai hyn yw achos y ffaith fod ei statws a’r cof ohoni fel lleoliad pwysig wedi diflannu. | Mae tir Rhedynogfelen wedi bod yn nwylo rhai o deuluoedd nodedig y Sir ar adegau, cyn cael ei werthu ymlaen a’i hollti mewn maint pob tro. Tybir mai hyn yw achos y ffaith fod ei statws a’r cof ohoni fel lleoliad pwysig wedi diflannu. |
Fersiwn yn ôl 09:38, 30 Rhagfyr 2019
Y Drefgordd
Roedd Rhedynog Felen yn un o dair trefgordd (neu raniad) yng nghylch eglwys Llanwnda. Roedd Bodellog a Llanwnda ei hun yn drefi cyfrif (lle roedd y trigolion â gorfodaeth i wneud gwaith i ddeiliad y drefgordd). Roedd Rhedynog Felen yn dref rhydd, lle nad oedd gan y trigolion yr un dyletswyddau.
Perchenogaeth
Mae Rhedynog Felen hefyd yn enw ar hen annedd a fferm yn rhan isaf plwyf Llanwnda, a cheir cyfeiriad cynnar i’r lleoliad yma o gwmpas 1673. Heddiw mae ffermdy yn ogystal a thŷ swmpus ar y safle. Ceir yr ysgrif ‘1673 I L A’ ar lechen yn y tŷ, a chredir i hyn fod yn gyfeiriad at ei pherchnogion - roedd Lewis Jones yn berchennog ar y lle ym 1673, a byddai "A" yn cyfeirio at enw ei wraig (sydd yn anhysbys er y credai W. Gilbert Williams mai merch Tŷ Hen, Llanwnda oedd hi. Roedd y sefydliad hwn hefyd yn drefgordd ac yn le o statws a pwysigrwydd sylweddol yn yr ardal.
Tir eglwysig
Mae siartrau Abaty Aberconwy yn dangos hanes Rhedynog, sef boid hen fynachdy Cymreig wedi bodoli ar y safle am ychydig flynyddoedd cyn symud i Aberconwy ar ddiwedd y 12g.. Mae cyfeiriad i’r lle yma hefyd yn dyddio i 1180, ym Mrut y Tywysogion, fel lle diogel dan nawdd Tywysogion Gwynedd, sydd yn awgrymu bod rhai o leiaf o fynaich Ystrad Fflur wedi symud yna. Mae'r siartr hefyd yn awgyrumu i’r lleoliad gael ei roi yn rodd i fynachod Aberconwy ym 1198 gan Llywelyn ab Iorwerth, gan ei fod yn cael ei chysylltu â’r Abaty yn aml. Os yw hyn yn gywir, mae’n cryfhau’r ddadl fod y lle yma wedi bod yn fynachdy ei hun ar un cyfnod. Fel y traddodiad, fyddai’r sefydliad yma mewn angen i gael ei fferm ei hun, neu ‘cwirt’/’cwrt’ fel y gelwir. Mae’r ffaith fod Cefn Hengwrt a Beudy Gwyn (yn cyfeirio., mae'n debyg, at y Brodyr Gwynion fel y gelwid y mynaich) yn agos i Redynog Felen felly yn dangos fod yr angen yma wedi bodoli ar un cyfnod, a bod y lle'n fferm a fyddai'n cyflenwi bwyd a/neu incwm i fynaich Aberconwy, a hynny hyd at ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536.
Pan gymerodd y brenin Harri VIII berchnogaeth ar y lle ym 1536, fe roddodd Redynog Felen ar brydles i Huw Puleston o Gaernarfon, er i ddyn o'r enw William ap Dafydd ap Siencyn honni fod ganddo brydles gan y mynaich eisoes am gyfnod o 34 mlnedd, er na lwyddodd i brofi ei honaid. Gwerthodd y Goron y lle i Griffith Davies, (gŵr a fu'n aelod seneddol dros fwrdeisdrefi'r sir ym 1553), a hynny ym 1557, a bu yn ei deulu am flynyddoedd lawer. Nid oedd trigolion trefgordd Rhedynog yn hapus gyda hyn a fe gawsant eu cyhuddo (a hynny heb sail mae'n debyg) o ysbeilio'r tiroedd o goed ac ati a fyddai wedi bod o fudd i'r perchennog newydd.
Mae tir Rhedynogfelen wedi bod yn nwylo rhai o deuluoedd nodedig y Sir ar adegau, cyn cael ei werthu ymlaen a’i hollti mewn maint pob tro. Tybir mai hyn yw achos y ffaith fod ei statws a’r cof ohoni fel lleoliad pwysig wedi diflannu.
Ffynonellau
Cofnod am Rhedynogfelen ar wefan y Comisiwn Brenhinol.
Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i’r Traeth: Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)
Williams, W Gilbert, Hen Deuluoedd Llanwnda. VI - Teulu Rhedynog Felen, Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf 8, (1947), tt20-2.