R. Silyn Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
y frawddeg gyntaf i'r arddull arferol (arddull Wici Uwchgwyrfai!)
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Pregethwr Methodistaidd Calfinaidd, bardd a diwygiwr cymdeithasol oedd '''R. Silyn Roberts''' (1871-1930).
Pregethwr Methodistaidd Calfinaidd, bardd, diwygiwr cymdeithasol ac athro oedd '''R. Silyn Roberts''' (1871-1930).


Ganwyd ym Mryn Llidiart yn Llanllyfni, a buodd yn chwarelwr yng Nglynnog yn fachgen ifanc. Astudiodd yng Ngholeg y Gogledd (B.A. 1899, M.A. 1901) a'r Bala.
Ganwyd ym Mrynllidiart, ar Ben Cymffyrch, ar lechwedd Cwm Silyn. Wrth droed Pen Cymffyrch yr oedd pentref Tanrallt.
 
Bu ei dad, Robert John Roberts (1819-1898), yn briod deirgwaith, ond collodd ei ddwy wraig gyntaf pan oeddynt yn 29 oed. Ellen Williams, o Niwbwrch, Sir Fôn, oedd ei drydedd wraig, mam Silyn. Ganed iddi hi ddau blentyn, sef Silyn ac Ellen (Nel), mam Mathonwy Hughes, bardd y Gadair Genedlaethol 1956.  [Cefnder iddi oedd R.T. Roberts a drowyd ymaith o Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 17 mlwydd oed, ar ôl streic 1846, am wrthod bradychu cydweithiwr; galwyd ef yn “Ferthyr cyntaf Chwarel y Cae.”  Gorfu iddo fynd i America i chwilio am waith a gadael ei fam weddw yn unig ar ei ôl.<ref>Ceir ei hanes yn Silyn (Robert Silyn Roberts) 1871-1930 gan David Thomas, Gwasg y Brython, 1956.</ref>]
 
Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a bu’n chwarelwr am bum mlynedd. Yna aeth i Ysgol Clynnog yn fyfyriwr, yn 19 mlwydd oed. Y Parchedig W.  Mathias Griffith oedd y prifathro. Bu yno am dair blynedd a dechreuodd astudio Lladin (Caesar, Sallust, Fyrsil) a Groeg (Xenophon, Homer), a phynciau eraill. Un o’i gyfeillion yno oedd Morgan W. Griffith o Dal-y-sarn, a ddaeth yn weinidog Pen Mownt, Pwllheli.  
 
Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Bangor. Yno y mabwysiadodd yr enw canol Silyn gan fod yno fyfyriwr arall o’r  enw Robert Roberts. Graddiodd yn 1899 (B.A.) ac aeth i Goleg y Bala ym Medi 1899. Cwblhaodd ei radd M.A. yn 1901 (M.A.) ar y Chwedl Arthuraidd mewn Llenyddiaeth Saesneg.
 
Yng Ngholeg Bangor yr enillodd ddwy gadair Eistedfodau’r Myfyrwyr ac amryw o wobrau eraill am farddoni.  Yn 1902 enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor, am ei bryddest ''Trystan ac Esyllt.'' Wedi hyn cyhoeddodd ''Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill'', ac yna ''Telynegion'' mewn cydweithrediad a W. J. Gruffydd yn 1904. Roedd hyn yn gychwyn cyfnod telynegol newydd mewn barddoniaeth Gymraeg. Cyhoeddodd ragor o weithiau eraill o dan y ffugenw ‘Rhosyr’.
 
Derbyniodd alwad i fynd yn weinidog ar Eglwys Lewisham, Llundain,(1901-1905) ac ar Bethel, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog (1905-1913).
 
Bu hefyd yn darlithio yn yr U.D.A ac yng Nghanada dros y mudiad yn erbyn y darfodedigaeth. Yn 1912 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyntaf Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, a phan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf – ymdrechodd i gael penodi swyddogion o Gymry yn y lluoedd arfog.  Bu’n swyddog dros Gymru dan y Llywodraeth, 1918-22.
 
O hynny ymlaen bu’n ddarlithydd dosbarthiadau allanol Coleg Bangor, ac yn 1925 sefydlodd adran Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr.
 
Ysgrifennodd lawer i’r ''Glorian'', ''Y Dinesydd Cymreig'', ''Welsh Outlook'', ayb.
 
Awdur y canlynol:  ''Gwyntoedd Croesion'', 1924 (cyf. o ddrama J.O. Francis, Cross Currents);  ''Bugail Geifr Lorraine'', 1925 (cyf. o nofel Ffrangeg); a’r nofel ''Llio Plas y Nos'' (1945).
 
Priododd yn 1905 â Mary Parry, Llundin.  Cawsant ddau fab a merch.  Bu farw ym Mangor, 15 Awst 1930.


Buodd yn weinidog yn Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Lewisham ac yn Nhanygrisiau. Trodd ei sylw at lenyddiaeth bellach ymlaen, ac enillodd y goron yn Eisteddfod Bangor yn 1902 am ei bryddest ‘Trystan ac Esyllt’. Wedi hyn cyhoeddodd ''Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill'', ac yna ''Telynegion'' mewn cyd-weithrediad a W. J. Gruffydd yn 1904. Cyhoeddodd ragor o weithiau eraill o dan y ffug-enw ‘Rhosyr’. Buodd hefyd yn darlithio yn yr U.D.A ac yng Nghanada dros y mudiad yn erbyn y darfodedigaeth. Aeth ymlaen hefyd i weithio i’r Bwrdd Penodiadau ym Mhrifysgol Cymru, a phan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf – ymdrechodd i gael penodi swyddogion o Gymru yn y lluoedd arfog.


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==

Fersiwn yn ôl 20:57, 4 Ebrill 2018

Pregethwr Methodistaidd Calfinaidd, bardd, diwygiwr cymdeithasol ac athro oedd R. Silyn Roberts (1871-1930).

Ganwyd ym Mrynllidiart, ar Ben Cymffyrch, ar lechwedd Cwm Silyn. Wrth droed Pen Cymffyrch yr oedd pentref Tanrallt.

Bu ei dad, Robert John Roberts (1819-1898), yn briod deirgwaith, ond collodd ei ddwy wraig gyntaf pan oeddynt yn 29 oed. Ellen Williams, o Niwbwrch, Sir Fôn, oedd ei drydedd wraig, mam Silyn. Ganed iddi hi ddau blentyn, sef Silyn ac Ellen (Nel), mam Mathonwy Hughes, bardd y Gadair Genedlaethol 1956. [Cefnder iddi oedd R.T. Roberts a drowyd ymaith o Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 17 mlwydd oed, ar ôl streic 1846, am wrthod bradychu cydweithiwr; galwyd ef yn “Ferthyr cyntaf Chwarel y Cae.” Gorfu iddo fynd i America i chwilio am waith a gadael ei fam weddw yn unig ar ei ôl.[1]]

Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a bu’n chwarelwr am bum mlynedd. Yna aeth i Ysgol Clynnog yn fyfyriwr, yn 19 mlwydd oed. Y Parchedig W. Mathias Griffith oedd y prifathro. Bu yno am dair blynedd a dechreuodd astudio Lladin (Caesar, Sallust, Fyrsil) a Groeg (Xenophon, Homer), a phynciau eraill. Un o’i gyfeillion yno oedd Morgan W. Griffith o Dal-y-sarn, a ddaeth yn weinidog Pen Mownt, Pwllheli.

Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Bangor. Yno y mabwysiadodd yr enw canol Silyn gan fod yno fyfyriwr arall o’r enw Robert Roberts. Graddiodd yn 1899 (B.A.) ac aeth i Goleg y Bala ym Medi 1899. Cwblhaodd ei radd M.A. yn 1901 (M.A.) ar y Chwedl Arthuraidd mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Yng Ngholeg Bangor yr enillodd ddwy gadair Eistedfodau’r Myfyrwyr ac amryw o wobrau eraill am farddoni. Yn 1902 enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor, am ei bryddest Trystan ac Esyllt. Wedi hyn cyhoeddodd Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill, ac yna Telynegion mewn cydweithrediad a W. J. Gruffydd yn 1904. Roedd hyn yn gychwyn cyfnod telynegol newydd mewn barddoniaeth Gymraeg. Cyhoeddodd ragor o weithiau eraill o dan y ffugenw ‘Rhosyr’.

Derbyniodd alwad i fynd yn weinidog ar Eglwys Lewisham, Llundain,(1901-1905) ac ar Bethel, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog (1905-1913).

Bu hefyd yn darlithio yn yr U.D.A ac yng Nghanada dros y mudiad yn erbyn y darfodedigaeth. Yn 1912 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyntaf Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, a phan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf – ymdrechodd i gael penodi swyddogion o Gymry yn y lluoedd arfog. Bu’n swyddog dros Gymru dan y Llywodraeth, 1918-22.

O hynny ymlaen bu’n ddarlithydd dosbarthiadau allanol Coleg Bangor, ac yn 1925 sefydlodd adran Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr.

Ysgrifennodd lawer i’r Glorian, Y Dinesydd Cymreig, Welsh Outlook, ayb.

Awdur y canlynol: Gwyntoedd Croesion, 1924 (cyf. o ddrama J.O. Francis, Cross Currents); Bugail Geifr Lorraine, 1925 (cyf. o nofel Ffrangeg); a’r nofel Llio Plas y Nos (1945).

Priododd yn 1905 â Mary Parry, Llundin. Cawsant ddau fab a merch. Bu farw ym Mangor, 15 Awst 1930.


Llyfryddiaeth

...

  1. Ceir ei hanes yn Silyn (Robert Silyn Roberts) 1871-1930 gan David Thomas, Gwasg y Brython, 1956.