Cilmin Droed-ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua [[Tre'r Ceiri|Thre’r Ceiri]], i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno. Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd afon Llifon gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus. | Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua [[Tre'r Ceiri|Thre’r Ceiri]], i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno. Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd afon Llifon gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus. | ||
Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.<ref>Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872).</ref> | Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.<ref>Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872); Mae un fersiwn o hanes [[Cilmyn Droed-ddu]] yn honni mai yn y Seler Ddu y daeth o hyd i'r ffortiwn a oedd yn gychwyniad llewyrch [[Teulu Glynllifon]], er i'r hanes fel arfer cael ei briodoli i lethrau'r [[Yr Eifl|Eifl]]; Evan Lloyd Jones (Dinorwig), ''Llên y Werin yn Sir Gaernarfon'', ailargraffwyd yn ''Y Drych'' (21 Gorffennaf 1881), [https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3536296/3536299] </ref> | ||
===Yr enw=== | ===Yr enw=== |
Fersiwn yn ôl 10:39, 10 Ionawr 2020
Roedd Cilmin Droed-ddu yn ffigwr hanner-chwedlonol a ymsefydlodd ar lan Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog. Credir iddo fod yn sylfaenydd llinach teulu’r Glynniaid yn Glynllifon ac mae ei droed ddu yn symbol a ymddangosai ar arfbais y teulu. Fo hefyd oedd pennaeth y pedwerydd o Bymtheg Llwyth Gwynedd yn y Canol Oesoedd, yn ôl y beirdd y 15g. a ymddiddorai mewn achyddiaeth. Er bod ganddynt ffordd o weld llawer o hen lawysgrifau sydd bellach wedi diflannu, mae'n debyg, credir i'r beirdd greu'r cysyniad o'r pymtheg llwyth mewn oes pan nad oedd hanes o reidrwydd yn seiliedig ar ffeithiau na ffynonellau cadarn, ond yn hytrach ar ddiddordeb mewn uchelwriaeth o dras.
Chwedloniaeth
Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua Thre’r Ceiri, i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno. Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd afon Llifon gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus.
Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.[1]
Yr enw
Mae'r enw Cilmin Droed-ddu yn galw am esboniad - fel mae'r chwedl uchod yn tystio. Cafwyd esboniad mwy 'gwyddonol' fod bynnag gan y meddyg, y Dr Christie o Fangor, a awgrymodd y gallai'r madredd (gangrene) wedi bod yn gyfrifol am droi troed neu goes Cilmin yn ddu. Mewn oes ofergoelus a ofnai afiechydon heintus, byddai esboniad fel un y chwedl wedi bod yn fwy derbyniol os nad yn wir yn fwy parchus i gyfrif am goes ddu bonheddwr. Dichon felly mai ffug-esboniad gan y dyn ei hun oedd y chwedl![2]
Beth bynnag yw'r gwir am darddiad yr enw, mae'r droed (neu'n hytrach llun o goes) ddu ar arfbais teulu Wynniaid Glynllifon hyd heddiw.
Achau honedig
Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn 850 O.C.
Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin Gwynedd, Merfyn Frych, oedd o.[3] Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn ers 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Bu farw yn 844, ac fe'i ddilynwyd gan Rodri Fawr.[4] Os felly, Cilmin oedd cefnder y Brenin Rhodri Fawr. Honnir gan rai eto i Gilmin ymsefydlu yng Nglynllifon ar ôl symud (os nad ffoi) o ardal Cymbria, ond ymddengys hyn yn annhebygol os Merfyn oedd ei ewyrth: hwnnw felly a ddaeth, o bosibl, o Gymbria, neu Fanaw Gododdin i Wynedd.
Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn:
Lleon ap Cilmin | Llowarch | Iddig | Iddon | Dyfnaint | Gwrdyr ____|_______________________________________________________________________________________________ | | | | | | Morgeneu Ynad Philip o Fodfan (Llandwrog) Madog Ednywain (sylfaenydd y Glynniaid) Cynddelw Caswallon [5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872); Mae un fersiwn o hanes Cilmyn Droed-ddu yn honni mai yn y Seler Ddu y daeth o hyd i'r ffortiwn a oedd yn gychwyniad llewyrch Teulu Glynllifon, er i'r hanes fel arfer cael ei briodoli i lethrau'r Eifl; Evan Lloyd Jones (Dinorwig), Llên y Werin yn Sir Gaernarfon, ailargraffwyd yn Y Drych (21 Gorffennaf 1881), [1]
- ↑ Atgof personol o sgwrs y Dr Christie
- ↑ Debrett's Peerage, (Llundain, 1825), Cyf 2, t.1095
- ↑ Wicipedia, erthygl ar Merfyn Frych, [2], adalwyd, 23/07/2018.
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.391