Cilmin Droed-ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:
===Achau honedig===
===Achau honedig===


Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn 1000 O.C.  
Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn 900 O.C.  


Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin Ynys Manaw, Merfyn Frych, oedd o.<ref>''Debrett's Peerage'', (Llundain, 1825), Cyf 2, t.1095</ref> Honnir iddo ymsefydlu yng Nglynllifon ar ôl symud (os nad ffoi) o ardal Cymbria.
Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin Gwynedd, Merfyn Frych, oedd o.<ref>''Debrett's Peerage'', (Llundain, 1825), Cyf 2, t.1095</ref> Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn ers 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Bu farw yn 844, ac fe'i ddilynwyd gan Rodri Fawr.<ref>Wicipedia, erthygl ar Merfyn Frych, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Merfyn_Frych], adalwyd, 23/07/2018.</ref>Honnir i Gilmin ymsefydlu yng Nglynllifon ar ôl symud (os nad ffoi) o ardal Cymbria.


Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn:
Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn:

Fersiwn yn ôl 18:41, 23 Gorffennaf 2018

Roedd Cilmin Droed-Ddu yn ffigwr chwedlonol a ymsefydlodd ar lan Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog. Credir iddo fod yn sylfaenydd llinach teulu’r Glynniaid yn Glynllifon ac mae ei droed ddu yn symbol a ymddangosai ar arfbais y teulu.

Chwedloniaeth

Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua Thre’r Ceiri, i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno. Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd afon Llifon gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus.

Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.[1]

Yr enw

Mae'r enw Cilmin Droed-ddu wedi galw am esboniad - fel mae'r chwedl uchod yn tystio. cafwyd esboniad mwy 'gwyddonol' fod bynnag gan y meddyg, y Dr Christie o Fangor, a awgrymodd y gallai'r madredd (gangrene) wedi bod yn gyfrifol am droi troed neu goes Cilmin yn ddu. Mewn oes ofergoelus a ofnai afiechydon heintus, byddai esboniad fel un y chwedl wedi bod yn fwy derbyniol os nad yn wir yn fwy parchus i gyfrif am goes ddu bonheddwr. Dichon felly mai ffug-esboniad gan y dyn ei hun oedd y chwedl![2]

Achau honedig

Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn 900 O.C.

Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin Gwynedd, Merfyn Frych, oedd o.[3] Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn ers 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Bu farw yn 844, ac fe'i ddilynwyd gan Rodri Fawr.[4]Honnir i Gilmin ymsefydlu yng Nglynllifon ar ôl symud (os nad ffoi) o ardal Cymbria.

Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn:

 Lleon ap Cilmin
       |
    Llowarch
        |
      Iddig
        |
      Iddon
        |
     Dyfnaint
        |
      Gwrdyr
     ____|_______________________________________________________________________________________________
     |                   |                        |       |                                  |          |
    Morgeneu Ynad    Philip o Fodfan (Llandwrog) Madog  Ednywain (sylfaenydd y Glynniaid) Cynddelw   Caswallon    
 
[5] 

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).
  2. Atgof personol o sgwrs y Dr Christie
  3. Debrett's Peerage, (Llundain, 1825), Cyf 2, t.1095
  4. Wicipedia, erthygl ar Merfyn Frych, [1], adalwyd, 23/07/2018.
  5. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.391