Ysgol Eben Fardd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Ysgol Eben Fardd''' oedd yr enw a roddwyd yn gyffredinol ar yr ysgol a gedwid gan [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]] am nifer o flynyddoedd yng nghanol y 19g ym mhentref [[Clynnog Fawr]]. Am gyfnod fe gynhaliwyd yr ysgol yn y capel bach ar ochr [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]], sef [[Capel Beuno]], cyn symud i adeilad gwell.
'''Ysgol Eben Fardd''' oedd yr enw a roddwyd yn gyffredinol ar yr ysgol a gedwid gan [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]] yng Nghapel Beuno, Eglwys Beuno Sant, Clynnog. Yn 1843 bu anghydwelediad rhyngddo ef a'r Person a symudodd o'r Eglwys i gadw'r ysgol yn y bwthyn oedd yn eiddo iddo yng nghefn ei gartref - o'r enw ''Cefn''.  Yno y bu trwy 1844. Dyna'r flwyddyn y codwyd Capel y Methodistiaid yn y pentref a chafwyd yr oedfa gyntaf yno ar 18 Medi 1844.  Cafodd Eben Fardd ganiat^ad i gadw ei ysgol yn y Capel hwn. Yr oedd yn flaenllaw ymysg y rhai a fu'n gyfrifol am godi'r capel ac fe'i henwyd yn Ebeneser o barch iddo.


Yn y man, agorwyd [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr]] gan y Methodistiaid Calfinaidd i baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol, ysgol a gaewyd ym 1931. Rhoddwyd enw ''Ysgol Eben Fardd'' gan y werin ar y sefydliad hwnnw.
Ar 2 Hydref 1850 agorwyd yr Ysgol Genedlaethol yng Nghlynnog. Nododd Eben Fardd hyn yn ei ddyddiadur a phoenai y byddai hynny yn amharu ar ei fywoliaeth. Cafodd gynnig bod yn brifathro yno ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys ond gwrthododd.
 
Ar 7 Hydref 1850 gofynnodd y Cyfarfod Misol iddo barhau i gadw ei ysgol. Codwyd ei gyflog o £15 i £20 y flwyddyn. Roedd i ddysgu plant y Methodistiaid am ddim, hefyd i ddysgu ymgeiswyr am y weinidogaeth. Pan agorodd Eben Fardd yr ysgol hon yng Nghapel Ebeneser dan y telerau newydd roedd yno dros 100 o ddisgyblion.
 
Codwyd Ty'r Capel yn 1861.
 
Yn 1863 agorwyd [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr]] gan y Methodistiaid Calfinaidd i baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol, ysgol a gaewyd ym 1929 pan gafodd ei symud i'r Rhyl a'i henwi yn Goleg Clwyd. Er bod Eben Fardd wedi marw ychydig fisoedd cyn agor yr ysgol, ''Ysgol Eben Fardd'' oedd yr enw cyffredinol arni.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 22:25, 18 Gorffennaf 2018

Ysgol Eben Fardd oedd yr enw a roddwyd yn gyffredinol ar yr ysgol a gedwid gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) yng Nghapel Beuno, Eglwys Beuno Sant, Clynnog. Yn 1843 bu anghydwelediad rhyngddo ef a'r Person a symudodd o'r Eglwys i gadw'r ysgol yn y bwthyn oedd yn eiddo iddo yng nghefn ei gartref - o'r enw Cefn. Yno y bu trwy 1844. Dyna'r flwyddyn y codwyd Capel y Methodistiaid yn y pentref a chafwyd yr oedfa gyntaf yno ar 18 Medi 1844. Cafodd Eben Fardd ganiat^ad i gadw ei ysgol yn y Capel hwn. Yr oedd yn flaenllaw ymysg y rhai a fu'n gyfrifol am godi'r capel ac fe'i henwyd yn Ebeneser o barch iddo.

Ar 2 Hydref 1850 agorwyd yr Ysgol Genedlaethol yng Nghlynnog. Nododd Eben Fardd hyn yn ei ddyddiadur a phoenai y byddai hynny yn amharu ar ei fywoliaeth. Cafodd gynnig bod yn brifathro yno ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys ond gwrthododd.

Ar 7 Hydref 1850 gofynnodd y Cyfarfod Misol iddo barhau i gadw ei ysgol. Codwyd ei gyflog o £15 i £20 y flwyddyn. Roedd i ddysgu plant y Methodistiaid am ddim, hefyd i ddysgu ymgeiswyr am y weinidogaeth. Pan agorodd Eben Fardd yr ysgol hon yng Nghapel Ebeneser dan y telerau newydd roedd yno dros 100 o ddisgyblion.

Codwyd Ty'r Capel yn 1861.

Yn 1863 agorwyd Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr gan y Methodistiaid Calfinaidd i baratoi dynion di-gymhwyster ar gyfer mynediad i goleg diwinyddol, ysgol a gaewyd ym 1929 pan gafodd ei symud i'r Rhyl a'i henwi yn Goleg Clwyd. Er bod Eben Fardd wedi marw ychydig fisoedd cyn agor yr ysgol, Ysgol Eben Fardd oedd yr enw cyffredinol arni.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma