Bwlchderwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
''Rhwngyddwyffordd''; | ''Rhwngyddwyffordd''; | ||
''Muryforwyn''; | ''Muryforwyn''; | ||
''Gyfelog Ucha'' (ger [[Capel Bwlchderwin]]); | ''Gyfelog Ucha'' (ger [[Capel Bwlchderwin (MC)]]); | ||
''Baron Hill''; | ''Baron Hill''; | ||
''Ty'n-Gors''; | ''Ty'n-Gors''; |
Fersiwn yn ôl 13:22, 23 Awst 2018
Ardal wasgaredig yw Bwlchderwin ar ffordd Clynnog Fawr wedi dringo'r allt o Bant-glas. Nid oes yma'r fath beth â chlwstwr o dai ond bu yma gapel yn un pen, ysgol Eglwysig sef Ysgol Ynys-yr-Arch yn y pen arall a siop mewn gwahanol dai ar wahanol adegau.
Rhai murddunod yn yr ardal ym 1870
Felog Bach, Yr Ochr, Tanychwarel, Y Foel, Cae'r Bwlch, Foel Fechan, Murforwyn Bach (dau dŷ), Pen Isa'r Mynydd, Cefn White, Maes Du, Stabl Goch, Cae Hir (tri thŷ), Cae Mwynan, Cae Crin, Cors-y-wlad (dau dŷ).[1]
Tai/Tyddynnod/Ffermydd yr ardal o tua 1870-1981
Braich-y-foel; Tanychwarel; Terfynau; Derwyn Uchaf (Deuai Griffith Powell â'i gi gydag ef i'r Capel bob amser.); Tan'rallt; Plas Du; Ty'n-y-coed; Rhwngyddwyffordd; Muryforwyn; Gyfelog Ucha (ger Capel Bwlchderwin (MC)); Baron Hill; Ty'n-Gors; Ty Newydd; Garreg Wen; Pen Isa'r Mynydd; Ynys-yr-Arch; Llwyngwanadl Ucha; Llwyngwanadl Isa; Ty Glas; Y Gors;Cors-y-wlad.
Yr enw
Ar rai mapiau Ordnans ac mewn ambell i le arall, ceir yr enw "Bwlch Derwydd" ond mae hyn yn anghywir.
i'w barhau
Cyfeiriadau
- ↑ Enwir y rhain (o gofnodion ei dad) yn llyfr O. Roger Owen,O Ben Moel Derwin, Cyhoeddiadau Mei, 1981.