Pant Du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:
   
Credir iddo gael ei adeiladu tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg ar gyfer William Humphrey, a fu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1611-12, a'i wraig Catrin Morgan.<ref>Griffith, John Edwards, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 157; Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle''. (Penygroes, 1872)</ref> Gwelir eu harfbais gyda llythrennau cyntaf eu henwau o bobtu (W.H a K.M.) uwchben hen le tân yn y tŷ.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/16646/details/pant-du Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol]</ref>

Roedd [[[Teulu Pant Du]] yn berchen ar [[Ystad Pant Du|ystad sylweddol]] yn y cylch, oedd yn ymestyn dros 1800 o erwau.<ref>LLGC, llsgr. 11507E</ref>

Erbyn hyn ceir gwinllanoedd a pherllanoedd ar dir fferm Pant Du, ond datblygiad newydd yn yr 21g yw hyn.  
Erbyn hyn ceir gwinllanoedd a pherllanoedd ar dir fferm Pant Du, ond datblygiad newydd yn yr 21g yw hyn.  

Fersiwn yn ôl 14:54, 23 Ionawr 2019

Mae Pant Du yn blasty bychan ym mhlwyf hanesyddol Llanllyfni, ar lethrau Dyffryn Nantlle yn wynebu'r de. Mae'r adeilad presennol yn dyddio'n ôl i'r 17g cynnar yn ei ffurf bresennol, er iddo olynu tŷ cynharach, a oedd yn gartref i Humphrey ap Richard, ficer Llanbeulan , Ynys Môn, o 1548 hyd 1587, sydd â'i gladdgell yn eglwys y plwyf.[1] Mae patrwm y tŷ yn adlewyrchu tai'r cyfnod gyda neuadd neu gegin fawr ar y llawr isaf, a staer ar gylchdro wedi'u gwneud o garreg wrth ochr aelwyd eang. Mae'r hen dŷ yn wag ac mewn cyflwr a fyddai'n peri pryder pe na fyddai'r eiddo bellach yn nwylo teulu lleol sydd yn datblygu'r safle'n winllan a pherllan llywyddiannus.

Credir iddo gael ei adeiladu tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg ar gyfer William Humphrey, a fu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1611-12, a'i wraig Catrin Morgan.[2] Gwelir eu harfbais gyda llythrennau cyntaf eu henwau o bobtu (W.H a K.M.) uwchben hen le tân yn y tŷ.[3]

Roedd [[[Teulu Pant Du]] yn berchen ar ystad sylweddol yn y cylch, oedd yn ymestyn dros 1800 o erwau.[4]

Erbyn hyn ceir gwinllanoedd a pherllanoedd ar dir fferm Pant Du, ond datblygiad newydd yn yr 21g yw hyn.

Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, (Llundain, 1960), t.207
  2. Griffith, John Edwards, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 157; Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle. (Penygroes, 1872)
  3. Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol
  4. LLGC, llsgr. 11507E