Côr Meibion Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Gan fod gwaith yn brin ac oriau hamdden yn hir, penderfynodd criw o ddynion ieuanc mai da o beth oedd dod at eu gilydd i ganu - er fod canu yn anodd a'r dyfodol mor ansicr. | Gan fod gwaith yn brin ac oriau hamdden yn hir, penderfynodd criw o ddynion ieuanc mai da o beth oedd dod at eu gilydd i ganu - er fod canu yn anodd a'r dyfodol mor ansicr. | ||
Gwahoddwyd [[C. H. Leonard]], brodor o Rydaman a ddaeth yn athro Ffiseg i [[Ysgol Ramadeg | Gwahoddwyd [[C. H. Leonard]], brodor o Rydaman a ddaeth yn athro Ffiseg i [[Ysgol Ramadeg Pen-y-groes]] ym 1922, i arwain y côr. Trwy ei ymroddiad a'i drylwyredd ef yn anad neb, y tyfodd y côr yn gymdeithas glos, ac yn rhan anatod o fywyd Dyffryn Nantlle. Fe elwid y côr weithiau yn "Gôr Leonard", ar ôl yr arweinydd cynnar. | ||
Wedi ychydig o gystadlu llwyddiannus ym mhrif wyliau'r genedl yn y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd yr arweinydd ar adeiladu "repertoire" gyfoethog i'r côr oedd yn cynnwys 22 o leisiau. Bu i'r aelodau feistroli caneuon Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Lladin, Eidaleg yn ogystal â rhai Saesneg a Chymraeg, o dan ei arweiniad. | Wedi ychydig o gystadlu llwyddiannus ym mhrif wyliau'r genedl yn y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd yr arweinydd ar adeiladu "repertoire" gyfoethog i'r côr oedd yn cynnwys 22 o leisiau. Bu i'r aelodau feistroli caneuon Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Lladin, Eidaleg yn ogystal â rhai Saesneg a Chymraeg, o dan ei arweiniad. |
Fersiwn yn ôl 14:14, 17 Chwefror 2019
Sefydlwyd Côr Meibion Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes, ym 1932, a blynyddoedd celyd y dirwasgiad ym mro'r chwareli a fu'n grud i'r côr.
Gan fod gwaith yn brin ac oriau hamdden yn hir, penderfynodd criw o ddynion ieuanc mai da o beth oedd dod at eu gilydd i ganu - er fod canu yn anodd a'r dyfodol mor ansicr.
Gwahoddwyd C. H. Leonard, brodor o Rydaman a ddaeth yn athro Ffiseg i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes ym 1922, i arwain y côr. Trwy ei ymroddiad a'i drylwyredd ef yn anad neb, y tyfodd y côr yn gymdeithas glos, ac yn rhan anatod o fywyd Dyffryn Nantlle. Fe elwid y côr weithiau yn "Gôr Leonard", ar ôl yr arweinydd cynnar.
Wedi ychydig o gystadlu llwyddiannus ym mhrif wyliau'r genedl yn y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd yr arweinydd ar adeiladu "repertoire" gyfoethog i'r côr oedd yn cynnwys 22 o leisiau. Bu i'r aelodau feistroli caneuon Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Lladin, Eidaleg yn ogystal â rhai Saesneg a Chymraeg, o dan ei arweiniad.
Ym 1934 gwahoddwyd y côr i ddarlledu, ac erbyn 1969 gwnaed i 300 o ddarllediadau, yn ogystal â thelediadau a chyngerddau ym mhrif drefi a phentrefi Cymru a Lloegr. [1]
Ceir cofnod yn y Radio Times am gyngerdd a ddarlledwyd ar 8 Mawrth 1937, fel a ganlyn:
Arweinydd, C. H. Leonard gyda W. H. J. Jenkins (ffidil) o Sinema'r Plaza, Penygroes.[2]
Sinema'r Plaza oedd unig sinema'r cwmwd; fe'i lleolid y tu ôl i dafarn y Victoria yng nghanol Pen-y-groes.
Ar ôl dyddiau C.H. Leonard, arweinid y côr gan Arthur Wyn Parry, ac wedyn gan Eurgain Eames, sydd yn dal wrth yr awennau.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ http://www.nantlle.com/cor-meibion-dyffryn-nantlle-cymraeg-hanes.htm Ysgrif gan Hywel Parry
- ↑ http://genome.ch.bbc.co.uk/39ecef9bc3d543cd8a6ae5a78e9113c4
- ↑ Gwybodaeth bersonol