Melinau Afon Llyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:
* [[Ffatri wlân Bryn]].
* [[Ffatri wlân Bryn]].
* [[Melin-gerrig]], Llanllyfni
* [[Melin-gerrig]], Llanllyfni
* Melin Llanllyfni.
* [[Melin Llanllyfni]].
* [[Pandy Felin-gerrig]]
* [[Pandy Felin-gerrig]]
* [[Melin Glan-yr-afon]]
* [[Melin Glan-yr-afon]]

Fersiwn yn ôl 20:47, 9 Ebrill 2018

Roedd melinau Afon Llyfnwy yn bodoli'n bennaf ar gyfer trin llechfaen yr ardal. Nid oes melin yn cael ei chofnodi ym mhen uchaf Dyffryn Nantlle ond gan fod cymaint o gloddio a gorchuddio'r tir wedi digwydd yn sgîl y diwydiant llechi, dichon fod un neu fwy wedi bodoli yno ar un adeg.

Enw'r afon sydd yn rhedeg i lawr Dyffryn Nantlle o Ddrws-y-coed belled â Llyn Nantlle yw Afon Drws-y-coed, ond mewn gwirionedd blaenddŵr Afon Llyfnwy yw hi. Gellid felly cyfrif Melin Stampio Drws-y-coed fel un o felinau Afon Llyfnwy.

Y melinau neu weithfeydd eraill a ddibynnai ar ddŵr yr afon i droi eu peiriannau yn cynnwys (o ben ucha'r afon i gyfeiriad y môr) ac sydd yn ymddangos ar fapiau Ordnans oedd:


Gweler tudalenni ar wahân am fanylion pob melin, trwy glicio ar yr enw yn y rhestr uchod. Rhestrir holl felinau oedd ar ddwy lan yr afon, er bod glan ddwyreiniol yng nghwmwd Isgwyrfai.