Fferi Abermenai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Abermenai''' yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]]. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon | '''Abermenai''' yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]]. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon, ac yn y gorffennol, bu'n man croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Ben Llŷn. Pan oedd teithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae traeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o [[Aberdesach]] i ben draw penrhyn [[Belan]] ar lan Abermenai. | ||
Ceir | Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer ond nad miloedd o flynyddoedd. | ||
Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.<ref>Wicipedia, ''Abermenai'' [https://cy.wikipedia.org/wiki/Abermenai], adalwyd 09.04.2018</ref> Pan fu farw Gruffudd, fe adawyd elw 'porthladd a fferi Abermenai' i'w weddw Angharad.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', (Llundain, 1939), t.469.</ref> Ar ôl i goron Lloegr feddiannu gogledd Cymru, mae Abermenai'n ymddangos yng ngyfrifon y brenin, a hynny o 1296 ymlaen, pan oedd y rhent yn £4 y flwyddyn, swm sylweddol iawn yr adeg honno. Mae'n glir hefyd fod swyddogion y goron hefyd yn talu am gosatu megis atgyweirio'r cwch fferi.<ref>H.R. Davies, ''The Conway and the Menai Ferries'' (Caerdydd, 1966),t.78</ref> | |||
Yn y 15g, talai bwrdeisdref Niwbwrch rent i frenin Lloegr am nifer o hawliau, gan gynnwys rheoli fferi Abermenai, sy'n tueddu ag awgrymu fod y fferi hon yn bwysicach i Fôn nag i Uwchgwyrfai - er wrth gwrs, roedd Niwbwrch yn greadigaeth corob Lloegr, fel y fwrdeisdref a sefydlwyd gan Iorwerth I pan symudwyd trigolion Cymraeg Llanfaes o'u cartrefi i wneud lle i'w fwrdeistref a chastell newydd ym Miwmares. Yn Saesneg, yr adeg hon, gelwid Abermenai yn 'Southcrook'.<ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', t.30</ref> Erbyn 1437, fodd bynnag, rhentodd brenin Lloegr y fferi i Thomas Aldenham (dyn oedd yn aelod o'r llys brenhinol yn Llundain), ac erbyn 1442 roedd dyn o'r enw Thomas Spicer yn cyd-denant gydag Aldenham. Mae hyn yn ddiddorol gan fod teulu Spicer yn un o hen deuluoedd masnachol Caernarfon, sy'n awgrymu fod rheolaeth y fferi'n rhannol yn nwylo lleol. Roedd y cyfrifon sy'n tystio i hyn hyd heddiw, fodd bynnag, yn gyfrifoldeb rhingyll (sef swyddog brenin Lloegr oedd yn hel trethi a rhentu drosto a weithredodd dros cwmwd Dindaethwy yn Ynys Môn. Yn weinyddol felly cyfrifid Abermenai yn rhan o adnoddau Môn yn hytrach nag Uwchgwyrfai, ac yr oedd tŷ ar gyfer cychwr y fferi.<ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', t.46, 57.</ref> Roedd tŷ fferi yn Abermenai (mae'n debyg ar ochr Môn) cyn 1493, a hynny'n adeilad o gerrig, gan fod arian wedi ei wario ar ei atgyweirio'r flwyddyn honno.<ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', t.81</ref> | |||
Mae'r llif trwy gulfor Abermenai'n gallu bod yn beryglus o gyflym a thwyllodrus er bod cyfnod rhwng lannw a llanw pan mae'n fwy diogel i hwylio dros yr aber. Bu llongau masnachol oedd yn hwylio i ac o borthladd Caernarfon yn mynd trwy'r culfor dros y canrifoedd, a pharhaodd yr arfer gyda llongau a gariai olew i ddepo ar gei Doc Fictoria tan ddiwedd y 1980au, ac fe gadwyd y sianel yn glir gan y 'cwch mwd', y stemar ''Seiont II'', nes i hwnnw dorri i lawr. Dechreuodd dywod hel yn yr aber, a dywedir i'r llong olew olaf i geisio hwylio'r ffordd yna grafu gwaelod y môr. Wedi hynny am ychydig, daeth y llongau olew i Gaernarfon ar hyd | Mae nifer o brydleswyr, rhai'n Gymry a rhai'n aelodau o'r llys brenhinol yn Llundain, oedd yn rhentu'r fferi dros y ddau gan mlynedd nesaf - er nad oeddynt hwy'n bersonol yn gweithio fel y cychwyr. Mewn ewyllys o 1593 <ref>Ewyllys Huw Lloid, Bodwyn uchaf, Trewalchmai, PCC 12 Stott)</ref>, nodir enwau'r cychwyr am y tro cyntaf, efallai - sef Richard ap Thomas, Lewis ap Evan Lloid a Evan ap Llywelyn - gan nad oeddynt wedi cadw ty'r fferi mewn cyflwr da, a byddai'n costio £20.13.4c i'w atgyweirio. | ||
Mae [[Mapiau Uwchgwyrfai|mapiau o Uwchgwyrfai]] yn tueddu dangos ffordd neu drac i Abermenai yn ystod y 18-19g (er enghriafft map John Ogilby, 1720)<ref>copi yn Archifdy Caernarfon</ref>. Erbyn y 18g hefyd, cawn fwy o fanyliono'r fferi. Roedd tŷ fferio ryw fath o bobtu'r culfor, ac yn ogystal â chychod yn croesi'n syth, croesai cychod o ochr Môn i harbwr Caernarfoin ar ddydd Sadwrn, sef diwrnod marchnad Caernarfon. Yn 1711, roedd dau gwch ar gael ar gyfer y gwasanaeth, ond yr oedd angen am un newydd, a fyddai'n costio o leiaf £50. <ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', tt.194-5.</ref> Roedd croesi'n gallu bod yn beryglus, oherwydd dyluniad y cychod yn gymaint ag yr oedd y tywydd yn gallu creu problemau. Yn ôl William Bingley, cafwyd trychineb ym 1664 pan suddodd cwch Abermenai: | |||
"Roedd y cwch wedi cyrraedd Abermenai ac roedd y teithwyr ar fin mynd i'r lan pan digwyddodd camddealltwriaeth parthed ceiniog yn ychwanegol nad oedd y teithwyr yn fodlon ei dalu. Yn ystod y cecru. llifodd y cwch i fan lle roedd y dŵr yn ddwfn, lle trôdd drosodd, ac er ei fod y pryd hynny ond ychydig lathenni o'r lan, fe farwodd saith deg naw o'r teithwyr, a dim ond un yn dianc. Credai'r werin mai gweithrediad ar ran y nefoedd oedd hyn gan fods y cwch wedi ei adeiladu gyda choed a ddygwyd o Abaty Llanddwyn."<ref>W. Bingley, ''North Wales'', Cyf. I, t.280.</ref> | |||
Croesai ar fferi Abermenai wnaeth Daniel Defoe pan ymwelodd â Chaernarfon ar ei ffordd i Fôn tua 1724 "o ran ymyrraeth'' er mwyn gweld Iwerddon o gyfeiriad arall - er nad oedd o wedi llwyddo oherwydd y tywydd yng Nghaergybi!<ref>Daniel Defoe, ''A tour through the whole island of Great Britain'', llythyr 6, (golygyddiad gwe, Priysgol Adelaide), [https://ebooks.adelaide.edu.au/d/defoe/daniel/britain/index.html], adalwyd 09.04.2018</ref> | |||
Digwyddodd drychineb arall i gwch Abermenai 5 Rhagfyr 1785, ac eto, dim ond un a oroesodd y suddo, ac eto ar un o'r croesiadau i dref Caernarfon ar gyfer y farchnad. Aeth y cwch yn sownd ar dywod yng nghanol y Fenai ar adeg llanw isel, ond ar ôl treulio noson ddychrynllyd o anghysurus, fe foddodd pawb ond un, Hugh Williams, Tŷ'n Llwydan, Aberffraw, pan ddaeth y llanw i mewn.<ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', tt. 308-9 (ar ol Bingley, tt.281-6)</ref> | |||
Daeth fferi ager i wasanaethu'r groesfan yn syth o Gaernarfon i Fôn yn gynnar yn y 19g, (heb anghofio am agor Pont Menai yn 1826) ac erbyn 1828, nid oedd modd casglu unrhyw rent am fferi Abermenai.<ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', t.309.</ref> | |||
Mae'r llif trwy gulfor Abermenai'n gallu bod yn beryglus o gyflym a thwyllodrus er bod cyfnod rhwng lannw a llanw pan mae'n fwy diogel i hwylio dros yr aber. Bu llongau masnachol oedd yn hwylio i ac o borthladd Caernarfon yn mynd trwy'r culfor dros y canrifoedd, a pharhaodd yr arfer gyda llongau a gariai olew i ddepo ar gei Doc Fictoria tan ddiwedd y 1980au, ac fe gadwyd y sianel yn glir gan y 'cwch mwd', y stemar ''Seiont II'', nes i hwnnw dorri i lawr. Dechreuodd dywod hel yn yr aber, a dywedir i'r llong olew olaf i geisio hwylio'r ffordd yna grafu gwaelod y môr. Wedi hynny am ychydig, daeth y llongau olew i Gaernarfon ar hyd y Fenai o gyfeiriad Biwmares, nes i'r depo gau. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 09:55, 9 Ebrill 2018
Abermenai yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i Fae Caernarfon. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon, ac yn y gorffennol, bu'n man croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Ben Llŷn. Pan oedd teithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae traeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o Aberdesach i ben draw penrhyn Belan ar lan Abermenai.
Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer ond nad miloedd o flynyddoedd.
Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.[1] Pan fu farw Gruffudd, fe adawyd elw 'porthladd a fferi Abermenai' i'w weddw Angharad.[2] Ar ôl i goron Lloegr feddiannu gogledd Cymru, mae Abermenai'n ymddangos yng ngyfrifon y brenin, a hynny o 1296 ymlaen, pan oedd y rhent yn £4 y flwyddyn, swm sylweddol iawn yr adeg honno. Mae'n glir hefyd fod swyddogion y goron hefyd yn talu am gosatu megis atgyweirio'r cwch fferi.[3]
Yn y 15g, talai bwrdeisdref Niwbwrch rent i frenin Lloegr am nifer o hawliau, gan gynnwys rheoli fferi Abermenai, sy'n tueddu ag awgrymu fod y fferi hon yn bwysicach i Fôn nag i Uwchgwyrfai - er wrth gwrs, roedd Niwbwrch yn greadigaeth corob Lloegr, fel y fwrdeisdref a sefydlwyd gan Iorwerth I pan symudwyd trigolion Cymraeg Llanfaes o'u cartrefi i wneud lle i'w fwrdeistref a chastell newydd ym Miwmares. Yn Saesneg, yr adeg hon, gelwid Abermenai yn 'Southcrook'.[4] Erbyn 1437, fodd bynnag, rhentodd brenin Lloegr y fferi i Thomas Aldenham (dyn oedd yn aelod o'r llys brenhinol yn Llundain), ac erbyn 1442 roedd dyn o'r enw Thomas Spicer yn cyd-denant gydag Aldenham. Mae hyn yn ddiddorol gan fod teulu Spicer yn un o hen deuluoedd masnachol Caernarfon, sy'n awgrymu fod rheolaeth y fferi'n rhannol yn nwylo lleol. Roedd y cyfrifon sy'n tystio i hyn hyd heddiw, fodd bynnag, yn gyfrifoldeb rhingyll (sef swyddog brenin Lloegr oedd yn hel trethi a rhentu drosto a weithredodd dros cwmwd Dindaethwy yn Ynys Môn. Yn weinyddol felly cyfrifid Abermenai yn rhan o adnoddau Môn yn hytrach nag Uwchgwyrfai, ac yr oedd tŷ ar gyfer cychwr y fferi.[5] Roedd tŷ fferi yn Abermenai (mae'n debyg ar ochr Môn) cyn 1493, a hynny'n adeilad o gerrig, gan fod arian wedi ei wario ar ei atgyweirio'r flwyddyn honno.[6]
Mae nifer o brydleswyr, rhai'n Gymry a rhai'n aelodau o'r llys brenhinol yn Llundain, oedd yn rhentu'r fferi dros y ddau gan mlynedd nesaf - er nad oeddynt hwy'n bersonol yn gweithio fel y cychwyr. Mewn ewyllys o 1593 [7], nodir enwau'r cychwyr am y tro cyntaf, efallai - sef Richard ap Thomas, Lewis ap Evan Lloid a Evan ap Llywelyn - gan nad oeddynt wedi cadw ty'r fferi mewn cyflwr da, a byddai'n costio £20.13.4c i'w atgyweirio.
Mae mapiau o Uwchgwyrfai yn tueddu dangos ffordd neu drac i Abermenai yn ystod y 18-19g (er enghriafft map John Ogilby, 1720)[8]. Erbyn y 18g hefyd, cawn fwy o fanyliono'r fferi. Roedd tŷ fferio ryw fath o bobtu'r culfor, ac yn ogystal â chychod yn croesi'n syth, croesai cychod o ochr Môn i harbwr Caernarfoin ar ddydd Sadwrn, sef diwrnod marchnad Caernarfon. Yn 1711, roedd dau gwch ar gael ar gyfer y gwasanaeth, ond yr oedd angen am un newydd, a fyddai'n costio o leiaf £50. [9] Roedd croesi'n gallu bod yn beryglus, oherwydd dyluniad y cychod yn gymaint ag yr oedd y tywydd yn gallu creu problemau. Yn ôl William Bingley, cafwyd trychineb ym 1664 pan suddodd cwch Abermenai:
"Roedd y cwch wedi cyrraedd Abermenai ac roedd y teithwyr ar fin mynd i'r lan pan digwyddodd camddealltwriaeth parthed ceiniog yn ychwanegol nad oedd y teithwyr yn fodlon ei dalu. Yn ystod y cecru. llifodd y cwch i fan lle roedd y dŵr yn ddwfn, lle trôdd drosodd, ac er ei fod y pryd hynny ond ychydig lathenni o'r lan, fe farwodd saith deg naw o'r teithwyr, a dim ond un yn dianc. Credai'r werin mai gweithrediad ar ran y nefoedd oedd hyn gan fods y cwch wedi ei adeiladu gyda choed a ddygwyd o Abaty Llanddwyn."[10]
Croesai ar fferi Abermenai wnaeth Daniel Defoe pan ymwelodd â Chaernarfon ar ei ffordd i Fôn tua 1724 "o ran ymyrraeth er mwyn gweld Iwerddon o gyfeiriad arall - er nad oedd o wedi llwyddo oherwydd y tywydd yng Nghaergybi![11]
Digwyddodd drychineb arall i gwch Abermenai 5 Rhagfyr 1785, ac eto, dim ond un a oroesodd y suddo, ac eto ar un o'r croesiadau i dref Caernarfon ar gyfer y farchnad. Aeth y cwch yn sownd ar dywod yng nghanol y Fenai ar adeg llanw isel, ond ar ôl treulio noson ddychrynllyd o anghysurus, fe foddodd pawb ond un, Hugh Williams, Tŷ'n Llwydan, Aberffraw, pan ddaeth y llanw i mewn.[12]
Daeth fferi ager i wasanaethu'r groesfan yn syth o Gaernarfon i Fôn yn gynnar yn y 19g, (heb anghofio am agor Pont Menai yn 1826) ac erbyn 1828, nid oedd modd casglu unrhyw rent am fferi Abermenai.[13]
Mae'r llif trwy gulfor Abermenai'n gallu bod yn beryglus o gyflym a thwyllodrus er bod cyfnod rhwng lannw a llanw pan mae'n fwy diogel i hwylio dros yr aber. Bu llongau masnachol oedd yn hwylio i ac o borthladd Caernarfon yn mynd trwy'r culfor dros y canrifoedd, a pharhaodd yr arfer gyda llongau a gariai olew i ddepo ar gei Doc Fictoria tan ddiwedd y 1980au, ac fe gadwyd y sianel yn glir gan y 'cwch mwd', y stemar Seiont II, nes i hwnnw dorri i lawr. Dechreuodd dywod hel yn yr aber, a dywedir i'r llong olew olaf i geisio hwylio'r ffordd yna grafu gwaelod y môr. Wedi hynny am ychydig, daeth y llongau olew i Gaernarfon ar hyd y Fenai o gyfeiriad Biwmares, nes i'r depo gau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Wicipedia, Abermenai [1], adalwyd 09.04.2018
- ↑ J.E. Lloyd, A History of Wales, (Llundain, 1939), t.469.
- ↑ H.R. Davies, The Conway and the Menai Ferries (Caerdydd, 1966),t.78
- ↑ H.R. Davies, op. cit., t.30
- ↑ H.R. Davies, op. cit., t.46, 57.
- ↑ H.R. Davies, op. cit., t.81
- ↑ Ewyllys Huw Lloid, Bodwyn uchaf, Trewalchmai, PCC 12 Stott)
- ↑ copi yn Archifdy Caernarfon
- ↑ H.R. Davies, op. cit., tt.194-5.
- ↑ W. Bingley, North Wales, Cyf. I, t.280.
- ↑ Daniel Defoe, A tour through the whole island of Great Britain, llythyr 6, (golygyddiad gwe, Priysgol Adelaide), [2], adalwyd 09.04.2018
- ↑ H.R. Davies, op. cit., tt. 308-9 (ar ol Bingley, tt.281-6)
- ↑ H.R. Davies, op. cit., t.309.