Fferi Abermenai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Abermenai''' yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]]. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon heblaw amy man lle codwyd Pont Menai, ac yn y gorffennol, bu'n man croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Ben Llŷn. Pan oedd teiithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae yna draeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o [[Aberdesach]] i ben draw penrhyn [[Belan]] ar lan Abermenai. Noda [[Gerallt Gymro]] iddo fo, yr Archesgob Baldwin a'u mintai, groesi'r Fenai yn fan hyn ar eu taith ym 1188 i godi byddin i ymladd yn y Trydedd Groesgad.<ref>Wicipedia: ''Gerallt Gymro'' https://cy.wikipedia.org/wiki/Gerallt_Gymro, adalwyd 09.04.2018 </ref>
'''Abermenai''' yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]]. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon heblaw amy man lle codwyd Pont Menai, ac yn y gorffennol, bu'n man croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Ben Llŷn.  


Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.<ref>Wicipedia, ''Abermenai'' https://cy.wikipedia.org/wiki/Abermenai, adalwyd 09.04.2018</ref>
Yny 15g, talai bwrdeisdref Niwbwrch rent i frenin Lloegr am nifer o hawliau, gan gynnwys rheoli fferi Abermenai, sy'n tueddu ag awgrymu fod y fferi hon yn bwysicach i Fôn nag i Uwchgwyrfai - er wrth gwrs, roedd Niwbwrch yn greadigaeth corob Lloegr, fel y fwrdeisdref a sefydlwyd gan Iorwerth I pan symudwyd trigolion Cymraeg Llanfaes o'u cartrefi i wneud lle i'w fwrdeistref a chastell newydd ym Miwmares.
Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd cainc y Mabinogi hefyd, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer ond nad miloedd o flynyddoedd.
Mae'r llif trwy gulfor Abermenai'n gallu bod yn beryglus o gyflym a thwyllodrus er bod cyfnod rhwng lannw a llanw pan mae'n fwy diogel i hwylio dros yr aber. Bu llongau masnachol oedd yn hwylio i ac o borthladd Caernarfon  yn mynd trwy'r culfor dros y canrifoedd, a pharhaodd yr arfer gyda llongau a gariai olew i ddepo ar gei Doc Fictoria tan ddiwedd y 1980au, ac fe gadwyd y sianel yn glir gan y 'cwch mwd', y stemar ''Seiont II'', nes i hwnnw dorri i lawr. Dechreuodd dywod hel yn yr aber, a dywedir i'r llong olew olaf i geisio hwylio'r ffordd yna grafu gwaelod y môr. Wedi hynny am ychydig, daeth y llongau olew i Gaernarfon ar hyd yFenai ogyfeiriad Biwmares, nes i'r depo gau.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 09:25, 9 Ebrill 2018

Abermenai yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i Fae Caernarfon. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon heblaw amy man lle codwyd Pont Menai, ac yn y gorffennol, bu'n man croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Ben Llŷn.

Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.[1]

Yny 15g, talai bwrdeisdref Niwbwrch rent i frenin Lloegr am nifer o hawliau, gan gynnwys rheoli fferi Abermenai, sy'n tueddu ag awgrymu fod y fferi hon yn bwysicach i Fôn nag i Uwchgwyrfai - er wrth gwrs, roedd Niwbwrch yn greadigaeth corob Lloegr, fel y fwrdeisdref a sefydlwyd gan Iorwerth I pan symudwyd trigolion Cymraeg Llanfaes o'u cartrefi i wneud lle i'w fwrdeistref a chastell newydd ym Miwmares.

Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd cainc y Mabinogi hefyd, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer ond nad miloedd o flynyddoedd.

Mae'r llif trwy gulfor Abermenai'n gallu bod yn beryglus o gyflym a thwyllodrus er bod cyfnod rhwng lannw a llanw pan mae'n fwy diogel i hwylio dros yr aber. Bu llongau masnachol oedd yn hwylio i ac o borthladd Caernarfon yn mynd trwy'r culfor dros y canrifoedd, a pharhaodd yr arfer gyda llongau a gariai olew i ddepo ar gei Doc Fictoria tan ddiwedd y 1980au, ac fe gadwyd y sianel yn glir gan y 'cwch mwd', y stemar Seiont II, nes i hwnnw dorri i lawr. Dechreuodd dywod hel yn yr aber, a dywedir i'r llong olew olaf i geisio hwylio'r ffordd yna grafu gwaelod y môr. Wedi hynny am ychydig, daeth y llongau olew i Gaernarfon ar hyd yFenai ogyfeiriad Biwmares, nes i'r depo gau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Wicipedia, Abermenai https://cy.wikipedia.org/wiki/Abermenai, adalwyd 09.04.2018