Mathonwy Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Yr oedd '''Mathonwy Hughes''' (1901-1999) yn nai i'r bardd R. Silyn Roberts, y ddau wedi eu geni ym Mrynllidiart, ar y Cymffyrch rhwng Tanrallt a Chwm Silyn.  
Yr oedd '''Mathonwy Hughes''' (1901-1999) yn nai i'r bardd R. Silyn Roberts, y ddau wedi eu geni ym Mrynllidiart, ar y Cymffyrch rhwng Tanrallt a Chwm Silyn.  
   
   
Bu yn Ysgol Clynnog am gyfnod; enillodd iddo’i hun ddiwylliant eang trwy ddilyn dosbarthiadau i bobl mewn oed, a bu’n athro ar ddosbarthiadau felly.
Bu yn Ysgol Clynnog am gyfnod; enillodd iddo’i hun ddiwylliant eang trwy ddilyn dosbarthiadau i oedolion, a bu’n athro ar ddosbarthiadau felly.


Casglwr yswiriant ac is-olygydd Y Faner (1949-1977). Cartrefodd yn Ninbych.  Bu ei gyfraniad ef a Gwilym R. Jones, y golygydd,  i newyddiaduraeth yng Nghymru yn ddifesur, a hynny am gyflog pitw iawn, ac i holl fywyd y genedl, yn arbennig ei bywyd llenyddol. (Gweler hanes Gwilym R. Jones yn yr adran hon).
Casglwr yswiriant ac is-olygydd Y Faner (1949-1977). Cartrefodd yn Ninbych.  Bu ei gyfraniad ef a [[Gwilym R. Jones]], y golygydd,  i newyddiaduraeth yng Nghymru ac i holl fywyd y genedl, yn arbennig ei bywyd llenyddol, yn ddifesur, a hynny am gyflog pitw iawn.  


Yr oedd yn fardd cynhyrchiol. Enillodd gadair genedlaethol  Aberdâr yn 1956 am ei awdl ''Y Wraig''.
Yr oedd yn fardd cynhyrchiol. Enillodd gadair genedlaethol  Aberdâr yn 1956 am ei awdl ''Y Wraig''.

Fersiwn yn ôl 16:21, 10 Mawrth 2020


Yr oedd Mathonwy Hughes (1901-1999) yn nai i'r bardd R. Silyn Roberts, y ddau wedi eu geni ym Mrynllidiart, ar y Cymffyrch rhwng Tanrallt a Chwm Silyn.

Bu yn Ysgol Clynnog am gyfnod; enillodd iddo’i hun ddiwylliant eang trwy ddilyn dosbarthiadau i oedolion, a bu’n athro ar ddosbarthiadau felly.

Casglwr yswiriant ac is-olygydd Y Faner (1949-1977). Cartrefodd yn Ninbych. Bu ei gyfraniad ef a Gwilym R. Jones, y golygydd, i newyddiaduraeth yng Nghymru ac i holl fywyd y genedl, yn arbennig ei bywyd llenyddol, yn ddifesur, a hynny am gyflog pitw iawn.

Yr oedd yn fardd cynhyrchiol. Enillodd gadair genedlaethol Aberdâr yn 1956 am ei awdl Y Wraig. Cyhoeddodd 4 cyfrol o farddoniaeth: Ambell Gainc (1957), Corlannau (1971), Cneifion (1979), Cerddi’r Machlud (1986), a 5 cyfrol o ysgrifau: Myfyrion (1973), Dyfalu (1979). Gwin y Gweunydd (1981), Chwedlau’r Cynfyd (1983), a Y Pryf yn y Pren (1991).

Cyhoeddodd ei hunangofiant Atgofion Mab y Mynydd (1982); cyfrol am ei gyfaill pennaf Awen Gwilym R. (1980) a Darlith Llyfrgell Pen-y-groes Bywyd yr Ucheldir (1973).

Cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo yn 2001: Cofio Mathonwy.

Ffynhonnell

Chwareli Dyffryn Nantlle, Dewi Tomos, Llyfrau Llafar Gwlad (67), Gwasg Carreg Gwalch, 2007.

Amryw Bethau, Thomas Parry, Gwasg Gee. 1996.