Brwydr Brynderwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Daydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd '''Brwydr Bryn Derwin'''. Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr. | Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Daydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd '''Brwydr Bryn Derwin'''. Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr. | ||
Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf [[Clynnog Fawr]] yng nghantref [[Arfon]] ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5</ref> | Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf [[Clynnog Fawr]], mae'n debyg (ond gweler isod). Yn sicr, mae yng nghantref [[Arfon]] ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5</ref> | ||
Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn ''Llyfr Coch Hergest'' o ''Brut y Tywysogion'': | Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn ''Llyfr Coch Hergest'' o ''Brut y Tywysogion'': | ||
Yn y dyddiau hynny magwyd terfysg mawr a anogwyd gan y Diafol rhwng meibion Gruffudd ap Llywelyn, sef, Owain Goch a Dafydd, ar un ochr, a Llywelyn, ar yr ochr arall. | Yn y dyddiau hynny magwyd terfysg mawr a anogwyd gan y Diafol rhwng meibion Gruffudd ap Llywelyn, sef, Owain Goch a Dafydd, ar un ochr, a Llywelyn, ar yr ochr arall. Ac yna arhosodd Llywelyn a’i wyr, gan ymddiried yn Nuw, yn ddiofn ar Fryn Derwin am ddyfodiad ei frodyr, a llu mawr iawn gyda hwy. A chyn pen awr, cipiwyd Owain Goch [Owain ap Gruffudd] a ffodd Dafydd, wedi i lawer o’i lu gael eu lladd, i eraill gael eu cipio a’r gweddill ffoi. Ac yna carcharwyd Owain, a chafodd Llywelyn feddiant ar diriogaeth Owain a Dafydd heb wrthwynebiad iddo. <ref>Gwefan Meysydd brwydro Comisiwn Henebion Cymru http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/collections/getrecord/402322] Adalwyd 29.03.2018</ref> | ||
Ac yna arhosodd Llywelyn a’i wyr, gan ymddiried yn Nuw, yn ddiofn ar Fryn Derwin am ddyfodiad ei frodyr, a llu mawr iawn gyda hwy. A chyn pen awr, cipiwyd Owain Goch | |||
[Owain ap Gruffudd] a ffodd Dafydd, wedi i lawer o’i lu gael eu lladd, i eraill gael eu cipio a’r gweddill ffoi. Ac yna carcharwyd Owain, a chafodd Llywelyn feddiant ar | |||
diriogaeth Owain a Dafydd heb wrthwynebiad iddo. <ref>Gwefan Meysydd brwydro Comisiwn Henebion Cymru | |||
Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr: | Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr: | ||
Llinell 18: | Llinell 15: | ||
Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd, | Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd, | ||
Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.<ref>Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Brwydr_Bryn_Derwin] adalwyd 29.03.2018</ref> | Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.<ref>Wicipedia [https://cy.wikipedia.org/wiki/Brwydr_Bryn_Derwin] adalwyd 29.03.2018</ref> | ||
Mae'r disgrifiad o leoliad y frwydr yn y gerdd uchod yn creu peth dryswch. Honnir gan rai, yn cynnwys neb llai nag [[Ebeneser Thomas (Eben Fardd)|Eben Fardd]] mai Bwlch Mawr yw enw'r bwlch rhwng y ddwy Gyrn a Bwlch Mawr ar un ochr a mynyddoedd Crib Nantlle ar y llall, sef y bwlch eang y rhed y ffordd Caernarfon i Borthmadog trwyddo yn ardal [[Pantglas]]. Nodd ef, ac eraill megis y Parch. Peter Bayley Williams, mai'r bwlch rhwng yr Eifl a Moel Penllechog ger pentref [[Llanaelhaearn]] yw Bwlch Dau Fynydd. Rhaid felly amau ai yn ardal Pantglas a safle [[Brwydr Bron-yr-Erw]] oedd y man lle ymladdodd Llywelyn yn erbyn ei frodyr.<ref>Eben Fardd, ''Cyff Beuno'' (Tremadog, 1864), t.31; P.B. Williams, ''A Tourist's Guide through the County of Caernarvon", (Caernarfon, 1821), t.159</ref> | |||
==Llyfryddiaeth== | ==Llyfryddiaeth== | ||
J. | J. Beverley Smith, ''Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru'' (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau. | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 19:31, 29 Mawrth 2018
Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Daydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd Brwydr Bryn Derwin. Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.
Mae Bryn Derwin yn ucheldir plwyf Clynnog Fawr, mae'n debyg (ond gweler isod). Yn sicr, mae yng nghantref Arfon ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn a dichon i Dafydd gael ei ddal hefyd er bod y ffynonellau'n anghytuno ar y pwynt hwn.. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn i fod yn rheolwr dros Gymru gyfan.[1]
Mae disgrifiad o'r frwydr yn fersiwn Llyfr Coch Hergest o Brut y Tywysogion:
Yn y dyddiau hynny magwyd terfysg mawr a anogwyd gan y Diafol rhwng meibion Gruffudd ap Llywelyn, sef, Owain Goch a Dafydd, ar un ochr, a Llywelyn, ar yr ochr arall. Ac yna arhosodd Llywelyn a’i wyr, gan ymddiried yn Nuw, yn ddiofn ar Fryn Derwin am ddyfodiad ei frodyr, a llu mawr iawn gyda hwy. A chyn pen awr, cipiwyd Owain Goch [Owain ap Gruffudd] a ffodd Dafydd, wedi i lawer o’i lu gael eu lladd, i eraill gael eu cipio a’r gweddill ffoi. Ac yna carcharwyd Owain, a chafodd Llywelyn feddiant ar diriogaeth Owain a Dafydd heb wrthwynebiad iddo. [2]
Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:
Gwelai wawr ar wŷr lliosydd, Fal gŵr yn gwrthladd cywilydd, A welai Lywelyn, lewenydd - dragon, Yng nghymysg Arfon ac Eifionydd. Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd, Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.[3]
Mae'r disgrifiad o leoliad y frwydr yn y gerdd uchod yn creu peth dryswch. Honnir gan rai, yn cynnwys neb llai nag Eben Fardd mai Bwlch Mawr yw enw'r bwlch rhwng y ddwy Gyrn a Bwlch Mawr ar un ochr a mynyddoedd Crib Nantlle ar y llall, sef y bwlch eang y rhed y ffordd Caernarfon i Borthmadog trwyddo yn ardal Pantglas. Nodd ef, ac eraill megis y Parch. Peter Bayley Williams, mai'r bwlch rhwng yr Eifl a Moel Penllechog ger pentref Llanaelhaearn yw Bwlch Dau Fynydd. Rhaid felly amau ai yn ardal Pantglas a safle Brwydr Bron-yr-Erw oedd y man lle ymladdodd Llywelyn yn erbyn ei frodyr.[4]
Llyfryddiaeth
J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.
Cyfeiriadau
- ↑ J.E. Lloyd, A History of Wales, Cyf. II, (Llundain, 1939), tt.714-5
- ↑ Gwefan Meysydd brwydro Comisiwn Henebion Cymru http://meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk/collections/getrecord/402322] Adalwyd 29.03.2018
- ↑ Wicipedia [1] adalwyd 29.03.2018
- ↑ Eben Fardd, Cyff Beuno (Tremadog, 1864), t.31; P.B. Williams, A Tourist's Guide through the County of Caernarvon", (Caernarfon, 1821), t.159