Brwydr Brynderwin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Brwydr rhwng Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frawd Owain Goch tua chanol mis Mehefin 1255 oedd '''Brwydr Bryn Derwin'''. Roedd anghytuno wedi bod ynglŷn â ph...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Brwydr rhwng Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frawd Owain Goch tua chanol mis Mehefin 1255 oedd '''Brwydr Bryn Derwin'''. Roedd anghytuno wedi bod ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr. Roedd rhai yn cefnogi Owain ac eraill yn cefnogi Llywelyn.
Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Daydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd '''Brwydr Bryn Derwin'''. Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.  


Mae Bryn Dewin yn ymyl [[Bwlch Dau Fynydd]] yn ucheldir plwyf [[Clynnog Fawr]] yng nghantref [[Arfon]] ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy.
Mae Bryn Dewin yn ymyl [[Bwlch Dau Fynydd]] yn ucheldir plwyf [[Clynnog Fawr]] yng nghantref [[Arfon]] ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn a arweiniodd at ei ymdrech i fod yn rheoplwr dros Gymru gyfan.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', Cyf. II, (Llundin, 1939), tt.714-5</ref>


Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:
Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:

Fersiwn yn ôl 17:22, 29 Mawrth 2018

Brwydr rhwng Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frodyr Owain Goch a Daydd tua chanol mis Mehefin 1255 oedd Brwydr Bryn Derwin. Roedd anghytuno wedi bod rhwng Llywelyn a'i frodyr Owain a Dafydd ynglŷn â phwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr.

Mae Bryn Dewin yn ymyl Bwlch Dau Fynydd yn ucheldir plwyf Clynnog Fawr yng nghantref Arfon ond heb fod ymhell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy, sef Môn, Eryri a Phen Llŷn. Roedd y frwydr felly'n allweddol i ymgyrch Llywelyn a arweiniodd at ei ymdrech i fod yn rheoplwr dros Gymru gyfan.[1]

Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:

   Gwelai wawr ar wŷr lliosydd,
   Fal gŵr yn gwrthladd cywilydd,
   A welai Lywelyn, lewenydd - dragon,
   Yng nghymysg Arfon ac Eifionydd.
   Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd,
   Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.[2]

Llyfryddiaeth

J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.

Cyfeiriadau

  1. J.E. Lloyd, A History of Wales, Cyf. II, (Llundin, 1939), tt.714-5
  2. Wicipedia [1] adalwyd 29.03.2018