Brwydr Bron-yr-erw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Arweiniodd Trahaearn ei gefnogwyr yn Llŷn a'i fyddin o wŷr Powys, yn cynnwys ei gynghreiriad Gwrgenau ap Seisyllt, yn erbyn Gruffudd. Trechodd y cynghreiriaid fyddin Gruffudd ap Cynan ym Mron yr Erw gyda cholledion trwm.

Ar ôl y frwydr ffoes Gruffudd yn ôl i Iwerddon lle cafodd ymgeledd yn Loch Garman (''Wexford'').
Ar ôl y frwydr ffoes Gruffudd yn ôl i Iwerddon lle cafodd ymgeledd yn Llwch Garman (''Wexford'').

Fersiwn yn ôl 15:03, 29 Mawrth 2018

Ymladdwyd Brwydr Bron yr Erw, ar safle ger Clynnog Fawr, ym 1075 rhwng byddin Gruffudd ap Cynan a lluoedd Trahaearn ap Caradog. Fe'i cofnodir ym Mrut y Tywysogion a Hanes Gruffudd ap Cynan.

Ar farwolaeth Bleddyn ap Cynfyn, brenin teyrnas Powys, yn gynharach yn y flwyddyn, meddianwyd ei deyrnas gan Trahaearn, arglwydd Arwystli a Cynwrig ap Rhiwallon o Faelor. Ceisiodd Trahaearn a Chynwrig sefydlu eu hawdurdod yn Llŷn gyda'r bwriad o reoli teyrnas Gwynedd yn y pen draw.

Daeth Gruffudd ap Cynan drosodd o Ddulyn gyda mintai o filwyr cyflogedig o Lychlynwyr. Glaniodd yn Abermenai a chafodd fuddugoliaethau ysgubol yn erbyn Trahaearn a Chynwrig (a laddwyd) ac yn erbyn y Normaniaid dan Robert o Ruddlan hefyd, ond lladdwyd y Llychlynwyr a adawsai yn Llŷn a dychwelodd Gruffudd yno o Ruddlan gyda byddin gymharol fechan.

Arweiniodd Trahaearn ei gefnogwyr yn Llŷn a'i fyddin o wŷr Powys, yn cynnwys ei gynghreiriad Gwrgenau ap Seisyllt, yn erbyn Gruffudd. Trechodd y cynghreiriaid fyddin Gruffudd ap Cynan ym Mron yr Erw gyda cholledion trwm.

Ar ôl y frwydr ffoes Gruffudd yn ôl i Iwerddon lle cafodd ymgeledd yn Llwch Garman (Wexford).