Sinema'r Plaza: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Safai '''Sinema'r Plaza''' ar ffordd Llanllyfni, Pen-y-groes, bron gyferbyn â thafarn y Victoria. Dyma oedd yr unig sinema yn y cwmwd. Fe agorodd ddy...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Henry Jones, adeiladydd, Cricieth gododd yr adeilad hardd yn ystod 1932-3, gyda tu blaen mewn arddull y cyfnod, a chanopi fetel dros y fynedfa. Y perchennog oedd y Cadben W. Elias Pritchard, Y Maes, Cricieth.

Fe gaeodd y sinema'n derfynnol ym 1964, a chafodd ei dymchwel ynweddol fuan wedyn.
Fe gaeodd y sinema'n derfynnol ym 1964, a chafodd ei dymchwel yn weddol fuan wedyn.<ref>Cafwyd y rhan fwyaf o ffeithiau o gasgliad o raglenni, lluniau a nodiadau sydd wedi eu fframio ar wal Neuadd Goffa Pen-y-groes</ref>

{{eginyn}}
{eginyn}}
 
[[Cyfeiriadau]]
 
{{cyfeiriadau}}

Fersiwn yn ôl 18:47, 22 Mawrth 2018

Safai Sinema'r Plaza ar ffordd Llanllyfni, Pen-y-groes, bron gyferbyn â thafarn y Victoria. Dyma oedd yr unig sinema yn y cwmwd. Fe agorodd ddydd Llun y Pasg, 17 Ebrill 1933, gyda dangosiadau o Tell Me To-night, gyda Jan Kiepura am dair noson; ac wedyn am dair noson, Anna Neagle yn The Flag Lieutenant. Broliai'r rheolwr ei "Western Electric Sound System", ac wrth gwrs rhaid oedd wrth system sain arbennig gan fod y ffilmiau a ddangoswyd oedd rhai o ffilmiau sain ("talkies") newydd y cyfnod. Ymysg y ffilmiau olaf i'w dangos oedd Charlton Heston yn Planet of the Apes.

Y rheolwr am holl oes y sinema oedd Gwilym Arthurs, gya'i wraig Megan Arthurs yn gwerthu'r ticedi ac ati, a Glyn Morris, Stryd Fawr ac Emlyn Jones yn daflunwyr.

Henry Jones, adeiladydd, Cricieth gododd yr adeilad hardd yn ystod 1932-3, gyda tu blaen mewn arddull y cyfnod, a chanopi fetel dros y fynedfa. Y perchennog oedd y Cadben W. Elias Pritchard, Y Maes, Cricieth.

Fe gaeodd y sinema'n derfynnol ym 1964, a chafodd ei dymchwel yn weddol fuan wedyn.[1]

{eginyn}}

Cyfeiriadau

  1. Cafwyd y rhan fwyaf o ffeithiau o gasgliad o raglenni, lluniau a nodiadau sydd wedi eu fframio ar wal Neuadd Goffa Pen-y-groes