Capel Salem (W), Tŷ'nlôn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Capel Salem''' yn un o achosion Wesleaidd cynharaf yng Ngogledd Cymru, gan fod ''cymdeithas'' o Wesleiaid wedi ffurfio ym mhlwyf [[Llandwrog]] tua 1810. Mae Capel Salem ei hun yn dyddio o 1856, ac fe'i adeiladwyd yn nhreflan [[Tŷ'n Lôn]] a oedd, hyd yn oed y pryd hynny oddi ar y briffordd. Ceir llawer o gyfeiriadau at "Gapel Llandwrog" ymysg cofnodion cylchdaith y Wesleiaid; mae'r rhain yn cyfeirio at Gapel Tŷ'n Lôn, yn hytrach na'r capel arall a sefydlwyd o fewn ffiniau'r plwyf, sef [[Capel Moriah (W), Tal-y-sarn]].
Mae '''Capel Salem''' yn un o achosion Wesleaidd cynharaf yng Ngogledd Cymru, gan fod ''cymdeithas'' o Wesleiaid wedi ei ffurfio ym mhlwyf [[Llandwrog]] tua 1810. Mae Capel Salem ei hun yn dyddio o 1856, ac fe'i adeiladwyd yn nhreflan [[Tŷ'n Lôn]] a oedd, hyd yn oed y pryd hynny oddi ar y briffordd. Ceir llawer o gyfeiriadau at "Gapel Llandwrog" ymysg cofnodion cylchdaith y Wesleiaid; mae'r rhain yn cyfeirio at Gapel Tŷ'n Lôn, yn hytrach na'r capel arall a sefydlwyd o fewn ffiniau'r plwyf, sef [[Capel Moriah (W), Tal-y-sarn]].


Yng nghefn y capel y mae stabl a godwyd yn ddiweddarach ar gyfer ceffyl a ddeuai â phregethwr ar ei gefn i bregethu, ond dywedir na chafodd ond un ceffel ei stablo yno erioed gan ei bod wedi codi ar derfyn oes y ceffyl pan oedd trenau a moduron yn dechrau cymryd lle'r ceffyl.
Yng nghefn y capel y mae stabl a godwyd yn ddiweddarach ar gyfer ceffyl a ddeuai â phregethwr ar ei gefn i bregethu, ond dywedir na chafodd ond un ceffel ei stablo yno erioed gan ei bod wedi codi ar derfyn oes y ceffyl pan oedd trenau a moduron yn dechrau cymryd lle'r ceffyl.

Fersiwn yn ôl 10:40, 20 Mawrth 2018

Mae Capel Salem yn un o achosion Wesleaidd cynharaf yng Ngogledd Cymru, gan fod cymdeithas o Wesleiaid wedi ei ffurfio ym mhlwyf Llandwrog tua 1810. Mae Capel Salem ei hun yn dyddio o 1856, ac fe'i adeiladwyd yn nhreflan Tŷ'n Lôn a oedd, hyd yn oed y pryd hynny oddi ar y briffordd. Ceir llawer o gyfeiriadau at "Gapel Llandwrog" ymysg cofnodion cylchdaith y Wesleiaid; mae'r rhain yn cyfeirio at Gapel Tŷ'n Lôn, yn hytrach na'r capel arall a sefydlwyd o fewn ffiniau'r plwyf, sef Capel Moriah (W), Tal-y-sarn.

Yng nghefn y capel y mae stabl a godwyd yn ddiweddarach ar gyfer ceffyl a ddeuai â phregethwr ar ei gefn i bregethu, ond dywedir na chafodd ond un ceffel ei stablo yno erioed gan ei bod wedi codi ar derfyn oes y ceffyl pan oedd trenau a moduron yn dechrau cymryd lle'r ceffyl.

Cynhaliwyd gwasanaeth dathlu 150 mlynedd o'r adeilad presennol yn 2006 yn ystod Cyfarfod Pregethu blynyddol y capel, pan bregethodd y Parch. Gwyn C. Thomas, Tal-y-sarn, gweinidog Wesle Pwllheli ar y pryd.[1] Roedd y cyfarfod pregethu yma'n hen draddodiad a barhaodd yma'n bur hwyr, tan oddeutu 2012, ar ddydd Iau yn ystod mis Mehefin. Arferai gynnwys pedwar pregeth, un ar nos Fercher a thair yn ystod ddydd Iau, gyda dau bregethwr gwâdd (y ddau bron yn ddi-ffael yn Wesleiaid) yn rhannu'r dyletswyddau. Bu'n arferol cael cynulleidfa o gapeli'r ardal ac o eglwysi Wesleiaidd eraill Arfon, a hyd y 21g bu'n arferol cael dros 50 yn y gynulleidfa.

Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Salem.

Mae'r capel yn dal ar agor. gyda gwasanaeth bob pnawn Sul (2018). Tan efallai 1980 roedd dau wasanaeth bob dydd Sul, a chynhaliwyd ysgol Sul am gyfnod yn y 1980au cynnar, ar ôl bwlch o 10 mlynedd a mwy.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Gwyliedydd, rhif 142 (Awst-Medi 2006)