Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Capel Ebeneser, Clynnog i Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:25, 20 Mawrth 2018

Roedd Ysgol Sul o 80 o aelodau yng Nghlynnog pan agorwyd Ebeneser MC ym 1844 â 43 o aelodau (32 ohonynt yn aelodau yn y Capel Uchaf (1761-2000) – capel Robert Roberts, y seraff bregethwr), 10 yn Seion (Gurn Goch) ac un o le arall.

Fe'i henwyd yn Ebeneser o barch i Ebenezer Thomas, (Eben Fardd,1802-1863). Fe’i gwahoddwyd i gadw ei ysgol ddyddiol yma a ddatblygodd i fod yn ysgol ragbaratoawl i weinidogion ym 1863. Caeodd ym 1929.

Codwyd Tŷ Capel ym 1861 ac Ysgoldy a Thŷ’r Prifathro (Afallon) ym 1863. Gwerthwyd yr Ysgoldy a’r Tŷ Capel yn 2005 i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymunwyd â gofalaeth Bro Lleu yn 2010. Gwerthwyd Afallon i fewnfudwyr o Loegr yn 2012.