Y Brodyr Francis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis ('''Y Brodyr Francis''').  
Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis ('''Y Brodyr Francis''').  


Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Roedd y tad yn swyddog yn chwarel y Moelfre ac yn gerddor da. Roedd eu mam - Mair Alaw - yn gantores o Nantlle. Mudodd y teulu oddi yno i'r Clogwyn Brwnt,Drws-y-coed, yna i'r Gelliffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle.  Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn y chwarel. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au a hynny i neuaddau a chapeli llawn.  Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927.  
Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Roedd y tad yn swyddog yn chwarel y Moelfre ac yn gerddor da. Roedd eu mam - Mair Alaw - yn gantores o Nantlle. Mudodd y teulu oddi yno i'r Clogwyn Brwnt, [[Drws-y-coed]], yna i'r [[Gelli-ffrydiau]] ac wedyn i bentref Nantlle.  Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn y chwarel. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au a hynny i neuaddau a chapeli llawn.  Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927.  


Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru.  Roedd Griffith (1876-1939) yn fardd yn y mesurau caeth a rhydd, a chyhoeddwyd ei waith ''Telyn Eryri'' gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Cyfansoddodd ddigon o gerddi ar gyfer ail gyfrol ond ni chyhoeddwyd mohoni. Owen (1879-1939)oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.
Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru.  Roedd Griffith (1876-1939) yn fardd yn y mesurau caeth a rhydd, a chyhoeddwyd ei waith ''Telyn Eryri'' gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Cyfansoddodd ddigon o gerddi ar gyfer ail gyfrol ond ni chyhoeddwyd mohoni. Owen (1879-1939)oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.


Bu'r ddau farw yr un flwyddyn: Owen ar 6ed Ebrill 1936,(fe'i claddwyd ym mynwent capel Salem, Llanllyfni) a Griffith ar 13 Mehefin 1936, (fe'i claddwyd ef ym mynwent Macpela, Pen-y-groes).  
Bu'r ddau farw yr un flwyddyn: Owen ar 6ed Ebrill 1936,(fe'i claddwyd ym mynwent [[Capel Salem (MC), Llanllyfni]]) a Griffith ar 13 Mehefin 1936, (fe'i claddwyd ef ym [[Mynwent Macpela]], [[Pen-y-groes]]).  


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 10:37, 17 Mai 2019

Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis (Y Brodyr Francis).

Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Roedd y tad yn swyddog yn chwarel y Moelfre ac yn gerddor da. Roedd eu mam - Mair Alaw - yn gantores o Nantlle. Mudodd y teulu oddi yno i'r Clogwyn Brwnt, Drws-y-coed, yna i'r Gelli-ffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn y chwarel. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au a hynny i neuaddau a chapeli llawn. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927.

Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Roedd Griffith (1876-1939) yn fardd yn y mesurau caeth a rhydd, a chyhoeddwyd ei waith Telyn Eryri gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Cyfansoddodd ddigon o gerddi ar gyfer ail gyfrol ond ni chyhoeddwyd mohoni. Owen (1879-1939)oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.

Bu'r ddau farw yr un flwyddyn: Owen ar 6ed Ebrill 1936,(fe'i claddwyd ym mynwent Capel Salem (MC), Llanllyfni) a Griffith ar 13 Mehefin 1936, (fe'i claddwyd ef ym Mynwent Macpela, Pen-y-groes).

Cyfeiriadau