Y Brodyr Francis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith ac Owen Francis ('''Y Brodyr Francis'''). | Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis ('''Y Brodyr Francis'''). | ||
Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Mudodd y teulu oddi yno i'r Clogwyn Brwnt,Drws-y-coed, yna i'r Gelliffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn y chwarel. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927. | Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Mudodd y teulu oddi yno i'r Clogwyn Brwnt,Drws-y-coed, yna i'r Gelliffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn y chwarel. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927. |
Fersiwn yn ôl 20:36, 16 Mawrth 2018
Chwarelwyr a ddaeth yn gantorion o fri oedd Griffith William Francis ac Owen William Francis (Y Brodyr Francis).
Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis, Bron-y-Wern. Mudodd y teulu oddi yno i'r Clogwyn Brwnt,Drws-y-coed, yna i'r Gelliffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth ar y dechrau trwy weithio yn y chwarel. Daethant yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt yn y 1920au a'r 1930au. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i'w ddarlledu ar y radio, a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927.
Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Roedd Griffith (1876-1939) yn fardd, a chyhoeddwyd ei waith Telyn Eryri gan Hughes a'i Fab yn 1932, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Owen (1879-1939)oedd y cerddor a gyfansoddai'r alawon. Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed. Cyhoeddwyd llawer o waith y ddau frawd yn Y Genedl Gymreig. Bu'r ddau farw yn 1939; Owen ar 6ed Ebrill 1939, a Griffith ar 13 Mehefin 1939.