Nantlle (pentref): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 1: Llinell 1:


== Y Brodyr Francis 1876 – 1936 ==
Dau frawd a gysylltir â Nantlle oedd Griffith William Francis (1876-1936) ac Owen William Francis (1879-1936). Fe’u ganed [[ym/yn]] [[Mron-y-Wern,/Bron-y-Wern]], Cwm Pennant. Mudodd y teulu oddi yno i’r Clogwyn Brwnt, Drws-y-coed, yna i’r Gelliffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle.
Roeddent yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled y wlad a thu hwnt yn y 1920au a’r 1930au. Byddai’r capeli a’r neuaddau dan eu sang.  Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i’w ddarlledu ar y radio – a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927.  Griffith Francis oedd wedi cyfansoddi nifer o’r cerddi a genid ganddynt ond roeddent hefyd yn canu gwaith T. Gwynn Jones, Eifion Wyn, Crwys, R. Williams Parry ac eraill. Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Owen Francis oedd cyfansoddwr rhai o’r alawon a’r emyn donau a ganent (galwodd rai ohonynt yn Nantlle, Glyn a Meira (dau o’i blant).  Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.
Cyhoeddwyd ''Telyn Eryri'', cyfrol o gerddi Griffith Francis, gan Hughes a’i Fab yn 1932 gyda Rhagair gan E. Morgan Humphreys.
Dyma un o’r cerddi poblogaidd a genid ganddynt, o waith Griffith W. Francis. Gelliffrydiau, Nantlle, yw’r Gelli y cyfeirir ati a Wil y Ffridd, yr heliwr yw William Hughes, Y Ffridd, Nantlle:
CYN GOLLWNG CŴN Y GELLI
Pan gloid y Mynydd Mawr gan iâ,
  A'r eira’n toi Eryri:
Pan geisiai’r lloer oleuo’r nos
  I aros i’r haul godi;
Âi’r llwynog castiog dan ei bwn
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.
Fe ddygodd lawer oenyn gwan,
  O’r Geulan wedi nosi,
Ac ieir Caeronwy lusgodd draw
  I’w genaw dros glogwyni,
I fewn i’w ffau, heb ofni ffyn,
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.
Lladratodd wyddau Blaen-y-Garth
  O’r buarth cyn eleni,
Ac o’r Ysgubor lawer haid
  O hwyaid wedi ’u pesgi;
Fe lanwai groen ei fol yn grwn
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.
Ond ar ryw fore oerllyd iawn,
  Tros dalar mawn y meini,
Fe lamai’r cadno coch i lawr
  O’r Mynydd Mawr yn heini:
A chroesi’r Bala rhwng Dau Lyn
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.
Ar ddôl y ffrynt ‘roedd Wil y Ffridd,
  A’r gwas, ym mhridd oer gwysi,
A gweiddi, — “Llwynog ! Byth o’r fan !
  Hwi ! dal o, Ffan, myn diawch-i,”—
Ac archai’r gwas i gyrchu gwn,
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.
Cadd cadno frecwast i bils plwm,
  A chroesaw Cwm ddaeargi,
Ac yn lle blingo oen bach tlws—
  Ei groen ar ddrws y beudy ;
A chwarddai Wil wrth gadw’r gẁn,
  Cyn gollwng cŵn y Gelli.
                          GWF

Fersiwn yn ôl 16:46, 16 Mawrth 2018