Ysgol Rhostryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ysgol addysg gynradd ym mhentref Rhostryfan yw '''Ysgol Gynradd Rhostryfan'''. Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1867, ac mae hi ar agor hyd heddiw. Gelwir...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ysgol addysg gynradd ym mhentref [[Rhostryfan]] yw '''Ysgol Gynradd Rhostryfan'''.  
Ysgol addysg gynradd ym mhentref [[Rhostryfan]] yw '''Ysgol Gynradd Rhostryfan'''. Nid hon oedd yr ysgol gyntaf ar gyfer plant yn y pentref gan fod [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]], mae'n ymddangos, wedi ceisio gwneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer y gymdogaeth cyn hynny. Cynhelid ysgol yn llofft tŷ capel Horeb gan ddyn o'r enw Ellis Thomas yn nechrau'r 1840au, ac yn ogystal â'r tâl a dderbyniai gan y rhieni, cyfrannai'r capel hefyd at ei chynnal. Fe ymadawodd tua 1846 â'r tŷ capel fodd bynnag, ac aeth rhai o'r plant i'r ysgol eglwysig yn y [[Bontnewydd]] tra aeth eraill i ysgol a gynhelid ym [[Melin Forgan]] ger [[Capel Bryn'rodyn]].


Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1867, ac mae hi ar agor hyd heddiw. Gelwir yr ysgol yn ''Rhostryfan British School'' cyn cael ei galw yn ''Rhostryfan Board School'' yn y ddeunawfed ganrif.<ref>Llyfrau Log Ysgol Gynradd Rhostryfan (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) '''XES1/118''' [1867-1934]</ref>
Ym 1849, penderfynodd y capel y dylid ceisio sefydlu ysgol mwy effeithiol, a chafwyd gwasanaeth Benjamin Rogers fel ysgolfeistr, a ddaeth o Abergele i Rostryfan. Am rai blynyddoedd cynhelid yr ysgol yn y capel nes adeiladu ysgoldy newydd ym 1855, gyda lle ar gyfer 100 o blant. Ariannwyd yr adeilad yn llwyr gan y capel heb grant, gan nad oedd yn cydymffurfio, ysywaeth, aâ gofynion yr awdurdodau.


Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1867, ac mae hi ar agor hyd heddiw. Gelwid yr ysgol yn ''Rhostryfan British School'' (h.y. ysgol na noddwyd gan yr Eglwys ond gan gorff annibynnol) cyn cael ei droi'n ''Rhostryfan Board School'' yn y 19g.<ref>Llyfrau Log Ysgol Gynradd Rhostryfan (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) '''XES1/118''' [1867-1934]</ref>
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


[[Categori:Addysg]]
[[Categori:Addysg]]
[[Categori:Ysgolion]]
[[Categori:Ysgolion]]
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 09:21, 22 Ebrill 2020

Ysgol addysg gynradd ym mhentref Rhostryfan yw Ysgol Gynradd Rhostryfan. Nid hon oedd yr ysgol gyntaf ar gyfer plant yn y pentref gan fod Capel Horeb (MC), Rhostryfan, mae'n ymddangos, wedi ceisio gwneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer y gymdogaeth cyn hynny. Cynhelid ysgol yn llofft tŷ capel Horeb gan ddyn o'r enw Ellis Thomas yn nechrau'r 1840au, ac yn ogystal â'r tâl a dderbyniai gan y rhieni, cyfrannai'r capel hefyd at ei chynnal. Fe ymadawodd tua 1846 â'r tŷ capel fodd bynnag, ac aeth rhai o'r plant i'r ysgol eglwysig yn y Bontnewydd tra aeth eraill i ysgol a gynhelid ym Melin Forgan ger Capel Bryn'rodyn.

Ym 1849, penderfynodd y capel y dylid ceisio sefydlu ysgol mwy effeithiol, a chafwyd gwasanaeth Benjamin Rogers fel ysgolfeistr, a ddaeth o Abergele i Rostryfan. Am rai blynyddoedd cynhelid yr ysgol yn y capel nes adeiladu ysgoldy newydd ym 1855, gyda lle ar gyfer 100 o blant. Ariannwyd yr adeilad yn llwyr gan y capel heb grant, gan nad oedd yn cydymffurfio, ysywaeth, aâ gofynion yr awdurdodau.

Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1867, ac mae hi ar agor hyd heddiw. Gelwid yr ysgol yn Rhostryfan British School (h.y. ysgol na noddwyd gan yr Eglwys ond gan gorff annibynnol) cyn cael ei droi'n Rhostryfan Board School yn y 19g.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Llyfrau Log Ysgol Gynradd Rhostryfan (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/118 [1867-1934]