William Griffith (Hu Gadarn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''William Griffith''' (marw 1876) yn ffermwr Tŷ Mawr, sydd gyferbyn â gwaelod yr Allt Goch, gerllaw [[Pontlyfni]]. Mabwysiadodd yr enw barddol ''Hu Gadarn'' ar ôl y ffigwr mytholegol a dywysodd y Cymry gwreiddiol i Gymru. Roedd yn ddyn o barch a phwys yn lleol, fel un diwylliedig ac fel ffarmwr llewyrchus, i'r graddau y bu cystadleuaeth yn Eisteddfod Caernarfon 1877 oedd yn gofyn am englynion coffa iddo.<ref>''Y Gwyliedydd'', 24 Awst 1877, t.8</ref>
Roedd '''William Griffith''' (marw 1876) yn ffermwr Tŷ Mawr, sydd gyferbyn â gwaelod yr Allt Goch, gerllaw [[Pontlyfni]]. Mabwysiadodd yr enw barddol ''Hu Gadarn'' ar ôl y ffigwr mytholegol a dywysodd y Cymry gwreiddiol i Gymru. Roedd yn ddyn o barch a phwys yn lleol, fel un diwylliedig ac fel ffarmwr llewyrchus, i'r graddau y bu cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1877 oedd yn gofyn am englynion coffa iddo.<ref>''Y Gwyliedydd'', 24 Awst 1877, t.8</ref>


Ychydig sydd ar gof a chadw amdano, mae'n debyg, ond fe'i restrir fel un o brif roddwyr arian tuag at gofeb [[Ebeneser Thomas (Eben Fardd)|Eben Fardd]] ym  1866. Yn wir, gyda'i rodd o £1, (gwerth efallai £50 ym mhres heddiw) fo oedd y rhoddwr lleol mwyaf hael a restrwyd yn y papur lleol. <ref>''North Wales Chronicle'', 17 Chwef. 1866, t.1</ref>
Ychydig sydd ar gof a chadw amdano, mae'n debyg, ond fe'i restrir fel un o brif roddwyr arian tuag at gofeb [[Ebeneser Thomas (Eben Fardd)|Eben Fardd]] ym  1866. Yn wir, gyda'i rodd o £1, (gwerth efallai £50 ym mhres heddiw) fo oedd y rhoddwr lleol mwyaf hael a restrwyd yn y papur lleol. <ref>''North Wales Chronicle'', 17 Chwef. 1866, t.1</ref>

Fersiwn yn ôl 12:50, 14 Chwefror 2018

Roedd William Griffith (marw 1876) yn ffermwr Tŷ Mawr, sydd gyferbyn â gwaelod yr Allt Goch, gerllaw Pontlyfni. Mabwysiadodd yr enw barddol Hu Gadarn ar ôl y ffigwr mytholegol a dywysodd y Cymry gwreiddiol i Gymru. Roedd yn ddyn o barch a phwys yn lleol, fel un diwylliedig ac fel ffarmwr llewyrchus, i'r graddau y bu cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1877 oedd yn gofyn am englynion coffa iddo.[1]

Ychydig sydd ar gof a chadw amdano, mae'n debyg, ond fe'i restrir fel un o brif roddwyr arian tuag at gofeb Eben Fardd ym 1866. Yn wir, gyda'i rodd o £1, (gwerth efallai £50 ym mhres heddiw) fo oedd y rhoddwr lleol mwyaf hael a restrwyd yn y papur lleol. [2]

Ceir darlun o'r dyn a'i wraig yn llyfr W R Ambrose, Nant Nantlle. Fe ddywed:

"...Gadawsom ar ein chwith [wrth deithio o gyfeiriad Clynnog Fawr] y Tymawr, preswylfod Hu Gadarn, a'i wraig Gwenhonwy. Y mae Hu Gadarn yn enwog, nid yn unig ar gyfrif ei ychain banog, eithr hefyd ar gyfrif ei chwaeth lenyddol; a medr ei wraig Gwenhonwy, nid yn unig feirniadu gweithiau ein prif awduron yn Gymraeg a Saesonaeg, eithr hefyd ymostwng i ymdrechu am gamp o wneud pâr o hosanau mewn Eisteddfod Genedlaethol, a gorchfygu, a thrwy hyny roddi esiampl i'w chydryw o deuluyddiaeth dda. Anhawdd fyddai treulio nawnddydd difyrach nag yng ngwmni y pâr dedwydd a deallgar hyn." [3]

Cyfeiriadau

  1. Y Gwyliedydd, 24 Awst 1877, t.8
  2. North Wales Chronicle, 17 Chwef. 1866, t.1
  3. op.cit., t.97