Llwyn-y-gwalch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:


==Chwedl am yr enw==
==Chwedl am yr enw==
Dywedir stori yn yr ardal i esbonio'r enw, sef bod tirfeddiannwr lleol yn marw ac am adael tir i'w pedwar mab, gan ddyfarnu yn ei ewyllys ei fab Iago yn cael cae, Dafydd i gael tyddyn, Siencyn i gael talar a'r gwalch (sef hogyn drygiog, ei fab arall)i dderbyn llwyn. Mae tyddyn Cae Iago, fferm Tyddyn Dafydd a thir (a fu unwaith yn dyddyn ar wahân) Talar Siencyn i gyd yn ffinio ar dir Llwyn-y-gwalch heddiw.  
Dywedir stori yn yr ardal i esbonio'r enw, sef bod tirfeddiannwr lleol yn marw ac am adael tir i'w pedwar mab, gan ddyfarnu yn ei ewyllys ei fab Iago yn cael cae, Dafydd i gael tyddyn, Siencyn i gael talar a'r gwalch (sef hogyn drygiog, ei fab arall)i dderbyn llwyn. Mae tyddyn Cae Iago, fferm Tyddyn Dafydd a thir (a fu unwaith yn dyddyn ar wahân) Talar Siencyn i gyd yn ffinio ar dir Llwyn-y-gwalch heddiw.<ref>Hanes ar dafod-leferydd yn y Groeslon, 2018.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 20:46, 12 Chwefror 2018

Mae Llwyn-y-gwalch yn ffermdy ym mhlwyf Llandwrog. Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o Fynydd Cilgwyn i lawr at y cychod yn Y Foryd; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y Dolydd a'r Groeslon. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef Melin Llwyn-y-gwalch.[1]

Mae sôn am Rowland Morgan, gwr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.[2] Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.[3]

Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar y felin yn Llwyn-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823.

Chwedl am yr enw

Dywedir stori yn yr ardal i esbonio'r enw, sef bod tirfeddiannwr lleol yn marw ac am adael tir i'w pedwar mab, gan ddyfarnu yn ei ewyllys ei fab Iago yn cael cae, Dafydd i gael tyddyn, Siencyn i gael talar a'r gwalch (sef hogyn drygiog, ei fab arall)i dderbyn llwyn. Mae tyddyn Cae Iago, fferm Tyddyn Dafydd a thir (a fu unwaith yn dyddyn ar wahân) Talar Siencyn i gyd yn ffinio ar dir Llwyn-y-gwalch heddiw.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Yr Herald Cymraeg, 1938.
  2. Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39
  3. LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.
  4. Hanes ar dafod-leferydd yn y Groeslon, 2018.