Tafarn Sign Horse: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Safai dafarn o'r enw '''Sign Horse''' yn ardal Treddafydd o bentref [[Pen-y-groes]] tua chanol y 19g. Ychydig o sôn sydd am y dafarn ddi-sôn-amdani hon, ond un cyfeiriad arall sydd wedi dod i'r golwg yw hynny yn [[Disgrifiad Owen Owen o Ben-y-groes tua 1870|atgofion Owen Owen]], lle nodir bod "Sign Horse" wedi ei godi tua 1835 yn Nhreddafydd gan Evan Williams.<ref>Owen Owen, ''Hen Atgofion am Pen-y-groes''</ref> Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw'r ffaith fod arwydd gyda llun o geffyl yn dynodi'r dafarn gan ei bod ynghanol rhes o dai.

Yn nogfen y Cyfriad 1841 rhestrir dynes o'r enw Margaret Griffith, 40 oed, a'i disgrifio hi fel tafarnwraig yn byw yn un o dai Pen-y-groes. Yr adeg honno nid oedd gan dai Pen-y-groes gyfeiriadau unigol nac enwau, a barnu oddi wrth y Cyfrifiad; yr unig adeilad a nodir gydag enw oedd Tafarn Pen-y-groes, sef [[Tafarn y Stag]]. Gan fod yr Horse wedi ei godi tua 1835, ac nid oes tafarnwr na thafarnwraig arall yn cael ei nodi yn y pentref heblaw am dafarnwr y Stag, gellid yn deg gymryd mai Margaret Griffith oedd tafarnwraig Tafarn yr Horse ym 1840.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1841</ref>
Yn nogfen y Cyfriad 1841 rhestrir dynes o'r enw Margaret Griffith, 40 oed, a'i disgrifio hi fel tafarnwraig yn byw yn un o dai Pen-y-groes. Yr adeg honno nid oedd gan dai Pen-y-groes gyfeiriadau unigol nac enwau, a barnu oddi wrth y Cyfrifiad; yr unig adeilad a nodir gydag enw oedd Tafarn Pen-y-groes, sef [[Tafarn y Stag, Pen-y-groes|Tafarn y Stag]]. Gan fod yr Horse wedi ei godi tua 1835, ac nid oes tafarnwr na thafarnwraig arall yn cael ei nodi yn y pentref heblaw am dafarnwr y Stag, gellid yn deg gymryd mai Margaret Griffith oedd tafarnwraig Tafarn yr Horse ym 1840.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1841</ref>

Yn ol Cyfrifiad 1861, Robert Griffiths oedd yn cadw'r dafarn, a alwyd yn y ddfogfen honno', "Horse Tavarn". Roedd Griffiths yn chwarelwr yn ogystal â thafarnwr; roedd yn 60 oed ym 1861, ac yn hanu o blwyf [[Llandwrog]]. Roedd ei wraig Elizabeth o Ddolbenmaen, ac yn wyth mlynedd yn iau na'i gŵr. Roedd gan y wraig dri o blant gan ŵr arall ac un ŵyr, mae'n ymddangos (gan mai Jones oedd eu cyfenwau hwy). Gellid amau bod y dafarn yn adeilad gyfforddus o fawr ac yn gwasanaethu hefyd fel gwesty gan fod tri yn lletya yno, un ohonynt yn chwarelwr a'r lleill yn bedleriaid o Sir y Fflint.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861</ref> Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865  nodwyd mai Elizabeth Griffiths oedd tafarnwraig yr Horse; dichon mai gweddw Robert Griffiths ydoedd.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref> Tair blynedd yn ddiweddarach, enwir Edward Griffith fel y tafarnwr.<ref>Cyfeiriadur Masnach Slater, 1868</ref>

Fersiwn yn ôl 16:46, 2 Tachwedd 2025

Safai dafarn o'r enw Sign Horse yn ardal Treddafydd o bentref Pen-y-groes tua chanol y 19g. Ychydig o sôn sydd am y dafarn ddi-sôn-amdani hon, ond un cyfeiriad arall sydd wedi dod i'r golwg yw hynny yn atgofion Owen Owen, lle nodir bod "Sign Horse" wedi ei godi tua 1835 yn Nhreddafydd gan Evan Williams.[1] Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw'r ffaith fod arwydd gyda llun o geffyl yn dynodi'r dafarn gan ei bod ynghanol rhes o dai.

Yn nogfen y Cyfriad 1841 rhestrir dynes o'r enw Margaret Griffith, 40 oed, a'i disgrifio hi fel tafarnwraig yn byw yn un o dai Pen-y-groes. Yr adeg honno nid oedd gan dai Pen-y-groes gyfeiriadau unigol nac enwau, a barnu oddi wrth y Cyfrifiad; yr unig adeilad a nodir gydag enw oedd Tafarn Pen-y-groes, sef Tafarn y Stag. Gan fod yr Horse wedi ei godi tua 1835, ac nid oes tafarnwr na thafarnwraig arall yn cael ei nodi yn y pentref heblaw am dafarnwr y Stag, gellid yn deg gymryd mai Margaret Griffith oedd tafarnwraig Tafarn yr Horse ym 1840.[2]

Yn ol Cyfrifiad 1861, Robert Griffiths oedd yn cadw'r dafarn, a alwyd yn y ddfogfen honno', "Horse Tavarn". Roedd Griffiths yn chwarelwr yn ogystal â thafarnwr; roedd yn 60 oed ym 1861, ac yn hanu o blwyf Llandwrog. Roedd ei wraig Elizabeth o Ddolbenmaen, ac yn wyth mlynedd yn iau na'i gŵr. Roedd gan y wraig dri o blant gan ŵr arall ac un ŵyr, mae'n ymddangos (gan mai Jones oedd eu cyfenwau hwy). Gellid amau bod y dafarn yn adeilad gyfforddus o fawr ac yn gwasanaethu hefyd fel gwesty gan fod tri yn lletya yno, un ohonynt yn chwarelwr a'r lleill yn bedleriaid o Sir y Fflint.[3] Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai Elizabeth Griffiths oedd tafarnwraig yr Horse; dichon mai gweddw Robert Griffiths ydoedd.[4] Tair blynedd yn ddiweddarach, enwir Edward Griffith fel y tafarnwr.[5]

Cyfeiriadau

  1. Owen Owen, Hen Atgofion am Pen-y-groes
  2. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1841
  3. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861
  4. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
  5. Cyfeiriadur Masnach Slater, 1868