Tafarn y Machine: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Tafarn y Machine''' yn dafarn a gedwid gan chwarelwr o'r enw Griffith Owen, chwarelwr 35 oed ym 1851, a'r wraig Margaret, 39 oed - y ddau'n lleol, Griffith o blwyf Llandwrog a Margaret o blwyf Llanwnda. Safai'r dafarn yn ardal Coedmadog o bentref [[Tal-y-sarn]], a dichon ei bod yn diwallu anghenion rhai o'r chwarelwyr lleol am gwrw ar ddiwedd sifft. Rhaid bod y dafarn yn weddol barchus gan fod Saes o Swydd Rhydychen yn aros yno dros nos; a rhaid hefyd gofio fod y dafarn yn agos at Plas Coedmadog.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851</ref> Ym 1861, mae dogfen y Cyfrifiad yn galw'r dafarn yn "Machine Public House". Roedd landlord newydd yno, sef John Roberts, 33 oed. Yno hefyd oedd ei wraig a'i fab ifanc, ynghyd â morwyn a oedd, mae'n debyg, yn gweithio yn y dafarn, gan mai chwarelwr oedd John Roberts wrth ei alwedigaeth.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861</ref>
Roedd '''Tafarn y Machine''' yn dafarn a gedwid gan chwarelwr o'r enw Griffith Owen, chwarelwr 35 oed ym 1851, a'r wraig Margaret, 39 oed - y ddau'n lleol, Griffith o blwyf Llandwrog a Margaret o blwyf Llanwnda. Safai'r dafarn ger Coedmadog ym mhentref [[Tal-y-sarn]], a dichon ei bod yn diwallu anghenion rhai o'r chwarelwyr lleol am gwrw ar ddiwedd sifft. Rhaid bod y dafarn yn weddol barchus gan fod Saes o Swydd Rhydychen yn aros yno dros nos.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851</ref> Ym 1861, mae dogfen y Cyfrifiad yn galw'r dafarn yn "Machine Public House". Roedd landlord newydd yno, sef John Roberts, 33 oed. Yno hefyd oedd ei wraig a'i fab ifanc, ynghyd â morwyn a oedd, mae'n debyg, yn gweithio yn y dafarn, gan mai chwarelwr oedd John Roberts wrth ei alwedigaeth.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861</ref>


Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Roberts oedd y tafarnwr trwyddedig yno o hyd.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref>
Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Roberts oedd y tafarnwr trwyddedig yno o hyd.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref>

Fersiwn yn ôl 17:42, 29 Hydref 2025

Roedd Tafarn y Machine yn dafarn a gedwid gan chwarelwr o'r enw Griffith Owen, chwarelwr 35 oed ym 1851, a'r wraig Margaret, 39 oed - y ddau'n lleol, Griffith o blwyf Llandwrog a Margaret o blwyf Llanwnda. Safai'r dafarn ger Coedmadog ym mhentref Tal-y-sarn, a dichon ei bod yn diwallu anghenion rhai o'r chwarelwyr lleol am gwrw ar ddiwedd sifft. Rhaid bod y dafarn yn weddol barchus gan fod Saes o Swydd Rhydychen yn aros yno dros nos.[1] Ym 1861, mae dogfen y Cyfrifiad yn galw'r dafarn yn "Machine Public House". Roedd landlord newydd yno, sef John Roberts, 33 oed. Yno hefyd oedd ei wraig a'i fab ifanc, ynghyd â morwyn a oedd, mae'n debyg, yn gweithio yn y dafarn, gan mai chwarelwr oedd John Roberts wrth ei alwedigaeth.[2]

Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai John Roberts oedd y tafarnwr trwyddedig yno o hyd.[3]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851
  2. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861
  3. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3