Tafarn yr Engineer's Arms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd yr '''Engineer's Arms''' yn dafarn ym mhen gogleddol [[Pen-y-groes]] | Roedd yr '''Engineer's Arms''' yn dafarn ym mhen gogleddol [[Pen-y-groes]] yn un o adeiladau Treddafydd. Fe enwyd y dafarn fel "Engineer's Arms" yng Nghyfrifiad 1861, ond heb nodi fod y preswylydd, John Hughes, gwehydd linsi, sidan a gwlân, 24 oed, yn dafarnwr hefyd, na'i fam, Catherine Hughes, 43 oed, a weithiodd fel un oedd yn cadw tŷ ac yn gweithio fel "waitress".<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1861</ref> Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 fodd bynnag, nodwyd mai Catherine Hughes oedd y dafarnwraig.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref> Dichon nad oedd oes hir iawn i'r dafarn, gan nad oes fawr o sôn amdani wedyn yn y ffynonellau arferol. Yr unig gyfeiriad sydd wedi dod i'r fei yw un am "Mr. Hughes" (John Hughes mae'n debyg) yn chwarae'r piano mewn parti plant yn [[Neuadd y Farchnad]], Pen-y-groes, er mwyn dathlu priodas Owen Parry, ysw. ym 1869.<ref>''Y Tyst Cymreig'', 25.6.1869, t.3</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Tafarndai]] | [[Categori:Tafarndai]] | ||
Fersiwn yn ôl 15:35, 29 Hydref 2025
Roedd yr Engineer's Arms yn dafarn ym mhen gogleddol Pen-y-groes yn un o adeiladau Treddafydd. Fe enwyd y dafarn fel "Engineer's Arms" yng Nghyfrifiad 1861, ond heb nodi fod y preswylydd, John Hughes, gwehydd linsi, sidan a gwlân, 24 oed, yn dafarnwr hefyd, na'i fam, Catherine Hughes, 43 oed, a weithiodd fel un oedd yn cadw tŷ ac yn gweithio fel "waitress".[1] Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 fodd bynnag, nodwyd mai Catherine Hughes oedd y dafarnwraig.[2] Dichon nad oedd oes hir iawn i'r dafarn, gan nad oes fawr o sôn amdani wedyn yn y ffynonellau arferol. Yr unig gyfeiriad sydd wedi dod i'r fei yw un am "Mr. Hughes" (John Hughes mae'n debyg) yn chwarae'r piano mewn parti plant yn Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes, er mwyn dathlu priodas Owen Parry, ysw. ym 1869.[3]