Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd '''Ellis Roberts''', (1827-1895), bardd, melinydd ac offeiriad, yn [[Llwyn-y-gwalch]], ger [[Y Groeslon]], er mai cofiant byr iddo'n honni mai mewn lle a elwid yn "Talcen Tragwyddol" y cafodd ei eni, ger Glan-llyn, Y Groeslon.<ref>''Papur Pawb'', 24.11.1894, t.4</ref> Roedd yn drydydd mab i [[Morris Roberts (Eos Llyfnwy)]] a Margaret ei wraig - ac yn ŵyr i Robert Morris (Robin Ddu Eifionydd). Ar .ol treulio ychydig o amser yn gweithio yn [[Chwarel Cilgwyn]], bu'n felinydd am 12 mlynedd yn helpu ei dad a oedd yn cael ei gyflogi ym [[Melin Forgan]] i gychwyn, yn bennaf fel cariwr, ac wedyn ym [[Melin Wnda]] ac wedyn i [[Melin Llanllyfni|Felin Llanllyfni]], lle cafodd niwed sylweddol i'w law, gyda'r effaith yn aros gydaag ef weddill ei oes. Wedyn symudodd y teulu i [[Melin Llanllyfni|Felin Llanllyfni]]. Yn [[Llanllyfni]], cymerodd yr offeiriad Anglicanaidd, y Parch. John Jones, wedi cymryd  diddordeb ynddo a'i awen ac yn ei annog i geisio mwy o addysg. Ac yntau wedi cyrraedd 23 oed, aeth am ryw hanner blwyddyn i [[Ysgol Eben Fardd]] yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog Fawr]]. O weithio ym Melin Llanllyfni aeth i Goleg Hyfforddi Caernarfon, coleg dan nawdd yr Eglwys.<ref>''Papur Pawb'', 24.11.1894, t.4</ref> Bu'n cadw ysgol yn Y Waunfawr, Arfon, a Llwyn-y-gell, Ffestiniog, hyd 1862. Priododd ysgolfeistres Llwyn-y-gell, Esther Mary Roberts, ym 1854 a chafodd y ddau ferch a thri mab a aeth ymlaen i gael eu hordeinio yn yr Eglwys Anglicanaidd. Cafodd Ellis Roberts ei ordeinio'n ddiacon yn Esgobaeth Llanelwy ym 1862. Bu'n gurad yn Rhosymedre, yn ficer Llanfihangel Glyn Myfyr, ac yn olaf yn ficer Llangwm (oll yn Sir Ddinbych), a bu farw yn Llangwm ym 1895.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', tt.810-11</ref>.
Ganwyd '''Ellis Roberts''', (1827-1895), bardd, melinydd ac offeiriad, yn [[Llwyn-y-gwalch]], ger [[Y Groeslon]], er bod cofiant byr iddo'n honni mai mewn lle a elwid yn "Talcen Tragwyddol" y cafodd ei eni, ger Glan-llyn, Y Groeslon.<ref>''Papur Pawb'', 24.11.1894, t.4</ref> Roedd yn drydydd mab i [[Morris Roberts (Eos Llyfnwy)]] a Margaret ei wraig - ac yn ŵyr i Robert Morris (Robin Ddu Eifionydd). Ar ôl treulio ychydig o amser yn gweithio yn [[Chwarel Cilgwyn]], bu'n felinydd am 12 mlynedd yn helpu ei dad, a oedd yn cael ei gyflogi ym [[Melin Forgan]] i ddechrau, yn bennaf fel cariwr, yna ym [[Melin Wnda]] ac wedyn i [[Melin Llanllyfni|Felin Llanllyfni]]. Yno cafodd Ellis niwed sylweddol i'w law pan gafodd ei gwasgu rhwng meini'r felin, gyda'r effaith yn aros gydag ef weddill ei oes. Wedyn symudodd y teulu i [[Melin Llanllyfni|Felin Llanllyfni]]. Yn [[Llanllyfni]], cymerodd yr offeiriad Anglicanaidd, y Parch. John Jones, ddiddordeb ynddo ef a'i awen gynnar, gan ei annog i geisio mwy o addysg. Yn 23 oed, aeth am ryw hanner blwyddyn i [[Ysgol Eben Fardd]] yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog Fawr]]. O weithio ym Melin Llanllyfni aeth i Goleg Hyfforddi Caernarfon, coleg dan nawdd yr Eglwys.<ref>''Papur Pawb'', 24.11.1894, t.4</ref> Bu'n cadw ysgol yn Y Waunfawr, Arfon, a Llwyn-y-gell, Ffestiniog, hyd 1862. Priododd ag ysgolfeistres Llwyn-y-gell, Esther Mary Roberts, ym 1854 a chafodd y ddau ferch a thri mab a aeth ymlaen i gael eu hordeinio yn yr Eglwys Anglicanaidd. Cafodd Ellis Roberts ei ordeinio'n ddiacon yn Esgobaeth Llanelwy ym 1862. Bu'n gurad yn Rhosymedre, yn ficer Llanfihangel Glyn Myfyr, ac yn olaf yn ficer Llangwm (oll yn Sir Ddinbych), a bu farw yn Llangwm ym 1895.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', tt.810-11</ref>.


Fe ystyrir ei waith llenyddol bellach yn drwm ac anhygyrch i'r darllenydd modern, ond bu'n fardd gweddol lwyddiannus a chynhyrchiol. Ysgrifennodd ''Awdl y Sabboth'' (1856); ''Awdl Maes Bosworth'' (1858) ac ambell i waith Saesneg, ymysg pethau eraill. Bu'n awdur rhyddiaith hefyd ac yn olygydd papur yr Eglwys Sefydliedig yng Nghymru, ''Yr Haul''. Mae'r ''Cydymaith'' yn canmol ei "ganu natur swynol".<ref>Meic Stephens (gol),''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', (Caerdydd, 1986), t.507</ref>
Fe ystyrir ei waith llenyddol bellach yn drwm ac anhygyrch i'r darllenydd modern, ond bu'n fardd gweddol lwyddiannus a chynhyrchiol. Ysgrifennodd ''Awdl y Sabboth'' (1856); ''Awdl Maes Bosworth'' (1858) ac ambell i waith Saesneg, ymysg pethau eraill. Bu'n awdur rhyddiaith hefyd ac yn olygydd papur yr Eglwys Sefydliedig yng Nghymru, ''Yr Haul''. Mae'r ''Cydymaith'' yn canmol ei "ganu natur swynol".<ref>Meic Stephens (gol),''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', (Caerdydd, 1986), t.507</ref>

Fersiwn yn ôl 16:23, 28 Hydref 2025

Ganwyd Ellis Roberts, (1827-1895), bardd, melinydd ac offeiriad, yn Llwyn-y-gwalch, ger Y Groeslon, er bod cofiant byr iddo'n honni mai mewn lle a elwid yn "Talcen Tragwyddol" y cafodd ei eni, ger Glan-llyn, Y Groeslon.[1] Roedd yn drydydd mab i Morris Roberts (Eos Llyfnwy) a Margaret ei wraig - ac yn ŵyr i Robert Morris (Robin Ddu Eifionydd). Ar ôl treulio ychydig o amser yn gweithio yn Chwarel Cilgwyn, bu'n felinydd am 12 mlynedd yn helpu ei dad, a oedd yn cael ei gyflogi ym Melin Forgan i ddechrau, yn bennaf fel cariwr, yna ym Melin Wnda ac wedyn i Felin Llanllyfni. Yno cafodd Ellis niwed sylweddol i'w law pan gafodd ei gwasgu rhwng meini'r felin, gyda'r effaith yn aros gydag ef weddill ei oes. Wedyn symudodd y teulu i Felin Llanllyfni. Yn Llanllyfni, cymerodd yr offeiriad Anglicanaidd, y Parch. John Jones, ddiddordeb ynddo ef a'i awen gynnar, gan ei annog i geisio mwy o addysg. Yn 23 oed, aeth am ryw hanner blwyddyn i Ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr. O weithio ym Melin Llanllyfni aeth i Goleg Hyfforddi Caernarfon, coleg dan nawdd yr Eglwys.[2] Bu'n cadw ysgol yn Y Waunfawr, Arfon, a Llwyn-y-gell, Ffestiniog, hyd 1862. Priododd ag ysgolfeistres Llwyn-y-gell, Esther Mary Roberts, ym 1854 a chafodd y ddau ferch a thri mab a aeth ymlaen i gael eu hordeinio yn yr Eglwys Anglicanaidd. Cafodd Ellis Roberts ei ordeinio'n ddiacon yn Esgobaeth Llanelwy ym 1862. Bu'n gurad yn Rhosymedre, yn ficer Llanfihangel Glyn Myfyr, ac yn olaf yn ficer Llangwm (oll yn Sir Ddinbych), a bu farw yn Llangwm ym 1895.[3].

Fe ystyrir ei waith llenyddol bellach yn drwm ac anhygyrch i'r darllenydd modern, ond bu'n fardd gweddol lwyddiannus a chynhyrchiol. Ysgrifennodd Awdl y Sabboth (1856); Awdl Maes Bosworth (1858) ac ambell i waith Saesneg, ymysg pethau eraill. Bu'n awdur rhyddiaith hefyd ac yn olygydd papur yr Eglwys Sefydliedig yng Nghymru, Yr Haul. Mae'r Cydymaith yn canmol ei "ganu natur swynol".[4]

Cyfeiriadau

  1. Papur Pawb, 24.11.1894, t.4
  2. Papur Pawb, 24.11.1894, t.4
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig, tt.810-11
  4. Meic Stephens (gol),Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, (Caerdydd, 1986), t.507