William Morgan Williams (Fferyllfardd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ar y gweill
Roedd Dr '''William Morgan Williams''' (1832-1877) a adwaenid wrth yr enw barddol "Fferyllfardd" yn feddyg ac yn fardd lled enwog yn ei ddydd. Treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid yn [[Y Groeslon]].
Roedd Dr '''William Morgan Williams''' (1832-1877) a adwaenid wrth yr enw barddol "Fferyllfardd" yn feddyg ac yn fardd lled enwog yn ei ddydd. Treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid yn [[Y Groeslon]].

Llinell 10: Llinell 7:
Wedi derbyn addysg elfennol yn Ysgol Botwnnog aeth yn brentis i siop fferyllydd William Parry Williams, Bridge Street, Caernarfon<ref>[http://www.carnarvontraders.com/chemists.html Carnarvon Traders ''CHEMISTS & DRUGGISTS (APOTHERCARIES)'']</ref> Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i weithio fel cynorthwydd a disgybl ym meddygfa Dr Watkin Roberts yng Nghaernarfon cyn mynd ymlaen i ysbyty hyfforddi yng Nglasgow gan raddio yn LRCP (trwydded Coleg y Ffisigwyr) ac MRCS (Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gorffen ei hyfforddiant ymsefydlodd fel meddyg yn Llansanffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych lle y bu'n gwasanaethu hyd weddill ei oes.<ref>''Y Werin'', "Ymweliad a Llandudno. Adgofion Dyddorol", 7.3.1896]</ref>

Priododd Dr William Morgan Williams a Catherine Hughes, Glan y Môr, Llandrillo yn Rhos yn Eglwys y plwyf Llandrillo ar 24 Ionawr 1868, roedd y briodferch yn ferch i John Hughes, llafurwr o'r un plwyf <ref>Archifdy Sir Ddinbych, Cofrestr Priodas Llandrillo yn Rhos 1868.</ref> Cawsant bedwar o blant dau fab a dwy ferch.
Priododd Dr William Morgan Williams a Catherine Hughes, Glan y Môr, Llandrillo yn Rhos yn Eglwys y plwyf Llandrillo ar 24 Ionawr 1868, roedd y briodferch yn ferch i John Hughes, llafurwr o'r un plwyf <ref>Archifdy Sir Ddinbych, Cofrestr Priodasau Llandrillo yn Rhos 1868.</ref> Cawsant bedwar o blant dau fab a dwy ferch. Bu farw Fferyllfardd o drawiad ar y galon ar 9 Mawrth 1877 yn 44 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Llansanffraid Glan Conwy gyda pheth rhwysg. R<ref>''Llais y Wlad'', 16.3.1877</ref>
[[Delwedd:Bedd Fferyllfardd.jpg|bawd|Bedd Fferyllfardd ym mynwent Eglwys St Ffraid Llansanffraid Glan Conwy]]
Bu farw Fferyllfardd o drawiad ar y galon ar 9 Mawrth 1877 yn 44 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Llansanffraid Glan Conwy gyda pheth rhwysg. R<ref>''Llais y Wlad'', 16.3.1877]</ref>

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 10:23, 28 Hydref 2025

Roedd Dr William Morgan Williams (1832-1877) a adwaenid wrth yr enw barddol "Fferyllfardd" yn feddyg ac yn fardd lled enwog yn ei ddydd. Treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid yn Y Groeslon.

Fe'i anwyd ym Mhentre-poeth, Pwllheli ar y 3ydd o Fehefin, 1832, yn fab i William Williams, (Gwilym Heli), oedd yn grydd, a oedd ei hun yn dipyn o fardd gwlad. Ac yntau'n fachgen ifanc, symudodd y teulu i gyffiniau'r Groeslon]], lle 'roedd ei dad wedi cael gwaith ym Melin Forgan gan was a chariwr i'r melinydd. Yno, chwaraeai gyda dau fachgen a wnaeth, fel yntau, dyfu'n feirdd o fri, sef Elis Wyn o Wyrfai a Tremlyn, a oedd yn gefnder i Fferyllfardd. Ar ôl ychydig o flynyddoedd, fodd bynnag, dychwelodd y teulu i ardal Pwllheli.

Dangosai William Morgan ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth er yn ifanc a chyfansoddodd nifer o gerddi cynganeddol a rhydd yn ei arddegau.[1]

Wedi derbyn addysg elfennol yn Ysgol Botwnnog aeth yn brentis i siop fferyllydd William Parry Williams, Bridge Street, Caernarfon[2] Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i weithio fel cynorthwydd a disgybl ym meddygfa Dr Watkin Roberts yng Nghaernarfon cyn mynd ymlaen i ysbyty hyfforddi yng Nglasgow gan raddio yn LRCP (trwydded Coleg y Ffisigwyr) ac MRCS (Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gorffen ei hyfforddiant ymsefydlodd fel meddyg yn Llansanffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych lle y bu'n gwasanaethu hyd weddill ei oes.[3]

Priododd Dr William Morgan Williams a Catherine Hughes, Glan y Môr, Llandrillo yn Rhos yn Eglwys y plwyf Llandrillo ar 24 Ionawr 1868, roedd y briodferch yn ferch i John Hughes, llafurwr o'r un plwyf [4] Cawsant bedwar o blant dau fab a dwy ferch. Bu farw Fferyllfardd o drawiad ar y galon ar 9 Mawrth 1877 yn 44 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Llansanffraid Glan Conwy gyda pheth rhwysg. R[5]

Cyfeiriadau

  1. Papur Pawb, 24.11.1894, t.4
  2. Carnarvon Traders CHEMISTS & DRUGGISTS (APOTHERCARIES)
  3. Y Werin, "Ymweliad a Llandudno. Adgofion Dyddorol", 7.3.1896]
  4. Archifdy Sir Ddinbych, Cofrestr Priodasau Llandrillo yn Rhos 1868.
  5. Llais y Wlad, 16.3.1877