Tafarn y Dolydd Arms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Irion y dudalen Dolydd Arms i Tafarn y Dolydd Arms
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Rhestrwyd y '''Dolydd Arms''' yng Nghyfarwyddiadur Slater dyddiedig 1868.<ref>''Slater's Directory of Gloucestershire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and Wales, 1868'' (Manceinion a Llundain, 1868) t.587, ar gael ar y Wê ar Wefan ''University of Leicester Special Collections On-line'' [https://leicester.contentdm.oclc.org/digital/collection/p16445coll4/id/90995/rec/3], cyrchwyd 21.10.2025</ref> Nodwyd mai John Huxley oedd y tafarnwr. Mae hi bron yn sicr mai y dafarn a gynhaliwyd yn nhŷ [[Plas Dolydd]] oedd y dafarn hon; bu tafarn ar y safle ers o leiaf ail hanner y 18g.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150</ref> Yn ôl Cyfrifiad 1871, galwyd yr adeilad yn "Dolydd" yn unig (heb y "Plas") ac nid oes sôn am dafarn, ond John Huxley oedd y preswylydd yno o hyd, er iddo gael ei ddisgrifio fel melinydd.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871</ref> Tybed ai swydd ran-amser gyda'r nos oedd bod yn dafarnwr. Beth bynnag, ni fu melin erioed ym Mhlas Dolydd, a rhaid mai gweithio mewn melin arall yn y cyffiniau oedd Huxley.
Rhestrwyd y '''Dolydd Arms''' yng Nghyfarwyddiadur Slater dyddiedig 1868.<ref>''Slater's Directory of Gloucestershire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and Wales, 1868'' (Manceinion a Llundain, 1868) t.587, ar gael ar y Wê ar Wefan ''University of Leicester Special Collections On-line'' [https://leicester.contentdm.oclc.org/digital/collection/p16445coll4/id/90995/rec/3], cyrchwyd 21.10.2025</ref> Nodwyd mai John Huxley oedd y tafarnwr. Mae bron yn sicr mai'r dafarn a geid yn nhŷ [[Plas Dolydd]] oedd y dafarn hon; bu tafarn ar y safle ers o leiaf ail hanner y 18g.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150</ref> Yn ôl Cyfrifiad 1871, galwyd yr adeilad yn "Dolydd" yn unig (heb y "Plas") ac nid oes sôn am dafarn, ond John Huxley oedd y preswylydd yno o hyd, er iddo gael ei ddisgrifio fel melinydd.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871</ref> Tybed ai swydd ran-amser gyda'r nos oedd bod yn dafarnwr. Beth bynnag, ni fu melin erioed ym Mhlas Dolydd, a rhaid mai gweithio mewn melin arall yn y cyffiniau oedd Huxley.


Gŵr o Aberffraw oedd John Huxley, a aned ym 1820. Ym 1841, roedd yn lodjio yn Stryd yr Wyddfa, Caernarfon, ac yn gweithio fel peiriannydd melinau.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1841</ref> Ym 1851 fo oedd melinydd [[Melin y Bont-faen]], plwyf [[Llanwnda]]. Erbyn 1861, roedd wedi symud i fod yn felinydd [[Melin Wnda]]. Ar ôl ei amser yn y [[Dolydd]] dychwelodd i Felin y Bont-faen ac yn gweithio fel y melinydd, gyda help ei fab, ydoedd ym 1881 a 1891, ac yntau erbyn 1891 yn 71 oed.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851-61, 1881-91</ref> Bu iddo farw ym 1899.<ref>Mynegai Marwolaethau Cynmru a Lloegr, 1899</ref>, ac yn cael ei gladdu 22 Awst y flwyddyn honnoyn 80 oed yn Llanfaglan. Roedd yn dal i fyw ym Melin y Bobt-faen ac yn dal i gael ei ddisgrifio fel melinydd.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestru Claddedigaethau plwyf Llanfaglan.</ref>
Gŵr o Aberffraw oedd John Huxley, a aned ym 1820. Ym 1841, roedd yn lletya yn Stryd yr Wyddfa, Caernarfon, ac yn gweithio fel peiriannydd melinau.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1841</ref> Ym 1851 fo oedd melinydd [[Melin y Bont-faen]], plwyf [[Llanwnda]]. Erbyn 1861, roedd wedi symud i fod yn felinydd [[Melin Wnda]]. Ar ôl ei gyfnod yn y [[Dolydd]] dychwelodd i Felin y Bont-faen gan weithio yno fel y melinydd, gyda help ei fab. Dyna ei hanes ym 1881 a 1891, ac yntau erbyn 1891 yn 71 oed.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851-61, 1881-91</ref> Bu farw ym 1899 yn 80 oed <ref>Mynegai Marwolaethau Cynmru a Lloegr, 1899</ref>, ac fe'i claddwyd 22 Awst y flwyddyn honno yn Llanfaglan. Roedd yn dal i fyw ym Melin y Bont-faen ac yn dal i gael ei ddisgrifio fel melinydd.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Claddedigaethau plwyf Llanfaglan.</ref>


Am hanes llawn yr adeilad, gweler erthygl [[Plas Dolydd]].
Am hanes llawn yr adeilad, gweler erthygl [[Plas Dolydd]].

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:15, 23 Hydref 2025

Rhestrwyd y Dolydd Arms yng Nghyfarwyddiadur Slater dyddiedig 1868.[1] Nodwyd mai John Huxley oedd y tafarnwr. Mae bron yn sicr mai'r dafarn a geid yn nhŷ Plas Dolydd oedd y dafarn hon; bu tafarn ar y safle ers o leiaf ail hanner y 18g.[2] Yn ôl Cyfrifiad 1871, galwyd yr adeilad yn "Dolydd" yn unig (heb y "Plas") ac nid oes sôn am dafarn, ond John Huxley oedd y preswylydd yno o hyd, er iddo gael ei ddisgrifio fel melinydd.[3] Tybed ai swydd ran-amser gyda'r nos oedd bod yn dafarnwr. Beth bynnag, ni fu melin erioed ym Mhlas Dolydd, a rhaid mai gweithio mewn melin arall yn y cyffiniau oedd Huxley.

Gŵr o Aberffraw oedd John Huxley, a aned ym 1820. Ym 1841, roedd yn lletya yn Stryd yr Wyddfa, Caernarfon, ac yn gweithio fel peiriannydd melinau.[4] Ym 1851 fo oedd melinydd Melin y Bont-faen, plwyf Llanwnda. Erbyn 1861, roedd wedi symud i fod yn felinydd Melin Wnda. Ar ôl ei gyfnod yn y Dolydd dychwelodd i Felin y Bont-faen gan weithio yno fel y melinydd, gyda help ei fab. Dyna ei hanes ym 1881 a 1891, ac yntau erbyn 1891 yn 71 oed.[5] Bu farw ym 1899 yn 80 oed [6], ac fe'i claddwyd 22 Awst y flwyddyn honno yn Llanfaglan. Roedd yn dal i fyw ym Melin y Bont-faen ac yn dal i gael ei ddisgrifio fel melinydd.[7]

Am hanes llawn yr adeilad, gweler erthygl Plas Dolydd.

Cyfeiriadau

  1. Slater's Directory of Gloucestershire, Herefordshire, Monmouthshire, Shropshire and Wales, 1868 (Manceinion a Llundain, 1868) t.587, ar gael ar y Wê ar Wefan University of Leicester Special Collections On-line [1], cyrchwyd 21.10.2025
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf. 1, (Caernarfon, 1910) t.150
  3. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871
  4. Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1841
  5. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1851-61, 1881-91
  6. Mynegai Marwolaethau Cynmru a Lloegr, 1899
  7. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Claddedigaethau plwyf Llanfaglan.