Thomas Jones (Eos Beuno): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Thomas Jones''' (1849-1936), a ddefnyddai'r ffugenw Eos Beuno, yn hanu o blwyf Llanwnda. Mab [[Ffatri wlân Bontnewydd]] ydoedd, a'i dad Daniel Jones (g.1805) a hanai o Lanbeblig wedi cymryd y felin ar ôl symud o Sir Fôn gyda'i wraig Anne o Fiwmares tua tair blynedd cyn ei eni ym 1849. Roedd yn adnabyddus fel unawdydd, arweinydd cyngherddau ac adroddwr. Yn ddyn ifanc, roedd yn wehydd wrth ei waith bob dydd | Roedd '''Thomas Jones''' (1849-1936), a ddefnyddai'r ffugenw Eos Beuno, yn hanu o blwyf Llanwnda. Mab [[Ffatri wlân Bontnewydd]] ydoedd, a'i dad Daniel Jones (g.1805) a hanai o Lanbeblig wedi cymryd y felin ar ôl symud o Sir Fôn gyda'i wraig Anne o Fiwmares tua tair blynedd cyn ei eni ym 1849. Roedd yn adnabyddus fel unawdydd, arweinydd cyngherddau ac adroddwr. Yn ddyn ifanc, roedd yn wehydd wrth ei waith bob dydd; mae'n debyg iddo weithio yn ffatri ei dad oedd gerllaw ei dŷ, sef un o dai Ynys Bont ger [[Capel Libanus (A), Y Bontnewydd]], ym 1871. Erbyn 1881, roedd yn byw yn Lodj Plas-y-bryn. Roedd yn 31 erbyn hynny, a'i wraig Elizabeth yn 28. Ail wraig iddo oedd hi, wedi iddo golli ei wraig gyntaf Susannah. Roedd ganddynt ferch fach, Hannah, 10 mis oed.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda 1851-1881</ref> | ||
Erbyn 1891, roedd wedi newid ei alwedigaeth, gan iddo gael ei ddisgrifio fel | Erbyn 1891, roedd wedi newid ei alwedigaeth, gan iddo gael ei ddisgrifio fel deliwr mewn te a groser. Roedd yn dal i fyw yn y Lodj, ac erbyn hynny roedd tri mab gan Thomas ac Elizabeth. Erbyn 1911, roedd wedi mabwysiadu'r enw canol Beuno, ac yn byw yn 2 Rhes Libanus, [[Y Bontnewydd], gerllaw y Lodj, y lle bu'n gartref i'r teulu.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1891, 1911</ref> Roedd yn dal i weithio fel gwerthwr te. Yn ystod 1886-7 bu'n wael iawn, a chodwyd y swm sylweddol (y pryd hwnnw) o £18 iddo mewn darlith a chyngerdd yng [[Capel Libanus (A), Y Bontnewydd|Nghapel Libanus]].<ref>''Y Genedl Gymreig'', 28.12.1887, t.6</ref> | ||
Adroddwyd am berfformiadau ganddo yn y papurau newydd lleol yn gyson o'r 1870au ymlaen, gan deithio mor bell | Adroddwyd am berfformiadau ganddo yn y papurau newydd lleol yn gyson o'r 1870au ymlaen, gan deithio mor bell ag ardal Wrecsam.<ref>'''Wrexham and Denbighshire Advertiser'', 29.12.1877, t.6</ref> | ||
Roedd o'n gefnder i | Roedd o'n gefnder i'r cerddor amlwg, John Jones (Eos Bradwen), Caernarfon (1831-1899).<ref>''Y Bywgraffiadur Ar'lein'', cyrchwyd 26.9.2025; ''Y Genedl Gymreig'', 6.6.1899, t.5</ref> | ||
Bu farw 30 Mai 1936, ac fe'i claddwyd ym [[Mynwent Bryn'rodyn]].<ref>Gwefan ''Find a Grave'', cyrchwyd 25.9.2025</ref> Mae rhan o hunangofiant llawysgrif a barddoniaeth o'i eiddo yn Archifdy Gwynedd.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/11681</ref> | Bu farw 30 Mai 1936, ac fe'i claddwyd ym [[Mynwent Bryn'rodyn]].<ref>Gwefan ''Find a Grave'', cyrchwyd 25.9.2025</ref> Mae rhan o'i hunangofiant llawysgrif a barddoniaeth o'i eiddo yn Archifdy Gwynedd.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/11681</ref> | ||
== | ==Cyfeiriadau== | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
Fersiwn yn ôl 14:56, 26 Medi 2025
Roedd Thomas Jones (1849-1936), a ddefnyddai'r ffugenw Eos Beuno, yn hanu o blwyf Llanwnda. Mab Ffatri wlân Bontnewydd ydoedd, a'i dad Daniel Jones (g.1805) a hanai o Lanbeblig wedi cymryd y felin ar ôl symud o Sir Fôn gyda'i wraig Anne o Fiwmares tua tair blynedd cyn ei eni ym 1849. Roedd yn adnabyddus fel unawdydd, arweinydd cyngherddau ac adroddwr. Yn ddyn ifanc, roedd yn wehydd wrth ei waith bob dydd; mae'n debyg iddo weithio yn ffatri ei dad oedd gerllaw ei dŷ, sef un o dai Ynys Bont ger Capel Libanus (A), Y Bontnewydd, ym 1871. Erbyn 1881, roedd yn byw yn Lodj Plas-y-bryn. Roedd yn 31 erbyn hynny, a'i wraig Elizabeth yn 28. Ail wraig iddo oedd hi, wedi iddo golli ei wraig gyntaf Susannah. Roedd ganddynt ferch fach, Hannah, 10 mis oed.[1]
Erbyn 1891, roedd wedi newid ei alwedigaeth, gan iddo gael ei ddisgrifio fel deliwr mewn te a groser. Roedd yn dal i fyw yn y Lodj, ac erbyn hynny roedd tri mab gan Thomas ac Elizabeth. Erbyn 1911, roedd wedi mabwysiadu'r enw canol Beuno, ac yn byw yn 2 Rhes Libanus, [[Y Bontnewydd], gerllaw y Lodj, y lle bu'n gartref i'r teulu.[2] Roedd yn dal i weithio fel gwerthwr te. Yn ystod 1886-7 bu'n wael iawn, a chodwyd y swm sylweddol (y pryd hwnnw) o £18 iddo mewn darlith a chyngerdd yng Nghapel Libanus.[3]
Adroddwyd am berfformiadau ganddo yn y papurau newydd lleol yn gyson o'r 1870au ymlaen, gan deithio mor bell ag ardal Wrecsam.[4]
Roedd o'n gefnder i'r cerddor amlwg, John Jones (Eos Bradwen), Caernarfon (1831-1899).[5]
Bu farw 30 Mai 1936, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Bryn'rodyn.[6] Mae rhan o'i hunangofiant llawysgrif a barddoniaeth o'i eiddo yn Archifdy Gwynedd.[7]
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda 1851-1881
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1891, 1911
- ↑ Y Genedl Gymreig, 28.12.1887, t.6
- ↑ 'Wrexham and Denbighshire Advertiser, 29.12.1877, t.6
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar'lein, cyrchwyd 26.9.2025; Y Genedl Gymreig, 6.6.1899, t.5
- ↑ Gwefan Find a Grave, cyrchwyd 25.9.2025
- ↑ Archifdy Gwynedd, XM/11681